Ioan 5
5
Iesu in gwella dyn ar bwys Iet i Defed
1Wedi hyn we'r Iddewon in cadw gŵyl, a âth Iesu lan i Jeriwsalem. 2In Jerwisalem, ar bwys Iet i Defed, ma pwll i gâl gyda pump row o golfne rownd 'ddo. Enw'r pwll 'ma in aith ir Iddewon yw Bethsatha. 3Rhynt i colofne 'ma we lot o bobl we ddim in dda in gorwe, pobl dost, pobl ddall, pobl gloff, neu pobl we'i coese neu breiche nhw wedi parlisu. 4(Wen nhwy'n gorwe fan 'na in dishgwil i'r dŵr simud, achos bob hyn a hyn bise angel in dod lawr i'r pwll a neud i'r dŵr simud; wedyn bise'r dyn cinta in i dŵr wedi iddo simud in cael i wella o unrhiw beth we arno.) 5We dyn fan 'ny we wedi bod in dost am ddounaw mline ar hugen. 6Pan welo Iesu fe'n gorwe fan 'ny, gwedodd e wrtho, “Wyt ti ishe câl di neud in iawn?” 7Atebo'r dyn tost, “Mishtir, sneb 'da fi in roi i in i pwll pan ma'r dŵr in simud; achos pan dwi'n treial codi i fynd at i pwll, mae rhiwun arall wastad in mynd miwn o'n flân i.” 8Gwedo Iesu wrtho fe, “Saf ar di drâd, cod di wely lan a cerdda.” 9Ar unweth gas i dyn i neud in iawn, cododd e i wely a cered.
10Dy Sabath wedd i. So wedo'r Iddewon wrth i dyn we wedi câl i neud in iawn, “Dy Sabath yw i; sen i'n iawn iti godi di wely.” 11Atebodd e nhwy, “Wedo'r dyn nâth neud fi'n iawn, ‘Cod e lan a cerdda.’” 12Gofinon nhwy wrtho fe, “Pwy wedo wrthot ti, ‘Cod e lan a cerdda?’” 13Ond we'r dyn we wedi câl i neud in iawn ddim in gwbod pwy wedd e. We Iesu wedi o fan 'ny achos bod crowde 'na.
14Wedi 'ny câs Iesu afel in i dyn in i demel, a gweu 'tho, “Dricha, wit ti 'di câl di neud in iawn; so paid pechu, os na wit ti ishe rhwbeth gwâth i ddigwidd iti.” 15Âth i dyn a gweu 'th i Iddewon taw Iesu we wedi'i neud e'n well.
Bowid achos i Crwt
16Achos 'ny dachreuodd ir Iddewon erlid Iesu, achos bo fe wedi neud i pethe 'ma dy Sabath. 17Atebo Iesu nhwy, “Lan hys naws seno'n Dad i wedi peido gweitho, ac dwi'n gweitho fel mae e'n neud.” 18Achos hyn treiodd ir Iddewon in galetach byth i ladd e, ddim dim ond achos i fod e wedi torri dy Sabth, ond achos i fod wedi galw Duw in Dad iddo, a neud i unan 'run peth â Duw.
19Gwedo Iesu wrthyn nhw, “Dwi'n gweud i gwir wrthoch chi nawr, seno'r Mab in galler neud ddim byd i unan, gall e ddim ond neud beth mae e'n gweld i Tad in neud; achos 'ta beth ma'r Tad in i neud, ma'r Mab in i neud e 'fyd. 20Achos ma'r Tad in caru'r Mab, a'n dongos popeth mae e'n i neud iddo, a bydd e'n dangos peth mwy 'to iddo fe, a fe gewch chi'ch sinnu. 21Fel ma'r Tad in codi rhei sy'n farw a'n rhoi bowid iddyn nhwy, ma'r Mab 'fyd in rhoi bowid i'r rhei mae e'n dewish rhoi bowid iddyn nhwy. 22Seno'r Tad in barnu neb, ond mae e wedi rhoi'r gwaith o farnu i'r Mab, 23fel bo pob un in parchu'r Mab, yn gowir fel man nhwy'n parchu'r Tad. Os nadi rhiwun in parchu'r Mab, seno whaith in parchu'r Tad nâth i hala fe.
Gweud am Iesu
31“Os dwi'n sharad fel tyst am in unan, seno'n distioleth i'n wir. 32Ma 'na un arall sy'n sharad fel tyst amdana i, a dwi'n gwbod fod tistioleth hwnnw in wir. 33Haloch chi at Ioan, a gwedodd e am i gwir. 34Sena i'n dipendo ar beth ma dinion in gweud, on dwi'n gweud i pethe 'ma fel gallwch chi gâl ich safio. 35Wedd e'n lamp we'n llosgi a'n sheinio, a wech chi'n ddigon jacôs ini i ole am sbel. 36Ond ma'n distioleth i in fwy na un Ioan, achos ma'r gwaith roiodd in Dad ifi neud, i feri pethe wi'n u neud, in tistioleithu amdana i, bo'r Tad wedi'n hala i. 37A ma'r Tad sy wedi'n hala i, wedi tistio amdana i i unan. Senoch chi wedi cliwed i laish e ariôd, na gweld shwt un yw e. 38Seno'i air e in aros indoch chi, achos senoch chi'n credu in ir Un mae e wedi'i hala. 39Ych chi'n whilio trw'r Isgrithure, achos ych chi'n meddwl bo bowid am byth ich indyn nhwy, ond nhwy sy'n tistioleithu amdana i, 40ond wedyn weth senoch chi'n folon dod ata i, er mwyn ichi gâl bowid. 41Sena i'n dibynnu ar gâl parch 'da dinion, 42ond dwi'n ich nabod chi, a'n gwbod sdim cariad at Dduw in ich calone chi o gwbl. 43Dwi wedi dod in enw in Dad, on senoch chi folon in dderbyn i. Os deith rhiwun arall in i enw i unan, sdim dowt na fiddwch chi'n i dderbyn e. 44Shwt allwch chi gredu, pan ych chi'n câl parch 'da'ch gily, ond ddim in whilio am i parch sy'n dod wrth ir unig Dduw? 45Peidwch meddwl bo fi in mynd i'ch tinnu chi lan o flân Duw. Nage, Moses fydd in ich tinnu chi lan, i feri un ych chi wedi rhoi'ch gobeth arno. 46Os bysech chi wedi credu Moses, bysech chi wedi'n gredu i, achos amdana i nâth e reito. 47Os na newch chi gredu in beth nâth e reito, shwt newch chi gredu in ing ngeire i?”
Y Beder Ifingyl gan Lyn Lewis Dafis. Hawlfraint – M ac R Davies