Ioan 2

2
Iesu in troi dŵr in win
1I trididd dwarnod we priodas in Cana ing Galilea, a we mam Iesu 'na. 2We Iesu a'i ddisgiblion wedi câl u gofyn i'r briodas. 3Pan fenodd i gwin gwedodd mam Iesu wrtho fe, “Sdim gwin 'da nhwy ar ôl.” 4Gwedo Iesu, “Be sy mlân 'da ti, mam, in hanlo'n fusnes i? Seno'n amser i wedi dwâd 'to.” 5Gwedodd i fam wrth i gweishon, “Newch chi'n gowir fel mae e'n gweu 'tho chi?” 6Nawr we whech stên bridd fan 'ny sy'n câl u hiwso 'da'r Iddewon i ddala dŵr i olchi ar gownt u crefydd, a ma bob stên in dala rhiw bwmtheg galwn, os na mwy. 7Gwedo Iesu wrthon nhwy, “Llanwch bob stên 'da dŵr.” Llenwon nhwy bob un hyd i fil. 8Wedyn wedodd e wrthon nhwy, “Tinwch beth mas o'r stên, a rhoiwch e i fishtir i wledd.” A nethon nhwy jwst fel wedodd e. 9Tastodd mishtir i wledd i dŵr, we wedi câl i droi in win erbyn 'ny, ond wedd e ddim in gwbod o ble wedd e wedi dwâd, ond we'r gweishon in gwbod in iawn. Galwodd ar i dyn we'n priodi 10a gweu 'tho, “Fel arfer ma bob un sy'n trefnu gwledd in dwâd â'r gwin gore mas ginta, a wedyn i gwin gwâl pan ma pob un in feddw; ond wit ti wedi cadw'r gwin gore hys nawr.” 11Nâth Iesu hyn in Cana in Galilea fel i cinta o'i seinz e bo Duw i'w weld ar i ddeiar; a fe gredodd i ddisgiblion indo fe.
Iesu in clau'r Demel
12Wedi hyn, âth e, i fam, i frodyr a'i ddisgiblion lawr i Capernaum, a aros fan 'ny am gwpwl o ddwarnode.
13We Gŵyl Pasg ir Iddewon in agos, a fe âth Iesu lan i Jeriwsalem. 14In i demel gwelodd e bobl in gwerthu da, defed a colomenod, a we dinion in newid arian 'na 'fyd. 15So nâth e whip mas o dwein a'u hala nhwy i gyd mas o'r demel gida'u defed a'u da. Towlodd e newid mân i rhei we'n newid arian ar i llorie, diwel u fordydd nhwy, 16a gwedodd e wrth i rhei we'n gwerthu colomenod, “Cewch â'r pethe 'ma o fan 'yn; peidwch troi tŷ in Dad in farcet ôl.” 17Cofiodd i ddisgiblion bo'r Isgrithur in gweud, “Bydd gofalu am di dŷ in drech na ti.” 18Gwedo'r Iddewon wrtho fe, “Beth alli di neud i ddangos i ni bo ti'n neud in iawn fan 'yn?” 19Atebo Iesu nhwy, “Tinnwch chi'r demel 'ma lawr, a fe goda i 'ddi 'to miwn tri dwarnod.” 20Gwedo'r Iddewon, “On mae i wedi cwmrid whech mline a deugen i gofi'r demel. Neu di ddim i chodi 'ddi mewn tri dwarnod, neu di?” 21Ond wedd e'n sharad am i gorff fel temel. 22Pan gas e i godi o farw, wedyn cofiodd i ddisgiblion beth wedd e wedi'i weud; a credon nhwy'r isgrithur, a'r gair we Iesu wedi'i weud.
23Pan wedd e'n Jeriwsalem ar gownt Gŵyl i Pasg credodd lot o bobol indo fe pan welon nhwy'r pethe wedd e'n u neud. 24Ond we Iesu ddim in galler mentro tystio i 'unan iddon nhwy, achos wedd e'n 'nabod pobol in iawn 25a we ddim ishe i neb weu 'tho fe am bobol, achos wedd e'n gwbod beth wedd indon nhwy.

በአሁኑ ጊዜ የተመረጠው፡

Ioan 2: DAFIS

ማድመቅ

ኮፒ

አወዳድር

ያጋሩ

None

ያደመቋቸው ምንባቦች በሁሉም መሣሪያዎችዎ ላይ እንዲቀመጡ ይፈልጋሉ? ይመዝገቡ ወይም ይግቡ