Sechareia 12

12
1 Jerusalem yn ffiol gwsg a dychryn iddi ei hun, 3 ac yn faen trwm i’w gwrthwynebwyr. 6 Buddugol adferiad Jwda. 9 Edifeirwch Jerusalem.
1Baich gair yr Arglwydd i Israel, medd yr Arglwydd, #Esa 42:5yr hwn sydd yn estyn allan y nefoedd, ac yn sylfaenu y ddaear, ac #Num 16:22; Preg 12:7yn llunio ysbryd dyn ynddo. 2Wele fi yn gwneuthur Jerwsalem #Esa 51:17, 22yn ffiol #12:2 Neu, grynfa, neu, gwenwyn.gwsg i’r bobloedd oll o amgylch, #12:2 Neu, ac yn erbyn Jwda hefyd y bydd yr hwn a warchae yn erbyn Jerusalem, neu, y bydd wrth warchae yn erbyn, &cpan fyddont yn y gwarchae yn erbyn Jwda, ac yn erbyn Jerwsalem.
3A bydd y dwthwn hwnnw i mi wneuthur Jerwsalem #Mat 21:44yn faen trwm i’r holl bobloedd: pawb a ymlwytho ag ef, yn ddiau a rwygir, er ymgasglu o holl genhedloedd y ddaear yn ei erbyn ef. 4Y diwrnod hwnnw, medd yr Arglwydd, #Salm 76:6y trawaf bob march â syndra, a’i farchog ag ynfydrwydd; ac agoraf fy llygaid ar dŷ Jwda, a thrawaf holl feirch y bobl â dallineb. 5A thywysogion Jwda a ddywedant yn eu calon, #12:5 Neu, Nerth fydd i mi ac i breswylwyr, &cNerth i mi fydd preswylwyr Jerwsalem yn Arglwydd y lluoedd eu Duw hwynt.
6Y dydd hwnnw y gwnaf dywysogion Jwda #Obad 18fel aelwyd o dân yn y coed, ac fel ffagl dân mewn ysgub o wellt; ac ysant ar y llaw ddeau ac ar yr aswy, yr holl bobloedd o amgylch: a Jerwsalem a gyfanheddir drachefn yn ei lle ei hun, yn Jerwsalem. 7Yr Arglwydd a geidw bebyll Jwda yn gyntaf, megis nad ymfawrygo gogoniant tŷ Dafydd, a gogoniant preswylwyr Jerwsalem, yn erbyn Jwda. 8Y dydd hwnnw yr amddiffyn yr Arglwydd breswylwyr Jerwsalem: a #Joel 3:10bydd y #12:8 Heb. cwympedig.llesgaf ohonynt y dydd hwnnw fel Dafydd; a thŷ Dafydd fydd fel Duw, fel angel yr Arglwydd o’u blaen hwynt.
9Y dydd hwnnw y bydd i mi geisio difetha yr holl genhedloedd y sydd yn dyfod yn erbyn Jerwsalem. 10A #Joel 2:28thywalltaf ar dŷ Dafydd, ac ar breswylwyr Jerwsalem, ysbryd gras a gweddïau; a #Ioan 19:34, 37; Dat 1:7hwy a edrychant arnaf fi yr hwn a wanasant; #Jer 6:26; Amos 8:10galarant hefyd amdano fel un yn galaru am ei unig‐anedig, #12:10 Heb. a chwerw fyddant.ac ymofidiant amdano ef megis un yn gofidio am ei gyntaf‐anedig. 11Y dwthwn hwnnw y bydd #Act 2:37galar mawr yn Jerwsalem, #2 Bren 23:29; 2 Cron 35:24megis galar Hadadrimmon yn nyffryn Megidon. 12A’r wlad a alara, #12:12 Heb. yn deuluoedd, yn deuluoedd.pob teulu wrtho ei hun; teulu tŷ Dafydd wrtho ei hun, a’u gwragedd wrthynt eu hunain; teulu tŷ Nathan wrtho ei hunan, a’u gwragedd wrthynt eu hunain; 13Teulu tŷ Lefi wrtho ei hunan, a’u gwragedd wrthynt eu hunain; teulu tŷ #12:13 Neu, Simeon, yn ôl y LXX.Simei wrtho ei hunan, a’u gwragedd wrthynt eu hunain; 14Yr holl deuluoedd eraill, pob teulu wrtho ei hun, a’u gwragedd wrthynt eu hunain.

Kleurmerk

Kopieer

Vergelyk

Deel

None

Wil jy jou kleurmerke oor al jou toestelle gestoor hê? Teken in of teken aan