Luc 1

1
Y chweched Flwyddyn cyn y Cyfrif Cyffredin a elwir Anno Domini. —
1 Rhagymadrodd yr holl efengyl. 5 Cenhedliad Ioan Fedyddiwr, 26 a Christ. 39 Proffwydoliaeth Elisabeth a Mair am Grist. 57 Genedigaeth ac enwaediad Ioan. 67 Proffwydoliaeth Sachareias am Grist, 76 ac Ioan.
1Yn gymaint â darfod i lawer gymryd mewn llaw osod allan mewn trefn draethawd am y pethau a gredir yn ddi‐amau yn ein plith, 2#Heb 2:3; 1 Ioan 1:1Megis y traddodasant hwy i ni, y rhai oeddynt eu hunain #Marc 1:1; Ioan 15:27o’r dechreuad yn gweled, ac yn weinidogion y gair: 3#Act 15:19, 25, 28; 1 Cor 7:40Minnau a welais yn dda, wedi i mi ddilyn pob peth yn ddyfal o’r dechreuad, ysgrifennu mewn trefn atat, #Act 1:1O ardderchocaf Theoffilus, 4Fel y ceit wybod sicrwydd am y pethau y’th ddysgwyd ynddynt.
5Yr oedd #Mat 2:1yn nyddiau Herod, brenin Jwdea, ryw offeiriad a’i enw Sachareias, #1 Cron 24:10; Neh 12:4, 17o #1:5 gylchddydd.ddyddgylch Abeia: a’i wraig oedd o ferched Aaron, a’i henw Elisabeth. 6Ac yr oeddynt ill dau yn gyfiawn gerbron Duw, yn rhodio yn holl orchmynion a deddfau’r Arglwydd yn ddiargyhoedd. 7Ac nid oedd plentyn iddynt, am fod Elisabeth yn amhlantadwy; ac yr oeddynt wedi myned ill dau mewn gwth o oedran. 8A bu, ac efe yn gwasanaethu swydd offeiriad gerbron Duw, yn nhrefn ei #1:8 gylchddydd.ddyddgylch ef, 9Yn ôl arfer swydd yr offeiriaid, ddyfod o ran iddo #Exod 30:7arogldarthu yn ôl ei fyned i deml yr Arglwydd. 10#Lef 16:17A holl liaws y bobl oedd allan yn gweddïo ar awr yr arogl‐darthiad. 11Ac ymddangosodd iddo angel yr Arglwydd yn sefyll o’r tu deau i #Exod 30:1allor yr arogl‐darth. 12A Sachareias, pan ganfu, a gythryblwyd, ac ofn a syrthiodd arno. 13Eithr yr angel a ddywedodd wrtho, Nac ofna, Sachareias: canys gwrandawyd dy weddi; a’th wraig Elisabeth a ddwg i ti fab, a #Ad. 60, 63thi a elwi ei enw ef Ioan. 14A bydd iti lawenydd a gorfoledd; a #Ad. 58llawer a lawenychant am ei enedigaeth ef. 15Canys mawr fydd efe yng ngolwg yr Arglwydd, ac #Num 6:3nid yf na gwin na diod gadarn; ac efe a gyflawnir o’r Ysbryd Glân, #Jer 1:5; Gal 1:15ie, o groth ei fam. 16#Mal 4:5, 6A llawer o blant Israel a dry efe at yr Arglwydd eu Duw. 17Ac efe a â o’i flaen ef yn ysbryd a nerth Eleias, i droi calonnau’r tadau at y plant, a’r anufudd #1:17 Neu, drwy.i ddoethineb y cyfiawn; i ddarparu i’r Arglwydd bobl barod. 18A dywedodd Sachareias wrth yr angel, #Gen 17:17Pa fodd y gwybyddaf fi hyn? canys hynafgwr wyf fi, a’m gwraig hefyd mewn gwth o oedran. 19A’r angel gan ateb a ddywedodd wrtho, Myfi yw #Dan 8:16; 9:21Gabriel, yr hwn wyf yn sefyll gerbron Duw, ac a anfonwyd i lefaru wrthyt, ac #1:19 i efengylu i ti hyn.i fynegi i ti’r newyddion da hyn. 20Ac wele, #Esec 3:26; 24:27ti a fyddi fud ac heb allu llefaru hyd y dydd y gwneler y pethau hyn, am na chredaist i’m geiriau i, y rhai a gyflawnir yn eu hamser. 21Ac yr oedd y bobl yn disgwyl am Sachareias: a rhyfeddu a wnaethant ei fod ef yn aros cyhyd yn y deml. 22A phan ddaeth efe allan, ni allai efe lefaru wrthynt; a hwy a wybuant weled ohono weledigaeth yn y deml: ac yr oedd efe yn gwneuthur amnaid iddynt; ac efe a arhosodd yn fud. 23A bu, cyn gynted ag y cyflawnwyd #Edrych 2 Bren 11:5; 1 Cron 9:25dyddiau ei weinidogaeth ef, fyned ohono i’w dŷ ei hun. 24Ac ar ôl y dyddiau hynny y cafodd Elisabeth ei wraig ef feichiogi, ac a ymguddiodd bum mis, gan ddywedyd, 25Fel hyn y gwnaeth yr Arglwydd i mi yn y dyddiau yr edrychodd arnaf, i #Gen 30:23; Esa 4:1dynnu ymaith fy ngwaradwydd ymhlith dynion.
26Ac yn y chweched mis yr anfonwyd yr angel Gabriel oddi wrth Dduw, i ddinas yng Ngalilea a’i henw Nasareth, 27At forwyn #Mat 1:18wedi ei dyweddïo i ŵr a’i enw Joseff, o dŷ Dafydd; ac enw y forwyn oedd Mair. 28A’r angel a ddaeth i mewn ati, ac a ddywedodd, Henffych well, yr hon a gefaist ras; yr Arglwydd sydd gyda thi: bendigaid wyt ymhlith gwragedd. 29A hithau, pan ei gwelodd, a gythryblwyd wrth ei ymadrodd ef; a meddylio a wnaeth pa fath gyfarch oedd hwn. 30A dywedodd yr angel wrthi, Nac ofna, Mair: canys ti a gefaist ffafr gyda Duw. 31#Esa 7:14; Mat 1:21Ac wele, ti a gei feichiogi yn dy groth, ac a esgori ar fab, ac #Pen 2:21a elwi ei enw ef IESU. 32Hwn fydd mawr, ac a elwir yn Fab y Goruchaf: ac iddo #Salm 132:11y rhydd #Esa 9:6; 16:5; Dat 3:7yr Arglwydd Dduw orseddfa ei dad Dafydd. 33#Dan 2:44; 7:14, 27; Obad 21; Micha 4:7; Ioan 12:34; Heb 1:8Ac efe a deyrnasa ar dŷ Jacob yn dragywydd; ac ar ei frenhiniaeth ni bydd diwedd. 34A Mair a ddywedodd wrth yr angel, Pa fodd y bydd hyn, gan nad adwaen i ŵr? 35A’r angel a atebodd ac a ddywedodd wrthi, Yr Ysbryd Glân a ddaw arnat ti, a nerth y Goruchaf a’th gysgoda di: am hynny hefyd y peth sanctaidd a aner ohonot ti, a elwir yn Fab Duw. 36Ac wele, Elisabeth dy gares, y mae hithau wedi beichiogi ar fab yn ei henaint: a hwn yw’r chweched mis iddi hi, yr hon a elwid yn amhlantadwy. 37Canys #Gen 18:14; Jer 32:17; Sech 8:6; Mat 19:26; Pen 18:27gyda Duw ni bydd dim yn amhosibl. 38A dywedodd Mair, Wele wasanaethyddes yr Arglwydd; bydded i mi yn ôl dy air di. A’r angel a aeth ymaith oddi wrthi hi.
39A Mair a gyfododd yn y dyddiau hynny, ac a aeth i’r mynydd‐dir ar frys, i ddinas o Jwda; 40Ac a aeth i mewn i dŷ Sachareias, ac a gyfarchodd well i Elisabeth. 41A bu, pan glybu Elisabeth gyfarchiad Mair, i’r plentyn yn ei chroth hi lamu: ac Elisabeth a lanwyd o’r Ysbryd Glân. 42A llefain a wnaeth â llef uchel, a dywedyd, Bendigedig wyt ti ymhlith gwragedd, a bendigedig yw ffrwyth dy groth di. 43Ac o ba le y mae hyn i mi, fel y delai mam fy Arglwydd ataf fi? 44Canys wele, er cynted y daeth lleferydd dy gyfarchiad di i’m clustiau, y plentyn a lamodd o lawenydd yn fy nghroth. 45A bendigedig yw’r hon #1:45 Neu, a gredodd y bydd, & c.a gredodd: canys bydd cyflawniad o’r pethau a ddywedwyd wrthi gan yr Arglwydd.
46A dywedodd Mair, Y mae fy enaid yn mawrhau’r Arglwydd, 47A’m hysbryd a lawenychodd yn Nuw fy Iachawdwr. 48Canys #Salm 138:6efe a edrychodd ar waeledd ei wasanaethyddes: oblegid, wele, o hyn allan yr holl genedlaethau a’m geilw yn wynfydedig. 49Canys yr hwn sydd alluog a wnaeth i mi fawredd; a sanctaidd yw ei enw ef. 50#Exod 20:6; Salm 103:17A’i drugaredd sydd yn oes oesoedd ar y rhai a’i hofnant ef. 51#Esa 51:9; 52:10Efe a wnaeth gadernid â’i fraich: #Salm 33:10; 1 Pedr 5:5efe a wasgarodd y rhai beilchion ym mwriad eu calon. 52#1 Sam 2:6 &c; Job 5:11; Salm 113:6Efe a dynnodd i lawr y cedyrn o’u heisteddfâu, ac a ddyrchafodd y rhai isel radd. 53#Salm 34:10Y rhai newynog a lanwodd efe â phethau da; ac efe a anfonodd ymaith y rhai goludog yn weigion. 54Efe a gynorthwyodd ei was Israel, #Jer 31:3, 20gan gofio ei drugaredd; 55#Gen 17:19; Salm 132:11Fel y dywedodd wrth ein tadau, Abraham a’i had, yn dragywydd. 56A Mair a arhosodd gyda hi ynghylch tri mis, ac a ddychwelodd i’w thŷ ei hun.
57A chyflawnwyd tymp Elisabeth i esgor; a hi a esgorodd ar fab. 58A’i chymdogion a’i chenedl a glybu fawrhau o’r Arglwydd ei drugaredd arni; a #Ad. 14hwy a gydlawenychasant â hi. 59A bu, #Gen 17:12; Lef 12:3ar yr wythfed dydd hwy a ddaethant i enwaedu ar y dyn bach; ac a’i galwasant ef Sachareias, yn ôl enw ei dad. 60A’i fam a atebodd ac a ddywedodd, #Ad. 13Nid felly; eithr Ioan y gelwir ef. 61Hwythau a ddywedasant wrthi, Nid oes neb o’th genedl a elwir ar yr enw hwn. 62A hwy a wnaethant amnaid ar ei dad ef, pa fodd y mynnai efe ei enwi ef. 63Yntau a alwodd am argrafflech, ac a ysgrifennodd, gan ddywedyd, #Ad. 13Ioan yw ei enw ef. A rhyfeddu a wnaethant oll. 64Ac agorwyd ei enau ef yn ebrwydd, a’i dafod ef; ac efe a lefarodd, gan fendithio Duw. 65A daeth ofn ar bawb oedd yn trigo yn eu cylch hwy: a thrwy holl fynydd‐dir Jwdea y cyhoeddwyd y #1:65 pethau.geiriau hyn oll. 66A phawb a’r a’u clywsant, a’u gosodasant yn eu calonnau, gan ddywedyd, Beth fydd y bachgennyn hwn? A llaw’r Arglwydd oedd gydag ef.
67A’i dad ef Sachareias a gyflawnwyd o’r Ysbryd Glân, ac a broffwydodd, gan ddywedyd, 68Bendigedig fyddo Arglwydd Dduw Israel: canys #Pen 7:16efe a ymwelodd, ac a wnaeth ymwared i’w bobl; 69Ac #Salm 132:17 efe a ddyrchafodd gorn iachawdwriaeth i ni, yn nhŷ Dafydd ei wasanaethwr; 70#Jer 23:6; 30:10; Act 3:21; Rhuf 1:2Megis y llefarodd trwy enau ei sanctaidd broffwydi, y rhai oedd o ddechreuad y byd: 71Fel y byddai i ni ymwared rhag ein gelynion, ac o law pawb o’n caseion; 72I gwblhau’r drugaredd â’n tadau, ac i gofio ei sanctaidd gyfamod: 73#Gen 12:3; 17:4; 22:16; Heb 6:13, 17Y llw a dyngodd efe wrth ein tad Abraham, ar roddi i ni, 74Gwedi ein rhyddhau o law ein gelynion, #Heb 9:14ei wasanaethu ef yn ddi‐ofn, 75Mewn sancteiddrwydd a chyfiawnder ger ei fron ef, holl dyddiau ein bywyd. 76A thithau, fachgennyn, a elwir yn broffwyd i’r Goruchaf: canys #Mal 3:1; 4:5; Ad. 17ti a ei o flaen wyneb yr Arglwydd, i baratoi ei ffyrdd ef; 77I roddi gwybodaeth iachawdwriaeth i’w bobl, #1:77 er maddeuant.#Pen 3:3trwy faddeuant o’u pechodau, 78Oherwydd #1:78 ymysgaroedd.tiriondeb trugaredd ein Duw; trwy yr hon yr ymwelodd â ni #Num 24:17; Esa 11:1; Sech 3:8; 6:12; Mal 4:2godiad haul o’r uchelder, 79#Esa 9:2; Act 26:18I lewyrchu i’r rhai sydd yn eistedd mewn tywyllwch a chysgod angau, i gyfeirio ein traed i ffordd tangnefedd. 80#Pen 2:40A’r bachgen a gynyddodd, ac a gryfhawyd yn yr ysbryd, ac #Mat 3:1a fu yn y diffeithwch hyd y dydd yr ymddangosodd efe i’r Israel.

Tans Gekies:

Luc 1: BWM1955C

Kleurmerk

Kopieer

Vergelyk

Deel

None

Wil jy jou kleurmerke oor al jou toestelle gestoor hê? Teken in of teken aan