1 Tymothiws 2

2
y pystyl kyntaf i bawl
Yr ail Cytpen
1Kynghori i ddydwy am hyn ymlaen dim, Bid gweddiau, ytolygon a erfyniaday, a thalû diolch, tros bob dyn, 2tros frenhinoedd a phawb ar a ossodet mewn uchelder: fal i gallom i fyw yn llonydd ag yn tengnhefeddol, ynghyd a phob dywioliaeth ag honestrwydd: 3canys hyn sydda a chymradwy, gar bron dyw eyn keidwad 4yrhwn a chwenych fod holl ddynion yn gadwedig ai dyfawd i wybodaeth y gwirionedd: 5canys vn dyw sydd ag vn dyddiwr hefyd rhwng dyw a dyn, sef yw y dyn crist iesu, 6yr hwn ai rhoddes ef i hunan yn bridwerth tros holl ddynion: mal i gallai gael testiolaeth yn eû amser: 7ir hwn im ordiniwyd inaû yn bregethwr ag yn abostol, y gwir a ddoyda yngrhist ac nid gaû, lle i ddwy yn athro ir bobl drwy ffydd a gwirionedd 8mi a fynna am hyn ir gwyr weddio ym hob man dan ddyrcha eû dwylo glan: heb ddiclloni nag amheûeth: 9yn yr vn modd hefyd y merched: ai trwssiad o ddillad gweddus ynghyd a gwladeiddrwydd, (lledneisrwydd) a chymesurwydd: nid mewn gwallt plethedig, neû aûr, neû gemmaû (margarites) neû wisc werthfawr, 10namyn mal i gweddai i ferched a brophessai ddywioliaeth, trwy weithredoedd da: 11merch dysced yn ddistaw yn ostyngedig ym hob peth: 12eithyr ni oddefaf i ferch fod yn athro: na bod iddi awdurdod ar y gwr, eithr bod mewn distawrwydd: 13canys adda yn gyntaf a luniwyd ag yna Eûa: 14nid adda hefyd a siomed eithyr y ferch a siomed ag aeth tan gamwedd: 15Eithyr am ddwyn plant i bydd hi cadwedig os hwynt a erys yn y ffydd a chariad ag mewn glendid a chymesurwydd.

Kleurmerk

Deel

Kopieer

None

Wil jy jou kleurmerke oor al jou toestelle gestoor hê? Teken in of teken aan

YouVersion gebruik koekies om jou ervaring persoonlik te maak. Deur ons webwerf te gebruik, aanvaar jy ons gebruik van koekies soos beskryf in ons Privaatheidsbeleid