YouVersion 標識
搜索圖示

Genesis 2

2
1 Y dydd Saboth. 4 Dull y creu. 8 Plannu gardd Eden, 10 a’i hafon. 17 Gwahardd pren gwybodaeth yn unig. 19 Enwi y creaduriaid. 21 Gwneuthur gwraig, ac ordeinio priodas.
1Felly y gorffennwyd y nefoedd a’r ddaear, #Salm 33:6a’u holl lu hwynt. 2#Exod 20:11; 31:17; Deut 5:14; Heb 4:4Ac ar y seithfed dydd y gorffennodd Duw ei waith, yr hwn a wnaethai efe, ac a orffwysodd ar y seithfed dydd oddi wrth ei holl waith, yr hwn a wnaethai efe. 3A Duw a fendigodd y seithfed dydd, ac a’i sancteiddiodd ef: oblegid ynddo y gorffwysasai oddi wrth ei holl waith, yr hwn a greasai Duw i’w wneuthur.
4Dyma genedlaethau y nefoedd a’r ddaear, pan grewyd hwynt, yn y dydd y gwnaeth yr Arglwydd Dduw ddaear a nefoedd, 5A phob planhigyn y maes cyn ei fod yn y ddaear, a phob llysieuyn y maes cyn tarddu allan: oblegid ni pharasai yr Arglwydd Dduw lawio ar y ddaear, ac nid ydoedd dyn i lafurio’r ddaear. 6Ond tarth a esgynnodd o’r ddaear, ac a ddyfrhaodd holl wyneb y ddaear. 7A’r Arglwydd Dduw a #2:7 ffurfiasai.luniasai y dyn #2:7 Heb. lwch y ddaear.#1 Cor 15:47o bridd y ddaear, ac a anadlasai yn ei ffroenau ef anadl einioes: #1 Cor 15:45a’r dyn a aeth yn enaid byw.
8Hefyd yr Arglwydd Dduw a blannodd ardd yn #Pen 4:16; 2 Bren 19:12; Esec 27:23Eden, o du’r dwyrain, ac a osododd yno y dyn a luniasai efe. 9A gwnaeth yr Arglwydd Dduw i bob pren dymunol i’r golwg, a daionus yn fwyd, ac i bren y bywyd yng nghanol yr ardd, ac i bren gwybodaeth da a drwg, dyfu allan o’r ddaear. 10Ac afon a aeth allan o Eden, i ddyfrhau yr ardd, ac oddi yno hi a rannwyd, ac a aeth yn #2:10 bedair cainc.bedwar pen. 11Enw y gyntaf yw Pison: hon sydd yn amgylchu holl wlad Hafila, lle y mae yr aur: 12Ac aur y wlad honno sydd dda: yno mae bdeliwm a’r maen onics. 13Ac enw yr ail afon yw Gihon: honno sydd yn amgylchu holl wlad #2:13 Heb. Cush.Ethiopia. 14Ac enw y drydedd afon yw Hidecel: honno sydd yn myned #2:14 Tu a’r dwyrain.o du’r dwyrain i Asyria: a’r bedwaredd afon yw Ewffrates. 15A’r Arglwydd Dduw a gymerodd #2:15 Adda.y dyn, ac a’i gosododd ef yng ngardd Eden, i’w llafurio ac i’w chadw hi. 16A’r Arglwydd Dduw a orchmynnodd i’r dyn, gan ddywedyd, O bob pren o’r ardd gan fwyta y gelli fwyta: 17Ond o bren gwybodaeth da a drwg, na fwyta ohono; oblegid yn y dydd y bwytei di ohono, gan farw y byddi farw.
18Hefyd yr Arglwydd Dduw a ddywedodd, Nid da bod y dyn ei hunan; gwnaf iddo #2:18 Gymorth.ymgeledd #2:18 Heb. megis ger ei fron ef.cymwys iddo. 19A’r Arglwydd Dduw a #2:19 ffurfiodd.luniodd o’r ddaear holl fwystfilod y maes, a holl ehediaid y nefoedd, ac #Edrych Pen 6:20a’u dygodd at Adda, i weled pa enw a roddai efe iddynt hwy: a pha fodd bynnag yr enwodd y dyn bob peth byw, hynny fu ei enw ef. 20Ac Adda a #2:20 roes.enwodd enwau ar yr holl anifeiliaid, ac ar ehediaid y nefoedd, ac ar holl fwystfilod y maes: ond ni chafodd efe i Adda #2:20 Gymorth.ymgeledd cymwys iddo. 21A’r Arglwydd Dduw a wnaeth i drymgwsg syrthio ar Adda, ac efe a gysgodd: ac efe a gymerodd un o’i asennau ef, ac a gaeodd #2:21 ei lle hi d chig.gig yn ei lle hi. 22A’r Arglwydd Dduw a #2:22 Heb. adeiladodd.wnaeth yr asen a gymerasai efe o’r dyn, yn wraig, ac a’i dug at y dyn. 23Ac Adda a ddywedodd, Hon weithian sydd asgwrn o’m hesgyrn i, a chnawd o’m cnawd i: hon a elwir gwraig, oblegid o ŵr y #1 Cor 11:8cymerwyd hi. 24#Mat 19:5; Marc 10:7; 1 Cor 6:16; Eff 5:31Oherwydd hyn yr ymedy gŵr â’i dad, ac â’i fam, ac y glŷn wrth ei wraig: a hwy a fyddant yn un cnawd. 25Ac yr oeddynt ill dau yn noethion, Adda a’i wraig, ac nid oedd arnynt gywilydd.

目前選定:

Genesis 2: BWM1955C

醒目顯示

分享

複製

None

想要在所有設備上保存你的醒目顯示嗎? 註冊或登入

YouVersion 使用 cookie 來個性化你的體驗。透過使用我們的網站,你即接受我們按照我們的 隱私政策所述來使用 cookie。