YouVersion 標識
搜索圖示

Genesis 3

3
1 Y sarff yn hudo Efa. 6 Cywilyddus gwymp dyn. 9 Duw yn eu holi ac yn eu barnu hwy. 14 Melltithio y sarff. 15 Addo yr had. 16 Cosbedigaeth dyn. 21 Ei wisgo gyntaf; 22 a’i fwrw allan o Baradwys.
1A’r sarff oedd #Mat 10:16; 2 Cor 11:3gyfrwysach na holl fwystfilod y maes, y rhai a wnaethai yr Arglwydd Dduw. A hi a ddywedodd wrth y wraig, Ai #3:1 Neu, am.diau ddywedyd o Dduw, Ni chewch chwi fwyta o bob pren o’r ardd? 2A’r wraig a ddywedodd wrth y sarff, O ffrwyth prennau yr ardd y cawn ni fwyta: 3Ond am ffrwyth y pren sydd yng nghanol yr ardd, Duw a ddywedodd, Na fwytewch ohono, ac na chyffyrddwch ag ef, rhag eich marw. 4#2 Cor 11:3; 1 Tim 2:14A’r sarff a ddywedodd wrth y wraig, Ni byddwch feirw ddim. 5Canys gwybod y mae Duw, mai yn y dydd y bwytaoch ohono ef, yr agorir eich llygaid, ac y byddwch megis duwiau, yn gwybod da a drwg. 6A phan welodd y wraig mai da oedd ffrwyth y pren yn fwyd, ac mai #3:6 Neu, dymunol.teg mewn golwg ydoedd, a’i fod yn bren dymunol i beri deall, hi a gymerth o’i ffrwyth ef, #1 Tim 2:14ac a fwytaodd, ac a roddes i’w gŵr hefyd gyda hi, ac efe a fwytaodd. 7A’u llygaid hwy ill dau a agorwyd, a hwy a wybuant eu bod yn noethion, ac a wniasant ddail y ffigysbren, ac a wnaethant iddynt #3:7 wregysau.arffedogau. 8A hwy a glywsant lais yr Arglwydd Dduw yn rhodio yn yr ardd, gydag awel y dydd; ac ymguddiodd Adda a’i wraig o olwg yr Arglwydd Dduw, ymysg prennau yr ardd. 9A’r Arglwydd Dduw a alwodd ar Adda, ac a ddywedodd wrtho, Pa le yr wyt ti? 10Yntau a ddywedodd, Dy lais a glywais yn yr ardd; a mi a ofnais, oblegid noeth oeddwn, ac a ymguddiais. 11A dywedodd Duw, Pwy a fynegodd i ti dy fod yn noeth? ai o’r pren y gorchmynaswn i ti na fwyteit ohono, y bwyteaist? 12Ac Adda a ddywedodd, Y wraig a roddaist gyda mi, hi a roddodd i mi o’r pren, a mi a fwyteais. 13A’r Arglwydd Dduw a ddywedodd wrth y wraig, Paham y gwnaethost ti hyn? A’r wraig a ddywedodd, Y sarff a’m twyllodd, a bwyta a wneuthum. 14A’r Arglwydd Dduw a ddywedodd wrth y sarff, Am wneuthur ohonot hyn, melltigedicach wyt ti na’r holl anifeiliaid, ac na holl fwystfilod y maes: ar dy dor y cerddi, #Esa 65:25; Micha 7:17a phridd a fwytei holl ddyddiau dy einioes. 15Gelyniaeth hefyd a osodaf rhyngot ti a’r wraig, a rhwng #Mat 3:7; 13:38; 23:33; Ioan 8:44; Act 13:10; 1 Ioan 3:8dy had di #Salm 132:11; Esa 7:14; Micha 5:3a’i had hithau: #Rhuf 16:20; Heb 2:14; 1 Ioan 5:5; Dat 12:7, 17efe a ysiga dy ben di, a thithau a ysigi ei sawdl ef. 16Wrth y wraig y dywedodd, Gan amlhau yr amlhaf dy boenau di a’th feichiogi: mewn poen y dygi blant, #Pen 4:7a’th ddymuniad fydd at dy ŵr, #1 Cor 14:34; 1 Tim 2:11, 12; Titus 2:5ac efe a lywodraetha arnat ti. 17Hefyd wrth Adda y dywedodd, Am wrando ohonot ar lais dy wraig, a bwyta o’r pren am yr hwn y gorchmynaswn i ti, gan ddywedyd, Na fwyta ohono; #Esa 24:5, 6; Rhuf 8:20melltigedig fydd y ddaear o’th achos di: trwy lafur y bwytei ohoni holl ddyddiau dy einioes. 18Drain hefyd ac ysgall a ddwg hi i ti; a #Salm 104:14llysiau y maes a fwytei di. 19Trwy chwys dy wyneb y bwytei fara, hyd pan ddychwelech i’r ddaear; oblegid ohoni y’th gymerwyd: canys pridd wyt ti, #Preg 12:7ac i’r pridd y dychweli. 20A’r dyn a alwodd enw ei wraig #3:20 Heb. Chafa.Efa; oblegid hi oedd fam pob dyn byw. 21A’r Arglwydd Dduw a wnaeth i Adda ac i’w wraig beisiau crwyn, ac a’u gwisgodd amdanynt hwy.
22Hefyd yr Arglwydd Dduw a ddywedodd, Wele y dyn sydd megis un ohonom ni, i wybod da a drwg. Ac weithian, rhag iddo estyn ei law, a chymryd hefyd o bren y bywyd, a bwyta, a byw yn dragwyddol: 23Am hynny yr Arglwydd Dduw a’i hanfonodd ef allan o ardd Eden, i lafurio’r ddaear, yr hon y cymerasid ef ohoni. 24Felly efe a yrrodd allan y dyn, ac a osododd, o’r tu dwyrain i ardd Eden, y ceriwbiaid, a chleddyf tanllyd ysgydwedig, i gadw ffordd pren y bywyd.

目前選定:

Genesis 3: BWM1955C

醒目顯示

分享

複製

None

想要在所有設備上保存你的醒目顯示嗎? 註冊或登入

YouVersion 使用 cookie 來個性化你的體驗。透過使用我們的網站,你即接受我們按照我們的 隱私政策所述來使用 cookie。