YouVersion 標識
搜索圖示

Genesis 1

1
1 Creadigaeth nef a daear, 3 a’r goleuni, 6 a’r ffurfafen. 9 Neilltuo y ddaear oddi wrth y dyfroedd, 11 a’i gwneuthur yn ffrwythlon. 14 Yr haul, y lleuad, a’r sêr; 20 y pysgod a’r adar, 24 a’r anifeiliaid, 26 dyn ar lun Duw. 29 Ordeinio lluniaeth ac ymborth.
1 # Ioan 1:1 Yn #Salm 33:6; 89:11, 12; 102:25; 136:5; 146:6; Esa 44:24; Jer 10:12; 51:15; Sech 12:1; Act 14:15; 17:24; Heb 11:3y dechreuad y creodd Duw y nefoedd a’r ddaear. 2A’r ddaear oedd afluniaidd a gwag, a thywyllwch oedd ar wyneb y dyfnder, ac Ysbryd Duw yn ymsymud ar wyneb y dyfroedd. 3A Duw a ddywedodd, #2 Cor 4:6Bydded goleuni, a goleuni a fu. 4A Duw a welodd y goleuni, mai da oedd: a Duw a wahanodd rhwng y goleuni #1:4 Heb. a rhwng y.a’r tywyllwch. 5A Duw a alwodd y goleuni yn Ddydd, a’r tywyllwch a alwodd efe yn Nos: a’r hwyr a fu, a’r bore a fu, y dydd cyntaf.
6 Duw hefyd a ddywedodd, #Salm 136:5; Jer 10:12; 51:15Bydded ffurfafen yng nghanol y dyfroedd, a bydded hi yn gwahanu rhwng y dyfroedd a’r dyfroedd. 7A Duw a wnaeth y ffurfafen, ac a wahanodd rhwng y dyfroedd oddi tan y ffurfafen, a’r dyfroedd #Salm 148:4oddi ar y ffurfafen: ac felly y bu. 8A’r ffurfafen a alwodd Duw yn Nefoedd: a’r hwyr a fu, a’r bore a fu, yr ail ddydd.
9 Duw hefyd a ddywedodd, #Job 26:10; 38:8; Salm 33:7; 104:9; 136:6; Diar 8:29; Jer 5:22Casgler y dyfroedd oddi tan y nefoedd i’r un lle, ac ymddangosed y sychdir: ac felly y bu. 10A’r sychdir a alwodd Duw yn Ddaear, a chasgliad y dyfroedd a alwodd efe yn Foroedd: a Duw a welodd mai da oedd. 11A Duw a ddywedodd, Egined y ddaear egin, sef llysiau yn hadu had, a phrennau ffrwythlon yn dwyn ffrwyth, wrth eu rhywogaeth, y rhai y mae eu had ynddynt ar y ddaear: ac felly y bu. 12A’r ddaear a ddug egin, sef llysiau yn hadu had wrth eu rhywogaeth, a phrennau yn dwyn ffrwyth, y rhai y mae eu had ynddynt wrth eu rhywogaeth: a Duw a welodd mai da oedd. 13A’r hwyr a fu, a’r bore a fu, y trydydd dydd.
14 Duw hefyd a ddywedodd, Bydded #Deut 4:19; Salm 136:7goleuadau yn ffurfafen y nefoedd, i wahanu rhwng y dydd #1:14 Heb. a rhwng y.a’r nos; a byddant yn arwyddion, ac yn dymhorau, ac yn ddyddiau, a blynyddoedd. 15A byddant yn oleuadau yn ffurfafen y nefoedd, i oleuo ar y ddaear: ac felly y bu. 16A Duw a wnaeth ddau oleuad mawrion; y goleuad mwyaf #1:16 Heb. yn rheol i’r.i lywodraethu’r dydd, a’r goleuad lleiaf i lywodraethu’r nos: #Job 38:7a’r sêr hefyd a wnaeth efe. 17Ac yn ffurfafen y nefoedd y rhoddes Duw hwynt, i oleuo ar y ddaear, 18Ac #Jer 31:35i lywodraethu’r dydd a’r nos, ac i wahanu rhwng y goleuni a’r tywyllwch: a gwelodd Duw mai da oedd. 19A’r hwyr a fu, a’r bore a fu, y pedwerydd dydd.
20 Duw hefyd a ddywedodd, Heigied y dyfroedd ymlusgiaid byw, ac eheded ehediaid uwch y ddaear, yn wyneb ffurfafen y nefoedd. 21A #Salm 104:26Duw a greodd y morfeirch mawrion, a phob ymlusgiad byw, y rhai a heigiodd y dyfroedd yn eu rhywogaeth, a phob ehediad asgellog yn ei rywogaeth: a gwelodd Duw mai da oedd. 22A Duw a’u bendigodd hwynt, gan ddywedyd, #Pen 8:17; 9:1Ffrwythwch, ac amlhewch, a llenwch y dyfroedd yn y moroedd, a lluosoged yr ehediaid ar y ddaear, 23A’r hwyr a fu, a’r bore a fu, y pumed dydd.
24 Duw hefyd a ddywedodd, Dyged y ddaear bob peth byw wrth ei rywogaeth, yr anifail, a’r ymlusgiad, a bwystfil y ddaear wrth ei rywogaeth: ac felly y bu. 25A Duw a wnaeth fwystfil y ddaear wrth ei rywogaeth, a’r anifail wrth ei rywogaeth, a phob ymlusgiad y ddaear wrth ei rywogaeth: a gwelodd Duw mai da oedd.
26 Duw hefyd a ddywedodd, #Pen 5:1; 9:6; 1 Cor 11:7; Eff 4:24; Col 3:10Gwnawn ddyn ar ein delw ni, wrth ein llun ein hunain: ac #Salm 8:6arglwyddiaethant ar bysg y môr, ac ar ehediad y nefoedd, ac ar yr anifail, ac ar yr holl ddaear, ac ar bob ymlusgiad a ymlusgo ar y ddaear. 27Felly Duw a greodd y dyn ar ei ddelw ei hun, ar ddelw Duw y creodd efe ef: #Mal 2:15; Mat 19:4; Marc 10:6yn wryw ac yn fenyw y creodd efe hwynt. 28Duw hefyd a’u bendigodd hwynt, a Duw a ddywedodd wrthynt, #Pen 9:1Ffrwythwch, ac amlhewch, a llenwch y ddaear, a darostyngwch hi; ac arglwyddiaethwch ar bysg y môr, ac ar ehediad y nefoedd, ac ar bob peth byw a #1:28 Heb. ymlusgo.ymsymudo ar y ddaear.
29A Duw a ddywedodd, Wele, mi a roddais i chwi bob llysieuyn yn hadu had, yr hwn sydd ar wyneb yr holl ddaear, a phob pren yr hwn y mae ynddo ffrwyth pren yn hadu had, #Pen 9:3; Salm 104:14, 15i fod yn fwyd i chwi. 30Hefyd i bob bwystfil y ddaear, ac i bob ehediad y nefoedd, ac i bob peth a ymsymudo ar y ddaear, yr hwn y mae #1:30 Heb. enaid byw.einioes ynddo, y bydd pob llysieuyn gwyrdd yn fwyd: ac felly y bu. 31A gwelodd Duw yr hyn oll a wnaethai, ac wele da iawn ydoedd: felly yr hwyr a fu, a’r bore a fu, y chweched dydd.

目前選定:

Genesis 1: BWM1955C

醒目顯示

分享

複製

None

想要在所有設備上保存你的醒目顯示嗎? 註冊或登入

YouVersion 使用 cookie 來個性化你的體驗。透過使用我們的網站,你即接受我們按照我們的 隱私政策所述來使用 cookie。