Y Salmau 129

129
SALM CXXIX
Sape expugnauerunt.
Cynghori y mae i’r eglwys ymlawenhau, er bod erlidwyr ym mhob oes. Duw a’i gweryd hi, ac a fathr ei chaseion.
1Llawer gwaith cefais gystudd mawr,
Israel yn awr dyweded,
O’m hieuenctyd hyd yr awr hon,
fe wyr fy mron eu trymed.
2A llawer gwaith y cefais lid,
o’m gwan ieuengctid allan:
A blin gystudd ar lawer tro,
ac etto ni’m gorfuan’.
3Yr arddwyr arddent y cefn mau,
drwy rhwygo cwysau hirion:
4Y cyfion Ner torrodd yn frau,
bleth-didau’r annuwiolion.
5Pa rai bynnag a roesant gâs
ar degwch dinas Seion,
Gwradwydder hwynt, cilient iw hol,
y rhai annuwiol creulon.
6Byddant fel y glâs wellt a fai
ar bennau tai yn tyfu,
Yr hwn fydd, cyn y tynner fo,
yn gwywo, ac yn methu.
7Ni leinw’r medelwr ei law,
ni chair o honow ronyn:
I’r casclwyr nis tal ddim mo’i droi,
na’i drin, na’i roi mewn rhwymyn.
8Fel na bai byth gwiw gan y rhai
ar a dramwyai heibio,
Ddwedyd unwaith, Duw a ro llwydd,
neu’r Arglwydd a’ch bendithio.

Поточний вибір:

Y Salmau 129: SC

Позначайте

Копіювати

Порівняти

Поділитись

None

Хочете, щоб ваші позначення зберігалися на всіх ваших пристроях? Зареєструйтеся або увійдіть