Y Salmau 128

128
SALM CXXVIII
Beati omnes.
Dangos daioni y rhai priodol a ofno’r Arglwydd, ac addewid o fendithion Duw i’r rhai a fo byw yn ol ei orchymyn ef yn y lân stad honno.
1A ofno’r Arglwydd gwyn ei fyd,
a rhodiaw rhyd ei lwybrau,
2Bwyttei o ynnill gwaith dy law,
a blith y daw i tithau.
3Dy wraig ar du dy dy is nen,
fel per winwydden ffrwythlon,
Dy blant ynghylch dy fwrdd a fydd
fel olewydd blanhigion:
4Wele, fal dyma’r modd yn wir
bendithir y gwr cyfion,
Ac ofno’r Arglwydd Dduw yn ddwys,
rhydd arno bwys ei galon.
5Cei gyflawn fendith gan Dduw Ion,
bydd dithau Seion ddedwydd,
Fel y gwelych â golau drem,
Caersalem mewn llawenydd.
6Holl dyddiau d’einioes. Plant dy blant,
cei weled llwyddiant iddynt,
Ac ar holl deulu Israel,
daw hedd diogel arnynt.

Поточний вибір:

Y Salmau 128: SC

Позначайте

Копіювати

Порівняти

Поділитись

None

Хочете, щоб ваші позначення зберігалися на всіх ваших пристроях? Зареєструйтеся або увійдіть