1
Datguddiad 22:13
beibl.net 2015, 2024
bnet
Fi ydy’r Alffa a’r Omega, y Cyntaf a’r Olaf, y Dechrau a’r Diwedd.
2
Datguddiad 22:12
“Edrychwch! Dw i’n dod yn fuan! Bydd gen i wobr i’w rhoi i bawb, yn dibynnu ar beth maen nhw wedi’i wneud.
3
Datguddiad 22:17
Mae’r Ysbryd a’r briodferch yn dweud, “Tyrd!” Gadewch i bawb sy’n clywed ateb, “Tyrd!” Gadewch i’r rhai sydd â syched arnyn nhw ddod. Pwy bynnag sydd eisiau, gadewch iddyn nhw dderbyn dŵr y bywyd yn rhodd.
4
Datguddiad 22:14
“Mae’r rhai sy’n glanhau eu mentyll wedi’u bendithio’n fawr, ac yn cael mynd at goeden y bywyd, ac yn cael mynediad drwy’r giatiau i mewn i’r ddinas.
5
Datguddiad 22:7
“Edrychwch! Dw i’n dod yn fuan! Mae’r rhai sy’n gwneud beth mae proffwydoliaeth y llyfr hwn yn ei ddweud wedi’u bendithio’n fawr.”
6
Datguddiad 22:5
Fydd dim y fath beth â nos, felly fydd ganddyn nhw ddim angen golau lamp, na hyd yn oed golau’r haul. Bydd yr Arglwydd Dduw yn rhoi golau iddyn nhw. Byddan nhw’n teyrnasu am byth bythoedd.
7
Datguddiad 22:20-21
Mae’r un sy’n rhoi’r dystiolaeth am y pethau hyn yn dweud, “Ydw, dw i’n dod yn fuan.” Amen! Tyrd, Arglwydd Iesu! Dw i’n gweddïo y bydd pobl Dduw i gyd yn profi haelioni rhyfeddol yr Arglwydd Iesu! Amen.
8
Datguddiad 22:18-19
Dw i’n rhybuddio pawb sy’n clywed geiriau proffwydol y llyfr hwn: Os bydd unrhyw un yn ychwanegu rhywbeth atyn nhw, bydd Duw yn dod â’r plâu sy’n cael eu disgrifio yn y llyfr hwn arnyn nhw. Ac os bydd unrhyw un yn dileu rhan o neges broffwydol y llyfr hwn, bydd Duw yn cymryd oddi arnyn nhw eu siâr o goeden y bywyd a’u lle yn y ddinas sanctaidd sy’n cael ei disgrifio yn y llyfr hwn.