Chapa ya Youversion
Ikoni ya Utafutaji

Lyfr y Psalmau 13

13
1Pa hyd, ai byth, fy Arglwydd Rhi,
Gadewi Di fi ’n anghof?
Pa hyd y cuddi Di, fy Ion,
Dy wyneb tirion rhagof?
2Pa hyd y blinir f’enaid gwan
A’m hyspryd gan ofalon?
Pa hyd y codir uwch dy was
Fy ngelyn cas a chreulon?
3Gwel, Arglwydd Ior, a chlyw fy nghri,
Llewyrcha Di fy enaid,
Cyn delo ’r dydd ag sy ’n nesâu
I’r angau gau fy llygaid.
4Clyw, rhag i’m gelyn fostio ’n gas
Orchfygu ’m gras a’i guro;
Rhag iddo lawenychu dim,
Os digwydd im’ ogwyddo.
5Dy iechyd, Ior, a lonna ’th was,
Ac yn dy ras hyderaf;
Am i Ti syniaw ar fy ngwedd
Hyd fin y bedd y’th folaf.

Iliyochaguliwa sasa

Lyfr y Psalmau 13: SC1850

Kuonyesha

Shirikisha

Nakili

None

Je, ungependa vivutio vyako vihifadhiwe kwenye vifaa vyako vyote? Jisajili au ingia