Logo YouVersion
Ikona Hľadať

1 Tymothiws 3

3
at timothiws
Y iij Cytpen
1Ymadrodd diammaû (diogel) yw hwn: os rhybûcha dyn fod yn escob ysta waith a rybucha: 2am hyn rhaid yw i escob fod yn ddifai, gwr vn wraig: gofalûs (diwid): pruddaidd (kymen): gwybodûs: llettowr: athroleithûs: 3nid rheibiwr gwin: nid ymladdgar: nid kybydd budyr elw: Eithr boneddigaidd: ymbell (iddaw) ymwan, ymbell (iddaw a)[[k]](ch)ybyddtra: 4vn a rolo eû dyy eû hûn yn dda: vn ai blant mewn gostyngedigrwydd a phob lledneisrwydd: 5oni fedyr dyn roli eû dyy eû hûn, pa fodd i llyfodraytha ef kynylleidfa dûw: 6nid nofis fydd efo rhag chwyddo mewn balchder a syrthio tan farn y goganwr: 7rhaid iddo [[fo]] hefyd gaffael gair da can estroniaid rhag syrthio mewn mefyl a magyl y gwr drwg: 8Ar deoniaid y kyffelib fodd, rhaid ydiw eû bod yn fedrûs: nid a daûddyblig dafawd: (nid rheibwyr gwin) nid chwanog i fudyr elw: 9yn kynal kyfrinachedd ffydd, ynghyd a chydwybod lan: 10ag yn gynta bid praw arnunt: ag yna kaffant wasneûthû: fal na bo neb abl i feio arnint: 11Ag fal hyn i bydd rhaid yr gwragedd fod yn llednais: nid rhai drwg eû tafawd: eithyr arafaidd a ffyddlawn ymhob peth: 12Bid y deoniaid gwyr vn wraig: ar kyfryw a lyfodraytho eû plant yn dda, ai teûlû: 13Canys yrhai a wasnaythont yn dda: a enillant radd dda vddynt i hûnain, a rhydit mawr yn y ffydd yr hon sydd yngrhist iesû: 14hyn i ddydwy yn i escrifennû attat am gobaith i deûaf ar fyrder attat: 15eithyr os gwnaf hir daring: fal i gellych etto gaffael gwybodaeth pa fodd i bydd rhaid yt ymddwyn i fewn tyy dûw: rhwn ydiw kynilleidfa dûw byw: piler a selfan y gwirionedd: 16ag yn ddiammaû hyn sydd fawr gyfrinachwedd duwioliaeth, duw a ddangoswyd yuewn knawd: ef a gyfiownwyd yn yr ysbryd: a weled ymlith angylion, a bregethwyd ir bobl, a gredwyd iddaw i fewn y byd ag a dderbyniwyd i fyny mewn gogoniant.

Aktuálne označené:

1 Tymothiws 3: RDEB

Zvýraznenie

Zdieľať

Kopírovať

None

Chceš mať svoje zvýraznenia uložené vo všetkých zariadeniach? Zaregistruj sa alebo sa prihlás

YouVersion používa súbory cookies na prispôsobenie tvojho zážitku. Používaním našej webovej stránky súhlasíš s používaním cookies tak, ako je popísané v našich Zásadách ochrany osobných údajov