Лого на апликацијата „Библија“
Икона за пребарување

Lyfr y Psalmau 150

150
1Molwch Ior yn ei burdeb llym,
Ac yn ffurfafen fawr ei rym;
2Am ei gadernid molwch Ner;
Yn amldra ’i fawredd molwch Ef,
3A llais y trwmped uchel lef,
A nabl a thannau ’r delyn ber.
4A dawns a thympan molwch Ior,
A thant ac organ fwyn yn gôr;
5Ar y symbalau molwch Ef,
Ar y symbalau llafar per;
6Pob perchen chwŷth molianned Ner;
O molwch Arglwydd mawr y nef.
Terfyn y Psallwyr.

Селектирано:

Lyfr y Psalmau 150: SC1850

Нагласи

Копирај

Спореди

Сподели

None

Дали сакаш да ги зачуваш Нагласувањата на сите твои уреди? Пријави се или најави се