Psalmau 17
17
Y Psalm. XVII. Cywydh Devair Hirion etto.
1Gwrando arglwydh purlwydh per
O fendith, ar gyfownder:
Ystyria o ras d’araith
Ynghur im oes yngri maith.
Gwrando ’ngwedhi porthi pwyll
Gwyn dadl om genan didwyll:
2Oth wyneb gowreindeb gwyn
Y del fy marn ydolwyn.
Bid d’olwg yn amlwg ner
Yn vnduw ar vnionder.
3Ban chwilliaist gwelaist geli,
Ynghel nos ynghalon i:
Profaist ni chefaist y chwaith
Wag eiriav na drwg araith.
4Geiriav d’enav gwir dinam
A geidw gwr gwedi o gam:
O waith a ffordh waetha ffol
O wan awydh anuwiol.
5Par fyngherd hed trodhed rhwydh
Ith lwybrau iaith loew ebrwydh;:
Na bo im traed heb ammod draw
faith wael weithred fyth lithraw.
6Galwa di ond golud hawl
Klowi’n wyrth keli nerthawl:
Erglyw, dhoeth aroglaidh dhuw,
Gwrando ymharabl gwir vnduw.
7Dod drugaredh ryfedh rad
Duw gadarn ydwyd geidwad:
Adhel dan dy dhehevlaw
Galon drist rhag gelyn draw.
8Kadw fy mraint nis kaid fy mrad
Llugern ail llevfer llygad:
Kvdh fi ynghysgod ffyrfglod ffydh
Ydwyd vnion d’adenydh,
9Rag yr enwir hagr ynni
Regen tost am Rwygant i.
Am gelynion gweigion gaut
Im pwysaw am kwmpassant.
10Llyna feilch yn llawn o fêr
Ohru yftwyth a brasder:
Oe genau dawegwan don
Oera bwlch eiriau beilchion.
11Yn llwybr ni lle byrr a wnant
Oe gav eilchwel amgylchant:
Ag ae llygad gwall agos
Obru ar ffull in bwrw ir ffos.
12Fal y llew ifanck gwanckaidh
Ir prae a fynnai or praidh:
Fal kenav llew fal knyw llech
O fewn dudwll fai ’n didech.
13Kyfod Arglwydh culwydh kv
O fawl iawn yw rhag flaenv:
A bwr wir llawr heb fawr fyd
Anwr hyf enwir hefyd.
Gwared fy enaid gwir‐hoew
Rag enwiredh ath gledh gloew.
14Rag gwyr nid rhai kowira
Rag gwyr dy law a dhaw ’n dha:
Dvw rhag gwyr draw i karwn
Or bowyd hardh ar byd hwnn,
Ae rhann ni bu rhai wannach
Sydhir byd ar bowyd bach.
Llen waist i boliau ae llonaid
Or kudh oth drysor, hwy y kaid:
Yw meibion dhigon a dhaw
Ae gwedhill wedi gudhiaw;
Yw plant y mynnant i mud
Duw ae gwyl, ado i golvd.
15E[d]rycnaf o’wyneb nafner
O fendith ynghyfio[...]ner:
Wrth dheffro digyffro yw ’r gwedh
Oth lun kaf berffaith lownedh.
Šiuo metu pasirinkta:
Psalmau 17: SC1595
Paryškinti
Dalintis
Kopijuoti

Norite, kad paryškinimai būtų įrašyti visuose jūsų įrenginiuose? Prisijunkite arba registruokitės
Salmau Dafydd gan William Middleton 1595. Argraffiad gwreiddiol.