Mathew 6
6
1“Gofalwch beidio â gwneud eich gweithredoedd da yng ngŵydd pobol, er mwyn cael eich gweld; os gwnewch-chi hynny, chewch-chi ddim gwobr gan eich Tad sydd yn y nefoedd.
2“Yn lle hynny, pan fyddi-di'n rhoi i'r anghenus, paid â chanu dy gorn fel y mae'r rhagrithwyr hynny yn y synagogau ac ar y strydoedd, er mwyn i ddynion eu canmol. Cred di fi, maen' nhw'n cael eu gwobr eisoes. 3Ond pan fyddi di'n rhoi lle bo angen paid â gadael i'th law chwith wybod beth y mae dy law dde'n ei wneud, er mwyn cadw dy rodd yn gyfrinach. 4Bydd dy Dad, sy'n gweld beth a wneir o'r golwg, yn dy wobrwyo-di.
5“A phan fyddi-di'n gweddïo, paid â gwneud hynny fel y rhagrithwyr, sydd wrth eu bodd yn sefyll i weddïo yn y synagogau ac ar gonglau'r strydoedd, er mwyn i ddynion eu gweld. Cred di fi, maen' nhw'n cael eu gwobr eisoes. 6Ond pan fyddi di'n gweddïo, cer’ i'th ystafell a chau'r drws arnat, ac yno gweddïo, ar dy Dad o'r golwg. Bydd dy Dad, sy'n gweld beth a wneir o'r golwg, yn dy wobrwyo-di. 7A phan fyddwch-chi'n gweddïo, peidiwch â rhaffu geiriau fel y paganiaid; maen' nhw'n credu, po fwya' ddywedan-hw', mai tebycaf ydyn-hw' o gael eu gwrando. 8Peidiwch â u dynwared nhw'; mae'ch Tad yn gwybod beth sy arnoch ei angen cyn ichi ofyn iddo. 9Felly, gweddïwch chi fel hyn:
‘Ein Tad yn y nefoedd,
Gad i'th enw gael parch,
Gad i'th deyrnas ddod,
10Gad i'r hyn a fynni di gael ei wneud
ar y ddaear fel y mae yn y nefoedd;
11Rho'n bara inni heddiw yn ôl ein hangen#6:11 Rho'n bara inni heddiw yn ôl ein hangen: Yr ystyr yn ddyrys. Cyfieithiad arall posibl yw, ‘Rho'n bara inni heddiw ar gyfer yfory’, neu, gyda Chyfieithiad Prifysgol Cymru, ‘ein dogn dydd o fara’.,
12A maddau'n dyledion i ti,
fel yr ŷm ni wedi maddau i'r rhai sy dan ddyled inni;
13Paid â'n gollwng-ni i afael temtasiwm,
Ond cadw-ni rhag y drwg.
(Ti, wedi'r cyfan, sy'n llywodraethu;
Gennyt ti y mae'r nerth, a'r gogoniant,
Am byth ac am byth. Amen.)’
14“O achos os maddeuwch eu ffaeleddau i ddynion eraill, bydd eich Tad nefol yn maddau i chithau. 15Ond os na faddeuwch-chi i ddynion, 'chewch chithau ddim maddeuant am eich ffaeleddau gan eich Tad.
16“Wedyn, pan fyddwch-chi'n ymprydio, peidiwch ag edrych yn ddigalon fel y rhagrithwyr yna. Maen' nhw'n tynnu wynebau hirion er mwyn i bobol weld eu bod-nhw'n ymprydio. Credwch fi, maen' nhw'n cael eu gwobr eisoes. 17Ond pan fyddi di'n ymprydio, rho olew ar dy ben a golchi dy wyneb, 18rhag i neb wybod dy fod yn ymprydio ond dy Dad, sydd o'r golwg. A bydd dy Dad, sy'n gweld beth sy'n digwydd o'r golwg, yn dy wobrwyo-di.
19“Peidiwch â phentyrru trysorau yma ar y ddaear, lle mae gwyfyn a rhwd i'w bwyta-nhw, a lladron yn torri i mewn ac yn lladrata. 20Ond cesglwch drysorau i chi'ch hunain yn y nefoedd, lle nad oes dim gwyfyn na rhwd i'w bwyta-nhw, na lladron yn torri i mewn a lladrata. 21P'le bynnag y bydd gennych-chi drysor, yno y bydd eich calon-chi hefyd,
22“Lamp y corff ydy'r llygad. 23Felly, os bydd dy lygad di'n glir, fe fydd dy gorff i gyd yn cael golau; ond os bydd dy lygad yn bŵl, fe fydd dy gorff i gyd mewn tywyllwch. Ac os tywyllwch yw'r golau sydd ynot-ti, mae-hi'n dywyll arnat-ti'n wir!
24“Ni all neb wasanethu dau feistr. Rhaid iddo naill ai gasáu un a charu'r llall, neu fod yn ffyddlon i un a dirmygu'r llall. ‘Ellwch-chi ddim gwasanaethu Duw a Mamon cyfoeth yr un pryd. 25Dyna pam 'rwy'n dweud wrthych-chi, peidiwch â phrydeu am eich byw, beth 'gewch-chi i'w fwyta neu i'w yfed, nac am eich corff, beth 'gewch-chi i'w wisgo. Onid yw bywyd ei hun yn fwy o werth na bwyd, a chorff yn fwy gwerthfawr na dillad? 26Edrychwch ar yr adar yn yr awyr; 'd ydyn nhw' ddim yn hau nac yn medi, nac yn cadw dim mewn ysgubor, ac eto mae'ch Tad nefol yn eu bwydo-nhw'. 'Ydych chi ddim yn werth mwy na nhw'?
27“P'un ohonoch-chi 'all dyfu fodfedd yn dalach drwy ymboeni am y peth? 28A pham yr ydych-chi'n poeni am ddillad? Meddyliwch am y lili gwylltion, Sut y mae'r rheini'n tyfu; 'd ydyn-hw' ddim yn gweithio nac yn nyddu, 29ac eto 'r wy'n eich sicrhau-chi nad oedd Solomon yn ei grandrwydd i gyd ddim wedi'i wisgo'n debyg i un o'r rhain. 30Wel, ynte’, os yw Duw'n dilladu planhigion y maes, sy'n tyfu heddiw ac yn llosgi yfory yn y ffwrn, onid yw-e'n debycach o lawer o'ch dilladu chi, sy mor wan eich ffydd?
31“Felly, peidiwch ag ymboeni a gofyn o hyd, ‘Beth 'gawn-ni i'w fwyta? Beth 'gawn-ni i'w yfed? Beth 'gawn-ni i'w wisgo?’ 32Y paganiaid sy'n byw i bethau fel yna. Mae'ch Tad nefol yn gwybod fod arnoch-chi angen y cyfan. 33O flaen popeth arall, mynnwch afael ar deyrnas Dduw, a'i ddaioni e', ac fe gewch y pethau hyn i gyd ar ben hynny.
34“Peidiwch, felly â phoeni am yfory; fe all yfory ofalu amdano'i hun. Am heddiw, fe wna trafferthion heddiw y tro.
Currently Selected:
Mathew 6: MATIFE61
Tya elembo
Kabola
Copy
Olingi kobomba makomi na yo wapi otye elembo na baapareyi na yo nyonso? Kota to mpe Komisa nkombo