Logo ya YouVersion
Elilingi ya Boluki

Mathew 7

7
1“Peidiwch â bod yn feirniadol, rhag i chi'ch hunian gael eich barnu. 2Fe gewch eich barnu'n hollol fel yr ydych chi'n beirniadu, ac fe gewch eich mesur â'ch llinyn mesur chi eich hunain.
3“Pam yr wyt-ti'n edrych ar y flewyn yn llygad dy frawd, heb sylwi ar yr ystyllen yn dy lygad di dy hun? 4A sut y gelli-di ddweud wrth dy frawd, ‘Gad imi dynnu'r gwelltyn yna o'th lygad di,’ a'r ystyllen yn dal yn dy lygad dithau? 5Y rhagrithiwr ag wyt-ti! Tynn y 'styllen i ddechrau o'th lygad dy hun, ac fe weli'n well i dynnu'r gwelltyn o lygad dy frawd.
6“Peidiwch â rhoi pethau cysegredig i gŵn, a pheidiwch â thaflu'ch perlau o flaen moch, rhag iddyn-nhw'u sathru dan draed a throi arnoch chithau a'ch darnio.
7“Gofynnwch, ac fe roddir ichi; chwiliwch, ac fe gewch; curwch, a bydd y drws yn agor ichi. 8Mae pob un sy'n gofyn yn derbyn, pob un sy'n chwilio yn cael, ac i bob un sy'n curo fe agorir y drws. 9‘Oes rhywun ohonoch-chi, petai'i fab yn gofyn iddo am fara, a fyddai'n rhoi carreg iddo? 10Neu petai'n gofyn am bysgodyn, a roech-chi neidr iddo? 11Wel, ynte’, os gwyddoch chi, er gwaetha'ch drygioni, sut i roi pethau da i'ch plant, onid yw'ch Tad yn y nefoed yn debycach o lawer o roi pethau da i'r rhai sy'n gofyn iddo?
12“Beth bynnag y carech-chi i bobol eraill ei wneud i chi, gwnewch chithau'r un fath iddyn' nhw'. Dyna hanfod y Gyfraith a'r Proffwydi.
13“Ewch i mewn drwy'r porth cyfung. Porth helaeth a ffordd lydan sy'n arwain i ddinistr, ac mae llawer yn mynd y ffordd honno. 14Ond porth cyfyng a ffordd gul sy'n arwain i fywyd, ac ychydig sy'n dod o hyd iddi hi.
15“Gwyliwch rhag proffwydi heb fod yn broffwydi, dynion sy'n dod atoch-chi wedi'u gwisgo fel defaid, ond yn fleiddiaid barus oddi mewn. 16Fe ellwch eu hadnabod-nhw' wrth eu ffrwythau. 'Oes rhywun yn tynnu grawnwin oddi ar ddrain, neu ffigys oddi ar ysgall? 17Na, mae pob pren iach yn tyfu ffrwythau da, ond am bren afiach, ffrwythau drwg 'ddaw ar hwnnw. 18'All pren iach ddim rhoi ffrwythau drwg, na phren afiach roi ffrwythau da. 19Pob pren heb ffrwyth da arno fe dorrir hwnnw i lawr a'i daflu i'r tân. 20Dyna pam yr ydw-i'n dweud mai wrth eu ffrwythau y gellwch-chi'u hadnabod-nhw'.
21“Nid pawb sy'n galw arna-i, ‘Arglwydd, Arglwydd!’ 'gaiff fynd i mewn i deyrnas y nefoedd, dim ond y sawl sy'n gwneud fel y myn fy Nhad sydd yn y nefoedd. 22Pan ddaw'r Diwrnod hwnnw, bydd llawer un yn dweud wrthyf i, ‘Arglwydd, Arglwydd, ddar'u inni ddim proffwydo yn d'enw di? Ddar'u inni ddim bwrw cythreuliaid allan yn d'enw di? Oni wnaetho-ni lawer o wyrthiau yn d'enw di?’ 23A bydd yn rhaid imi ddweud wrthyn-hw', ‘ 'D ydw-i erioed wedi'ch 'nabod-chi. Ewch yn ddigon pell oddi wrthyf i, chi fu mor brysur mewn drygioni.’
24“Yn awr, mae pawb sy'n gwrando ar y geiriau hyn, ac yn gwneud fel y dywedais-i, yn debyg i ddyn call a gododd dŷ iddo'i hun ar y graig. 25Daeth y glaw i lawr, fe gododd y llifogydd, fe chwythodd y gwyntoedd a'u hyrddio'u hunain ar y tŷ hwnnw; ond ‘chwympodd-e’ ddim, am fod ei sylfaen yn graig. 26Ond mae pawb sy'n clywed y geiriau hyn, ac yn peidio â gwneud fel y dywedais-i, yn debyg i ddyn ffôl a gododd dŷ iddo'i hun ar y tywod. 27Disgynnodd y glaw, fe gododd y llifogydd, fe chwythodd y gwyntoedd a churo ar y tŷ hwnnw, ac i lawr y daeth; a dyna chwalfa oedd honno!”
28Erbyn i Iesu orffen siarad, yr oedd y dyrfa wedi synnu a rhyfeddu wrth glywed y fath athro. 29O achos, yn wahanol i'w hysgrifenyddion hwy, yr oedd awdurdod yn ei eiriau ef.

Currently Selected:

Mathew 7: MATIFE61

Tya elembo

Kabola

Copy

None

Olingi kobomba makomi na yo wapi otye elembo na baapareyi na yo nyonso? Kota to mpe Komisa nkombo