“Wedyn, pan fyddwch-chi'n ymprydio, peidiwch ag edrych yn ddigalon fel y rhagrithwyr yna. Maen' nhw'n tynnu wynebau hirion er mwyn i bobol weld eu bod-nhw'n ymprydio. Credwch fi, maen' nhw'n cael eu gwobr eisoes. Ond pan fyddi di'n ymprydio, rho olew ar dy ben a golchi dy wyneb, rhag i neb wybod dy fod yn ymprydio ond dy Dad, sydd o'r golwg. A bydd dy Dad, sy'n gweld beth sy'n digwydd o'r golwg, yn dy wobrwyo-di.