Salmau 3

3
SALM III.
M. S.
Salm Dafydd pan ffodd efe rhag Absalom ei fab.
1Arglwydd, aml yw’m trallodwyr,
A’m gelynion greulon ryw;
Llawer sydd yn codi i’m herbyn,
Am fy nhori o dir y byw.
2Llawer yw y rhai sy’n d’wedyd,
Beunydd yn eu malais fyw;
Am fy enaid, nad oes iddo
Iachawdwriaeth yn ei Dduw.
3Ond tydi wyt darian imi,
A dyrchafydd mawr fy mhen,
Fy ngogoniant a’m Gwaredydd,
O bob trallod is y nen.
4Gelwais arnat, Arglwydd — tithau
A wrandewaist ar dy was;
Ac o fynydd dy sancteiddrwydd
Rhoddaist imi help dy ras.
5Mi orweddais ac a gysgais,
A deffroais yn ddifraw;
Canys Ti, fy Nuw tirionaf,
A’m cynnaliaist i a’th law.
6Mi nid ofnaf fyrdd o bobl
A ymgodant o un fryd,
I ymosod yn fy erbyn,
Diystyraf hwynt i gyd.
7Cyfod, Arglwydd, achub f’enaid,
Ti dy hun yw’m Ceidwad cu;
T’rewaist gernau’r gelyn, toraist
Ddannedd annuwiolion lu.
8Iachawdwriaeth sydd yn eiddot
Ti yn unig, Arglwydd mawr;
Fel y gwlith disgyna’th fendith
Ar dy bobl o’r nef i lawr.
Nodiadau.
Y mae tôn y salm hon yn bur wahanol i’r ddwy flaenorol. Am y cyfiawn a’r drygionus y traethir yn y gyntaf; am y Messiah a’i frenhiniaeth yn yr ail. Dafydd ei hun sydd yn hon, yn cwyno ac yn gweddïo o herwydd ei elynion a’i drallodion. Os yw teitl y salm yn gywir, fel y mae yn debyg ei fod, cyfansoddwyd hi pan oedd efe yn nyfnder y trallod trymaf a chwerwaf o holl drallodion ei fywyd — “pan ffodd efe rhag Absalom ei fab,” ac amryw o’i berthynasau, a rhai o’i gyfeillion penaf wedi troi yn fradwrus iddo, a chalonau gwŷr Israel yn gyffredinol wedi eu lladratta oddi arno. Felly,
“Yr oedd pob llwybr wedi ’i gauad,
Ond y llwybr ato ef.”
Ac i’r llwybr hwnw y mae yntau yn troi at ei Dduw, i dywallt ei gŵyn ac i geisio ymwared. Cysur cryf i’r credadyn ydyw, nad oes un math o drallod a all ei oddiweddyd, nad oes iddo ymwared ac iachawdwriaeth yn ei Dduw, a bod iddo ryddid i fyned ato, a galw arno yn nydd ei drallod, ac addewid y bydd iddo Ef ei wrandaw a’i waredu. Y mae ei ffydd yn fuan yn buddugoliaethu ar ei ofnau, ac yn troi ei gŵynion yn gân o hyder a gorfoledd yn ei Dduw; a therfyna mewn dymuniad am i fendith Duw ei iachawdwriaeth orphwys ar ei bobl.

選択箇所:

Salmau 3: SC1875

ハイライト

シェア

コピー

None

すべてのデバイスで、ハイライト箇所を保存したいですか? サインアップまたはサインインしてください。

YouVersionはCookieを使用してユーザエクスペリエンスをカスタマイズします。当ウェブサイトを使用することにより、利用者はプライバシーポリシーに記載されているCookieの使用に同意するものとします。