Lyfr y Psalmau 58
58
1A Draethwch chwi uniondeb glân,
O gynnulleidfa! ’n gyfion?
A fernwch chwi yr hyn sydd iawn
A chyfiawn, feibion dynion?
2Gwnewch ddrwg yn hytrach, annoeth wŷr,
A’ch myfyr ar gyflafan;
Ac yn y byd eich trawsedd trwch
A bwyswch yn y clorian.
3O’r groth yn ddïeithr yn eu bai
Yr aeth y rhai annuwiol,
Gan gyfeiliorni oll o’r bru—
Celwyddog lu anianol.
4Fel gwenwyn sarph eu gwenwyn hwy,
Rhydd farwol glwy’ pan dreiddio;
Fel aspig fyddar maent yn bod,
Yr hon sy ’n gwrthod gwrando;
5Yr hon, er mwyned fyddo ’i gais,
Ni wrendy lais y rhinwŷr,
Er cystal o’u cyfarwydd fin
Fo sain a rhin y swynwŷr.
6Tor yn eu safn eu dannedd certh,
O Dduw, trwy nerth a gorfod;
A dryllia Di, er maint eu grym,
Gil‐ddannedd llym y llewod.
7Todder eu dewr galonnau ’n llwfr
Fel ffrwd o ddwfr yn llifo;
Pan saethont hwy eu saethau llym,
Tydi â’th rym a’u torro.
8Aed ymaith fel malwoden dawdd,
Neu erthyl, (hawdd eu hepgor,)
Heb weled haul na lleuad wen,
Na gwawr na bore ’n rhagor.
9Cyn i’r crochanau glywed sain
Y prysg a’r drain yn oddaith,
Cymmer hwy ’n fyw â’th gorwynt, Ner,
Ac yn dy ddigter, ymaith.
10Llawen yw ’r uniawn am dy dâl,
Pan wêl dy ddïal cyfion;
Yna efe a ylch ei draed
Yngwaed yr annuwiolion.
11Felly cyffesa pawb o’r tir,
“Mae ffrwyth yn wir i’r cyfiawn;
Yn wir mae Duw a farna ’r byd
A’i bobl i gyd yn uniawn.”
Y Psallwyr gan y Parch. Morris Williams (Nicander). Cyhoeddwyd gan H. Hughes, Llundain 1850. Cafodd y testun ei ddigideiddio gan Gymdeithas y Beibl yn 2021.