Lyfr y Psalmau 118
118
1Molwch Arglwydd nef a daear,
Da yw moli ’r Ion yn llafar;
Haeddai ’n moliant a’n clodforedd,
“Byth y pery ei drugaredd.”
2-3Hyn fo cân ei wir Israeliaid,
Tylwyth Aaron a’i offeiriaid, —
“Pery byth ei ras heb ddiwedd,
Byth y pery ei drugaredd.”
4Pawb trwy ’r byd sy ’n ofni ’r Arglwydd,
Gan ymddiried i’w raslonrwydd,
Cenwch iddo mewn gorfoledd,
“Byth y pery ei drugaredd.”
YR AIL RAN
5At Dduw esgynai ’m llef,
A’m dolef yn fy loes;
Yr Arglwydd Dduw a’m clybu ’n wir,
Mewn eang dir fe ’m rhoes.
6Duw immi ’n blaid a gaf,
Nid ofnaf a wna dyn;
7Yr Ion a’m nertha ’n gryf â’i ras,
Gorchfyga ’m cas bob un.
8Gwell yw rhoi cred yn Nuw
Nag mewn dyn byw na’i hil;
9Gwell yw gobeithio yn yr Ion,
Nag mewn t’wysogion fil.
Y DRYDEDD RAN
10Daeth arnaf holl genhedloedd byd,
A’u bryd i’m gwneud yn anrhaith;
Er hyn yn Enw ’r Arglwydd Naf
Myfi a’u torraf ymaith.
11Daethant o’m hamgylch oll ynghŷd
A’u creulon fryd yn ddiffaith;
Er hyn yn Enw ’r Arglwydd Naf
Myfi a’u torraf ymaith.
12Daethant o’m cylch fel gwenyn mân, —
Diffoddodd tân eu goddaith;
Canys yn Enw ’r Arglwydd Naf
Myfi a’u torraf ymaith.
Y BEDWAREDD RAN
13Gwthiaist fi i lawr, fy ngelyn cas,
Ond Duw o’i ras a’m nerthodd:
14Yr Arglwydd yw fy nerth a’m cân,
Im’ iechyd glân fe roddodd.
15Llef lawen iachawdwriaeth sy
Yn nedwydd dŷ y duwiol:
Deheulaw gref alluog Ner
A wnaeth rymmusder nerthol.
16Dyrchafwyd llaw ein Harglwydd cu
Uwchlaw pob gallu bydol;
Deheulaw gref alluog Ner
A wnaeth rymmusder nerthol.
17Ni byddaf farw, ond byw a gaf,
A thraethaf waith Duw ’n helaeth;
18Gan gospi ’n llym fe ’m cospodd i,
Ond ni ’m rhoes i farwolaeth.
19Agorwch byrth yr Arglwydd Ner,
Sef pyrth cyfiawnder, immi;
Af i mewn iddynt byth i fyw,
I ganmol Duw a’i foli.
20Dyma dy borth, fy Arglwydd Ion,
Y cyfion oll ant iddo:
21Molaf Di am dy iechyd clau,
Ac am i’th glustiau ’m gwrando.
Y BUMMED RAN
22Y maen a lysodd gweithwŷr byd,
Yn ben i’r gongl er hynny ’r aeth;
23Mae’n rhyfedd yn ein golwg ni,
O’r Arglwydd Ior ei Hun y daeth.
24O dyma ’r dydd a wnaeth ein Duw,
Dydd hyfryd o lawenydd mawr:
25Achub yn awr, attolwg, Ion,
Attolwg, par in’ lwydd yn awr.
26A ddêl yn Enw ’r Arglwydd Ner,
Mor ddedwydd, mor fendigaid yw!
Boed byth yn gorphwys ar eich pen,
Fendithion fyrdd o Dŷ ein Duw.
27Duw yw ein Harglwydd, Ef yw ’n Haul,
Llewyrcha ’i belydr inni ’n awr;
Rhwymwch â rhaffau ’r aberth hedd
Wrth loywon gyrn yr Allor fawr.
28Ti wyt fy Nuw, moliannaf Di,
Dyrchafaf Di, fy Nuw di‐lyth.
29Molwch yr Arglwydd, can’s da yw,
Ei ryfedd ras a bery byth.
Y Psallwyr gan y Parch. Morris Williams (Nicander). Cyhoeddwyd gan H. Hughes, Llundain 1850. Cafodd y testun ei ddigideiddio gan Gymdeithas y Beibl yn 2021.