1
Pregethwr 4:9-10
beibl.net 2015, 2024
bnet
“Mae dau gyda’i gilydd yn well nag un.” Wrth weithio gyda’i gilydd mae’r ddau berson ar eu hennill. Os bydd un yn syrthio, bydd y llall yn gallu ei helpu i godi. Ond druan o’r person sydd ar ei ben ei hun, heb neb i’w helpu i godi.
比較
Pregethwr 4:9-10で検索
2
Pregethwr 4:12
“Pan fydd rhywun yn ymosod, mae dau yn fwy tebygol o’i rwystro nag un.” “Dydy rhaff deircainc ddim yn hawdd i’w thorri!”
Pregethwr 4:12で検索
3
Pregethwr 4:11
Hefyd, “Os ydy dau yn gorwedd gyda’i gilydd, maen nhw’n cadw’n gynnes.” Ond sut mae rhywun i fod i gadw’n gynnes pan fydd ar ei ben ei hun?
Pregethwr 4:11で検索
4
Pregethwr 4:6
Ac eto, “Mae un llond llaw gyda gorffwys yn well na dau lond llaw o ganlyniad i orweithio.” Ydy, mae fel ceisio rheoli’r gwynt!
Pregethwr 4:6で検索
5
Pregethwr 4:4
Yna dyma fi’n ystyried holl waith caled a thalentau pobl. Dydy hynny i gyd yn ddim byd ond cystadleuaeth rhwng pobl a’i gilydd! Does dim sens yn y peth! Mae fel ceisio rheoli’r gwynt!
Pregethwr 4:4で検索
6
Pregethwr 4:13
“Mae bachgen ifanc doeth o gefndir tlawd yn well na brenin mewn oed sy’n ffôl ac yn gwrthod derbyn cyngor.”
Pregethwr 4:13で検索