1
1 Thesaloniaid 4:17
beibl.net 2015, 2024
bnet
Yna byddwn ni sy’n dal yn fyw ar y ddaear yn cael ein cipio i fyny gyda nhw yn y cymylau i gyfarfod â’r Arglwydd yn yr awyr. Wedyn byddwn ni i gyd gyda’r Arglwydd am byth.
比較
1 Thesaloniaid 4:17で検索
2
1 Thesaloniaid 4:16
Bydd yr Arglwydd ei hun yn dod i lawr o’r nefoedd. Bydd Duw’n rhoi’r gorchymyn, bydd y prif angel yn cyhoeddi’n uchel a bydd utgorn yn seinio. Bydd y Cristnogion sydd wedi marw yn dod yn ôl yn fyw gyntaf.
1 Thesaloniaid 4:16で検索
3
1 Thesaloniaid 4:3-4
Mae Duw am i chi fyw bywydau glân sy’n dangos eich bod chi’n perthyn iddo: Dylech chi beidio gwneud dim sy’n anfoesol yn rhywiol. Dylech ddysgu cadw rheolaeth ar eich teimladau rhywiol – parchu eich corff a bod yn gyfrifol
1 Thesaloniaid 4:3-4で検索
4
1 Thesaloniaid 4:14
Dŷn ni’n credu bod Iesu wedi marw ac wedi cael ei godi yn ôl yn fyw eto. Felly dŷn ni’n credu hefyd y bydd Duw yn dod â’r Cristnogion hynny sydd wedi marw yn ôl gyda Iesu pan fydd e’n dod yn ôl.
1 Thesaloniaid 4:14で検索
5
1 Thesaloniaid 4:11
Dylech chi wneud popeth allwch chi i gael perthynas iach â phobl eraill. Dylech gynnal eich hunain a gweithio’n galed, yn union fel dwedon ni wrthoch chi.
1 Thesaloniaid 4:11で検索
6
1 Thesaloniaid 4:7
Mae Duw wedi’n galw ni i fyw bywydau glân, dim i fod yn fochaidd.
1 Thesaloniaid 4:7で検索