1
1 Ioan 3:18
beibl.net 2015, 2024
bnet
Blant annwyl, peidiwch dim ond siarad am gariad, gwnewch rywbeth i ddangos eich cariad!
比較
1 Ioan 3:18で検索
2
1 Ioan 3:16
Dyma sut dŷn ni’n gwybod beth ydy cariad go iawn: Rhoddodd Iesu, y Meseia, ei fywyd yn aberth droson ni. Felly dylen ni aberthu’n hunain dros ein cyd-Gristnogion.
1 Ioan 3:16で検索
3
1 Ioan 3:1
Meddyliwch mor aruthrol fawr ydy’r cariad mae’r Tad wedi’i ddangos aton ni! Dŷn ni’n cael ein galw’n blant Duw! Ac mae’n berffaith wir! Y rheswm pam dydy’r byd ddim yn derbyn hynny ydy eu bod nhw ddim wedi nabod y Meseia chwaith.
1 Ioan 3:1で検索
4
1 Ioan 3:8
Mae’r rhai sy’n mynnu pechu yn dod o’r diafol. Dyna mae’r diafol wedi’i wneud o’r dechrau – pechu! Ond y rheswm pam ddaeth Mab Duw i’r byd oedd i ddinistrio gwaith y diafol.
1 Ioan 3:8で検索
5
1 Ioan 3:9
Dydy’r rhai sydd wedi’u geni’n blant i Dduw ddim yn dal ati i bechu, am fod rhywbeth o natur Duw wedi’i blannu ynddyn nhw fel hedyn. Dŷn nhw ddim yn gallu dal ati i bechu am eu bod nhw wedi cael eu geni’n blant i Dduw.
1 Ioan 3:9で検索
6
1 Ioan 3:17
Os oes gan rywun ddigon o arian ac eiddo, ac yn gweld fod brawd neu chwaer mewn angen, ac eto’n dewis gwneud dim byd i’w helpu nhw, sut allwch chi ddweud fod cariad Duw yn rhywun felly?
1 Ioan 3:17で検索
7
1 Ioan 3:24
Mae’r rhai sy’n ufudd iddo yn byw ynddo, ac mae ei fywyd e ynddyn nhw. A dŷn ni’n gwybod fod ei fywyd e ynon ni am ei fod e wedi rhoi’r Ysbryd i ni.
1 Ioan 3:24で検索
8
1 Ioan 3:10
Felly mae’n gwbl amlwg pwy sy’n blant i Dduw a phwy sy’n blant i’r diafol: Dydy’r bobl hynny sydd ddim yn gwneud beth sy’n iawn ddim yn blant i Dduw – na chwaith y bobl hynny sydd ddim yn caru’r brodyr a’r chwiorydd.
1 Ioan 3:10で検索
9
1 Ioan 3:11
Dyma’r neges dych chi wedi’i chlywed o’r dechrau cyntaf: Fod yn rhaid i ni garu’n gilydd.
1 Ioan 3:11で検索
10
1 Ioan 3:13
Felly, frodyr a chwiorydd, peidiwch synnu os ydy’r byd yn eich casáu chi!
1 Ioan 3:13で検索