Arglwydd, Tad y trugareddau,
Moes drugaredd rad i mi;
Trugarhâ wrth f’ enaid euog,
Duw tosturiol iawn wyt Ti:
Arglwydd grasol,
Maddeu ’meiau mawr i gyd.
Golch fi ’n lân oddi wrth fy mhechod,
Golch fi ’n lân, a llwyr, a dwys;
Pura fi oddi wrth f’ anwiredd,
Tyn fi ’n rhydd o dan ei bwys:
O Sancteiddydd,
Golcha f’ enaid brwnt yn wyn.