Lyfr y Psalmau 51:1-2
Lyfr y Psalmau 51:1-2 SC1850
Arglwydd, Tad y trugareddau, Moes drugaredd rad i mi; Trugarhâ wrth f’ enaid euog, Duw tosturiol iawn wyt Ti: Arglwydd grasol, Maddeu ’meiau mawr i gyd. Golch fi ’n lân oddi wrth fy mhechod, Golch fi ’n lân, a llwyr, a dwys; Pura fi oddi wrth f’ anwiredd, Tyn fi ’n rhydd o dan ei bwys: O Sancteiddydd, Golcha f’ enaid brwnt yn wyn.




