Salmydd 23
23
SALM XXIII.
11au. Joanna. Wareham.
1Yr Arglwydd yw ’Mugail, dim eisiau ni bydd,
2Mewn gwelltog borfaoedd i orwedd fe’m rhydd;
Tawela fy nghalon, siriola fy ngwedd,
Wrth ddyfroedd grisialaidd arafaidd yr hedd.
3O eithaf y ddaear fy llefain a glyw,
A’m henaid o’i lewyg a ddychwel yn fyw;#23:3 SALM XXIII. 3. “Efe a ddychwel fy enaid.” Nid dychwel o grwydriad, ond adfer o lewyg a feddylir.
Fe’m harwain ar lwybrau cyfiawnder, bob un,
Er mwyn ei ddiwaeledd anrhydedd ei hun.
4Ar lwybrau peryglus ni chyffry fy mron,
Gan fod i’m cysuro ’i wialen a’i ffon;
Trwy lyn cysgod angeu, gofidiau sydd faith,
Myfi a’i dilynwn, nid ofnwn y daith.
5Yn ngwydd fy ngelynion caf wledd o bob dawn,
Fy mhen a eneiniodd, fy phiol sydd lawn, —
6Daioni a thrugaredd sy’n anedd fy Nuw,
Ac yma preswyliaf tra byddaf fi byw.
Chwazi Kounye ya:
Salmydd 23: SC1885
Pati Souliye
Pataje
Kopye
Ou vle gen souliye ou yo sere sou tout aparèy ou yo? Enskri oswa konekte
Cyhoeddwyd y casgliad gan G. Lewis ym Mhen-y-Groes 1885. Cafodd Salmau mydryddol Huw Myfyr eu digido gan Gymdeithas y Beibl yn 2025.