Salmydd 24
24
SALM XXIV.
7.6. St. Marc. Meirionydd.
1Y ddaear a’i chyflawnder
Sydd eiddo Brenin ne’;
3Pwy saif o flaen ei wyneb
O fewn ei sanctaidd le?
4Neb ond y glân ei ddwylaw,
Y gŵr o ddidwyll fryd;
6Efe yw’r gwir addolwr
Gaiff wyneb Duw o hyd.
7-10Drag’wyddol byrth, dyrchefwch
Eich penau gyda brys,
A Brenin y gogoniant
A ddaw i mewn i’w lŷs;
Os gofyn neb ei enw,
Arglwydd y lluoedd yw,
Ar ol anrheithio’r cedyrn
Yn dod i fyny’n fyw.
Chwazi Kounye ya:
Salmydd 24: SC1885
Pati Souliye
Pataje
Kopye
Ou vle gen souliye ou yo sere sou tout aparèy ou yo? Enskri oswa konekte
Cyhoeddwyd y casgliad gan G. Lewis ym Mhen-y-Groes 1885. Cafodd Salmau mydryddol Huw Myfyr eu digido gan Gymdeithas y Beibl yn 2025.