Salmydd 22
22
SALM XXII.
10au. Bala. Erfyniad.
1Fy Nuw, fy Nuw, paham gwrthodaist fi,
Ac y pellha dy iachawdwriaeth Di?
2Y dydd ’rwy’n llefain, ond ni chlywi ddim,
A’r nos un ffunud, nid oes osteg im’.
3Onid y Sanctaidd ydwyt Ti, fy Nuw?
Dy enw yn Israel tra moliannus yw;
4-5Ein tadau gynt obeithient yn dy ras;
Gwaredaist hwynt o law pob gelyn cas.
6A mi, nid wyf ond dirmygedig bryf,
7A phawb i’m gwaradwyddo’n ddigon hyf;
Hwy laesant wefl ac a ysgydwant ben,
8Ac i fy ngobaith rhoddant lawer sen.
9Tydi a’m dysgaist i dy alw’n Dduw
Pan oeddwn eto ar y bronau’n byw;
11Nac ymbellha, cyfyngder sydd gerllaw,
Ac nid oes neb yn gynorthwywr ddaw.
12Gwrdd‐deirw Basan welaf ar bob tu
13Fel llewod safnrwth, — dyna’u rheibus ru;
14Fy nerth dywalltwyd megys dwfr yn lân,
A chur a roes fy esgyrn ar wahan.
Fy nghalon doddodd o fy mewn fel cŵyr,
15Ac ymadawodd fy ireidd‐dra’n llwyr;
Fy ngenau sychodd gan y gofid mawr,
Ac i lwch angeu dygaist fi i lawr.
16Cyn’lleidfa’r cwn sychedant am fy ngwaed,
A thrywanedig yw fy nwylo a’m traed;
17Hawdd rhifo’m hesgyrn gan mor ddrylliog wyf,
Hylldrema’r dieithr ar f’agored glwyf.
18Mewn gwawd fy nillad ranant yn eu mysg,
A choelbren sydd i’w fwrw ar fy ngwisg;
19Dduw fy nghadernid heddyw na phellha,
Prysura i’m cynorthwyo, Arglwydd da.
20-21Rhag min y cledd, o safn y llew a’r ci,
Fy unig enaid heddyw achub Di;
* Yn wir o blith cyrn unicorniaid cas
Gwrandewaist fi; 22clodforaf finau’th ras.
RHAN II.
7.6. Heolybont. Talyllyn.
23Y rhai sy’n ofni’r Arglwydd,
Holl Israel molwch Ef;
24Symudodd fy ngwaradwydd,
Gwrandawodd ar fy llef;
25Ei foliant a ddyrchafaf
Mewn cynulleidfa fawr,
A’m haddunedau dalaf
Yn ngwydd ei bobl yn awr.
26Wrth gofio’r oruchafiaeth
Y tlodion a fwytânt,
Diwellir hwynt yn helaeth,
A byw’n dragywydd gânt;
27Fe droir at Dduw y lluoedd
Derfynau’r ddaear gron,
A holl dylwythau’r bobloedd
Addolant ger ei fron.
29Daw’r breision wŷr galluog
I gyfranogi o’r wledd.
* Ynghyda’r dorf anghenog
Sy’n byw ar fin y bedd;
* 30-31Mynegant i’w hiliogaeth
Gyfiawnder Brenin nef,
A chyfyd pob cenhedlaeth
I’w wasanaethu Ef.
Chwazi Kounye ya:
Salmydd 22: SC1885
Pati Souliye
Pataje
Kopye
Ou vle gen souliye ou yo sere sou tout aparèy ou yo? Enskri oswa konekte
Cyhoeddwyd y casgliad gan G. Lewis ym Mhen-y-Groes 1885. Cafodd Salmau mydryddol Huw Myfyr eu digido gan Gymdeithas y Beibl yn 2025.