1
Eshaiah 54:17
Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.)
CTB
Pob arf, a lunier i’th erbyn, ni lwydda, A phob tafod, a gyfodo i’th erbyn mewn barn, ti a’i bwri yn euog. Hon (yw) etifeddiaeth gweision IEHOFAH, A’u cyfiawnhâd oddi wrthyf Fi, medd IEHOFAH.
Vertaa
Tutki Eshaiah 54:17
2
Eshaiah 54:10
Canys y mynyddoedd a giliant, A’r bryniau a siglant, Ond Fy rhadlonedd I oddi wrthyt ni chilia, A chyfammod Fy hedd ni sigl, Medd yr Hwn (sy)’n trugarhau wrthyt, (sef) IEHOFAH.
Tutki Eshaiah 54:10
3
Eshaiah 54:4
Nac ofna, canys ni ’th gywilyddir, Ac na warthrudda, canys ni ’th waradwyddir: Canys cywilydd dy ieuengctid ti a gei anghofio, A gwaradwydd dy weddwdod ni chei gofio mwy
Tutki Eshaiah 54:4
4
Eshaiah 54:5
Canys dy wr (yw) dy Greawdydd, IEHOFAH y lluoedd (yw) Ei enw; A ’th Adbrynwr Sanct Israel, Duw yr holl ddaear y gelwir Ef.
Tutki Eshaiah 54:5
5
Eshaiah 54:2
Helaetha le dy babell, 3 Estyner 1 lleni dy 2 breswylfa, Nac attal, estyn dy raffau, A’th hoelion sicrhâ
Tutki Eshaiah 54:2
6
Eshaiah 54:13
A’th holl feibion (a fyddant) wedi eu dysgu gan IEHOFAH. A mawr (fydd) heddwch dy feibion.
Tutki Eshaiah 54:13
7
Eshaiah 54:8
Mewn llifeiriant llid y cuddiais Fy wyneb tros ennyd oddi wrthyt, Ond mewn rhadlondeb tragywyddol y trugarhâf wrthyt, Medd dy Adbrynwr IEHOFAH.
Tutki Eshaiah 54:8
8
Eshaiah 54:7
Dros ennyd fechan y’th adewais, Ond â thrugareddau mawrion Mi a’th adgymmeraf.
Tutki Eshaiah 54:7
9
Eshaiah 54:9
Megis dyfroedd Noah (y mae) hyn i Mi, i’r hwn y tyngais Nad elai dyfroedd Noah etto dros y ddaear, Felly y tyngais na ddigiaf wrthyt, ac na’th geryddaf.
Tutki Eshaiah 54:9
10
Eshaiah 54:12
A gosodaf ruddemau i’th waleiau, A’th byrth o garbynclau, A’th holl derfynnau o gerrig dymunol.
Tutki Eshaiah 54:12