1
Eshaiah 43:19
Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.)
CTB
Wele Fi yn gwneuthur peth newydd, Yr awr hon y tyr allan; onid adnabyddwch ef? Ië gwnaf yn yr anialwch ffordd, Yn y diffaethwch afonydd.
Vertaa
Tutki Eshaiah 43:19
2
Eshaiah 43:2
Pan elych trwy ddyfroedd gyda thi Myfi (a fyddaf), A (phan) drwy afonydd ni lifant drosot; Pan rodiech trwy ’r tân ni ’th losgir, A’r fflam ni ’th ysa.
Tutki Eshaiah 43:2
3
Eshaiah 43:18
Na chofiwch y pethau o’r blaen; A’r pethau gynt, nac ystyriwch hwynt
Tutki Eshaiah 43:18
4
Eshaiah 43:1
Er hynny yn awr fel hyn y dywed IEHOFAH, Dy Greawdwr di, Iacob, a’th Luniwr di, Israel; Nac ofna canys Mi a’th adbrynais, Gelwais di erbyn dy enw, eiddo Fi (wyt) ti.
Tutki Eshaiah 43:1
5
Eshaiah 43:4
O herwydd i’t fod yn werthfawr yn Fy ngolwg, Gogoneddwyd di, a Mi a’th hoffais; Am hynny y rhoddaf ddynion am danat ti, A phobloedd am dy einioes di.
Tutki Eshaiah 43:4
6
Eshaiah 43:3
Canys Myfi, IEHOFAH dy Dduw di, Sanct Israel, dy Iachawdwr, A roddais yn iawn drosot yr Aipht, Cwsh a Seba am danat.
Tutki Eshaiah 43:3
7
Eshaiah 43:5
Nac ofna, canys gyda thi Myfi (a fyddaf), O’r dwyrain y dygaf dy hâd, Ac o’r gorllewin y’th gasglaf
Tutki Eshaiah 43:5
8
Eshaiah 43:25
Myfi Myfi (yw) Efe, Yn dileu dy gamweddau er Fy mwyn Fy hun, A ’th bechodau ni chofiaf.
Tutki Eshaiah 43:25
9
Eshaiah 43:10
Chwychwi yw Fy nhystion I, medd IEHOFAH, A’m gwas yr hwn a ddewisais, Fel y gwypoch, ac y credoch Fi, Ac y dealloch mai Myfi (yw) Efe: O’m blaen I ni ffurfiwyd Duw, Ac ar Fy ol I ni bydd.
Tutki Eshaiah 43:10
10
Eshaiah 43:11
Myfi, Myfi (yw) IEHOFAH, Ac nid (oes) heblaw Fi Iachawdwr
Tutki Eshaiah 43:11
11
Eshaiah 43:13
Ië, cyn (bod) dydd Myfi (yw) Efe, Ac nid (oes) o’m llaw a weryd; Gwnaf, a phwy a ’i dychwel?
Tutki Eshaiah 43:13
12
Eshaiah 43:20-21
Gogoniant i Mi a rydd bwystfil y maes, Y dreigiau, a chywion yr estrys, Am roddi o honof yn yr anialwch ddwfr, Afonydd yn y diffaethwch, I roddi dïod i’m pobl, Fy newisedig. Y bobl hyn a luniais im’ Fy hun; Fy moliant a fynegant.
Tutki Eshaiah 43:20-21
13
Eshaiah 43:6-7
Dywedaf wrth y gogledd, “Dod,” Ac wrth y dehau “Nac attal; Dwg Fy meibion o bell, A’m merched o eithaf y ddaear; (Sef) pob un a elwir ar Fy enw, Ac i’m gogoniant a greais, A luniais, Ië, ac a wnaethum.”
Tutki Eshaiah 43:6-7
14
Eshaiah 43:16-17
Fel hyn y dywed IEHOFAH, Yr Hwn a roddodd 2 ffordd 『 1 yn y môr.』 Ac yn y dyfroedd cryfion Iwybr: Yr Hwn a ddug allan y cerbyd a’r march, y llu a’r cadarn, Ynghŷd y gorweddasant, ni chodant, Darfuont, fel llin y diffoddasant.
Tutki Eshaiah 43:16-17
15
Eshaiah 43:15
Myfi IEHOFAH, eich Sanct chwi, Creawdydd Israel, eich Brenhin.
Tutki Eshaiah 43:15