Myfi IEHOFAH a’th elwais mewn cyfiawnder,
Ac ymaflaf yn dy law, ac y ’th gadwaf,
A rhoddaf di yn gyfammod y bobl, ac yn oleuni y cenhedloedd:
I agoryd llygaid y deillion,
Ac i ddwyn allan o garchar y rhai mewn rhwymau,
Ac allan o dŷ ’r geol y rhai a eisteddant mewn tywyllwch.