YouVersion Logo
Search Icon

Marc 16

16
Atgyfodiad Iesu
Mth. 28:1–8; Lc. 24:1–12; In. 20:1–10
1Wedi i'r Saboth fynd heibio, prynodd Mair Magdalen, a Mair mam Iago, a Salome, beraroglau, er mwyn mynd i'w eneinio ef. 2Ac yn fore iawn ar y dydd cyntaf o'r wythnos, a'r haul newydd godi, dyma hwy'n dod at y bedd. 3Ac meddent wrth ei gilydd, “Pwy a dreigla'r maen i ffwrdd oddi wrth ddrws y bedd i ni?” 4Ond wedi edrych i fyny, gwelsant fod y maen wedi ei dreiglo i ffwrdd; oherwydd yr oedd yn un mawr iawn. 5Aethant i mewn i'r bedd, a gwelsant ddyn ifanc yn eistedd ar yr ochr dde, a gwisg laes wen amdano, a daeth arswyd arnynt. 6Meddai yntau wrthynt, “Peidiwch ag arswydo. Yr ydych yn ceisio Iesu, y gŵr o Nasareth a groeshoeliwyd. Y mae wedi ei gyfodi; nid yw yma; dyma'r man lle gosodasant ef. 7Ond ewch, dywedwch wrth ei ddisgyblion ac wrth Pedr. ‘Y mae'n mynd o'ch blaen chwi i Galilea; yno y gwelwch ef, fel y dywedodd wrthych.’ ” 8Daethant allan, a ffoi oddi wrth y bedd, oherwydd yr oeddent yn crynu o arswyd. Ac ni ddywedasant ddim wrth neb, oherwydd yr oedd ofn arnynt.#16:8 Dyma ddiwedd Efengyl Marc yn ôl darlleniad rhai o'r llawysgrifau hynaf, ond ychwanega llawysgrifau eraill adnodau 9–20, a argreffir yma mewn llythrennau italaidd.
Ymddangos i Fair Magdalen
Mth. 28:9–10; In. 20:11–18
9 Ar ôl atgyfodi yn fore ar y dydd cyntaf o'r wythnos, ymddangosodd yn gyntaf i Fair Magdalen, gwraig yr oedd wedi bwrw saith gythraul ohoni. 10Aeth hi a dweud y newydd wrth ei ganlynwyr yn eu galar a'u dagrau. 11A'r rheini, pan glywsant ei fod yn fyw ac wedi ei weld ganddi hi, ni chredasant.
Ymddangos i Ddau Ddisgybl
Lc. 24:13–35
12 Ar ôl hynny, ymddangosodd mewn ffurf arall i ddau ohonynt fel yr oeddent yn cerdded ar eu ffordd i'r wlad; 13ac aethant hwy ymaith a dweud y newydd wrth y lleill. Ond ni chredodd neb y rheini chwaith.
Rhoi Comisiwn i'r Disgyblion
Mth. 28:16–20; Lc. 24:36–49; In. 20:19–23; Act. 1:6–8
14 Yn ddiweddarach, ymddangosodd i'r un ar ddeg pan oeddent wrth bryd bwyd, ac edliw iddynt eu hanghrediniaeth a'u hystyfnigrwydd, am iddynt beidio â chredu y rhai oedd wedi ei weld ef ar ôl ei gyfodi. 15A dywedodd wrthynt, “Ewch i'r holl fyd a phregethwch yr Efengyl i'r greadigaeth i gyd. 16Y sawl a gred ac a fedyddir, fe gaiff ei achub, ond y sawl ni chred, fe'i condemnir. 17A bydd yr arwyddion hyn yn dilyn i'r sawl a gredodd: bwriant allan gythreuliaid yn fy enw i, llefarant â thafodau newydd, 18gafaelant mewn seirff, ac os yfant wenwyn marwol ni wna ddim niwed iddynt; rhoddant eu dwylo ar gleifion, ac iach fyddant.”
Esgyniad Iesu
Lc. 24:50–53; Act. 1:9–11
19 Felly, wedi iddo lefaru wrthynt, cymerwyd yr Arglwydd Iesu i fyny i'r nef ac eisteddodd ar ddeheulaw Duw. 20Ac aethant hwy allan a phregethu ym mhob man, a'r Arglwydd yn cydweithio â hwy ac yn cadarnhau'r gair trwy'r arwyddion oedd yn dilyn. #16:20 Yn lle, neu'n ychwanegol at, adn. 9–20, rhydd rhai llawysgrifau y diweddglo a ganlyn: Adroddasant yn gryno y cwbl a orchmynnwyd iddynt wrth Pedr a'r rhai oedd gydag ef. Wedi hynny, anfonodd Iesu ei hunan allan trwyddynt hwy, o'r dwyrain hyd at y gorllewin, genadwri sanctaidd ac anllygradwy iachawdwriaeth dragwyddol. Amen.

Currently Selected:

Marc 16: BCND

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy