YouVersion Logo
Search Icon

Marc 15

15
Iesu gerbron Pilat
Mth. 27:1–2, 11–14; Lc. 23:1–5; In. 18:28–38
1Cyn gynted ag y daeth hi'n ddydd, ymgynghorodd y prif offeiriaid â'r#15:1 Yn ôl darlleniad arall, ffurfiodd y prif offeiriaid gynllwyn gyda'r. henuriaid a'r ysgrifenyddion a'r holl Sanhedrin; yna rhwymasant Iesu a mynd ag ef ymaith a'i drosglwyddo i Pilat. 2Holodd Pilat ef: “Ai ti yw Brenin yr Iddewon?” Atebodd yntau ef: “Ti sy'n dweud hynny.#15:2 Neu, Yr wyt yn dweud y gwir.3Ac yr oedd y prif offeiriaid yn dwyn llawer o gyhuddiadau yn ei erbyn. 4Holodd Pilat ef wedyn: “Onid atebi ddim? Edrych faint o gyhuddiadau y maent yn eu dwyn yn dy erbyn.” 5Ond nid atebodd Iesu ddim mwy, er syndod i Pilat.
Dedfrydu Iesu i Farwolaeth
Mth. 27:15–26; Lc. 23:13–25; In. 18:39—19:16
6Ar yr ŵyl yr oedd Pilat yn arfer rhyddhau iddynt un carcharor y gofynnent amdano. 7Ac yr oedd y dyn a elwid Barabbas yn y carchar gyda'r gwrthryfelwyr hynny oedd wedi llofruddio yn ystod y gwrthryfel. 8Daeth y dyrfa i fyny a dechrau gofyn i Pilat wneud yn ôl ei arfer iddynt. 9Atebodd Pilat hwy: “A fynnwch i mi ryddhau i chwi Frenin yr Iddewon?” 10Oherwydd gwyddai mai o genfigen yr oedd y prif offeiriaid wedi ei draddodi ef. 11Ond cyffrôdd y prif offeiriaid y dyrfa i geisio ganddo yn hytrach ryddhau Barabbas iddynt. 12Atebodd Pilat drachefn, ac meddai wrthynt, “Beth, ynteu, a wnaf â hwn yr ydych yn ei alw yn Frenin yr Iddewon?” 13Gwaeddasant hwythau yn ôl, “Croeshoelia ef.” 14Meddai Pilat wrthynt, “Ond pa ddrwg a wnaeth ef?” Gwaeddasant hwythau yn uwch byth, “Croeshoelia ef.” 15A chan ei fod yn awyddus i fodloni'r dyrfa, rhyddhaodd Pilat Barabbas iddynt, a thraddododd Iesu, ar ôl ei fflangellu, i'w groeshoelio.
Y Milwyr yn Gwatwar Iesu
Mth. 27:27–31; In. 19:2–3
16Aeth y milwyr ag ef ymaith i mewn i'r cyntedd, hynny yw, i'r Praetoriwm, a galw ynghyd yr holl fintai. 17A gwisgasant ef â phorffor, a phlethu coron ddrain a'i gosod am ei ben. 18A dechreusant ei gyfarch: “Henffych well, Frenin yr Iddewon!” 19Curasant ei ben â gwialen, a phoeri arno, a phlygu eu gliniau ac ymgrymu iddo. 20Ac wedi iddynt ei watwar, tynasant y porffor oddi amdano a'i wisgo ef â'i ddillad ei hun. Yna aethant ag ef allan i'w groeshoelio.
Croeshoelio Iesu
Mth. 27:32–44; Lc. 23:26–43; In. 19:17–27
21Gorfodasant un oedd yn mynd heibio ar ei ffordd o'r wlad, Simon o Cyrene, tad Alexander a Rwffus, i gario ei groes ef. 22Daethant ag ef i'r lle a elwir Golgotha, hynny yw, o'i gyfieithu, “Lle Penglog”. 23Cynigiasant iddo win â myrr ynddo, ond ni chymerodd ef. 24A chroeshoeliasant ef,
a rhanasant ei ddillad,
gan fwrw coelbren arnynt i benderfynu beth a gâi pob un.
25Naw o'r gloch y bore oedd hi pan groeshoeliasant ef. 26Ac yr oedd arysgrif y cyhuddiad yn ei erbyn yn dweud: “Brenin yr Iddewon.” 27A chydag ef croeshoeliasant ddau leidr, un ar y dde ac un ar y chwith iddo.#15:27 Yn ôl darlleniad arall ychwanegir adn. 28 A chyflawnwyd yr Ysgrythur sy'n dweud, “A chyfrifwyd ef gyda'r troseddwyr.” 29Yr oedd y rhai oedd yn mynd heibio yn ei gablu ef, gan ysgwyd eu pennau a dweud, “Oho, ti sydd am fwrw'r deml i lawr a'i hadeiladu mewn tridiau, 30disgyn oddi ar y groes ac achub dy hun.” 31A'r un modd yr oedd y prif offeiriaid hefyd, ynghyd â'r ysgrifenyddion, yn ei watwar wrth ei gilydd, ac yn dweud, “Fe achubodd eraill; ni all ei achub ei hun. 32Disgynned y Meseia, Brenin Israel, yn awr oddi ar y groes, er mwyn inni weld a chredu.” Yr oedd hyd yn oed y rhai a groeshoeliwyd gydag ef yn ei wawdio.
Marwolaeth Iesu
Mth. 27:45–56; Lc. 23:44–49; In. 19:28–30
33A phan ddaeth yn hanner dydd, bu tywyllwch dros yr holl wlad hyd dri o'r gloch y prynhawn. 34Ac am dri o'r gloch gwaeddodd Iesu â llef uchel, “Eloï, Eloï, lema sabachthani”, hynny yw, o'i gyfieithu, “Fy Nuw, fy Nuw, pam yr wyt wedi fy ngadael?” 35O glywed hyn, meddai rhai o'r sawl oedd yn sefyll gerllaw, “Clywch, y mae'n galw ar Elias.” 36Rhedodd rhywun a llenwi ysbwng â gwin sur a'i ddodi ar flaen gwialen a'i gynnig iddo i'w yfed. “Gadewch inni weld,” meddai, “a ddaw Elias i'w dynnu ef i lawr.” 37Ond rhoes Iesu lef uchel, a bu farw. 38A rhwygwyd llen y deml yn ddwy o'r pen i'r gwaelod. 39Pan welodd y canwriad, a oedd yn sefyll gyferbyn ag ef, mai gyda gwaedd felly y bu farw, dywedodd, “Yn wir, Mab Duw#15:39 Neu, mab i Dduw. oedd y dyn hwn.” 40Yr oedd gwragedd hefyd yn edrych o hirbell; yn eu plith yr oedd Mair Magdalen, a Mair mam Iago Fychan a Joses, a Salome, 41gwragedd a fu'n ei ganlyn ac yn gweini arno pan oedd yng Ngalilea, a llawer o wragedd eraill oedd wedi dod i fyny gydag ef i Jerwsalem.
Claddu Iesu
Mth. 27:57–61; Lc. 23:50–56; In. 19:38–42
42Yr oedd hi eisoes yn hwyr, a chan ei bod yn ddydd Paratoad, hynny yw, y dydd cyn y Saboth, 43daeth Joseff o Arimathea, cynghorwr uchel ei barch a oedd yntau'n disgwyl am deyrnas Dduw, a mentrodd fynd i mewn at Pilat a gofyn am gorff Iesu. 44Rhyfeddodd Pilat ei fod eisoes wedi marw, a galwodd y canwriad ato a gofyn iddo a oedd wedi marw ers meitin. 45Ac wedi cael gwybod gan y canwriad, rhoddodd y corff i Joseff. 46Prynodd yntau liain, ac wedi ei dynnu ef i lawr, a'i amdói yn y lliain, gosododd ef mewn bedd oedd wedi ei naddu o'r graig; a threiglodd faen ar ddrws y bedd. 47Ac yr oedd Mair Magdalen a Mair mam Joses yn edrych ym mhle y gosodwyd ef.

Currently Selected:

Marc 15: BCND

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy