YouVersion Logo
Search Icon

Esra 3

3
Ailgodi'r Allor
1Pan ddaeth y seithfed mis, a'r Israeliaid erbyn hyn yn eu trefi, ymgasglodd y bobl fel un gŵr i Jerwsalem. 2A dechreuodd Jesua fab Josadac a'i gyd-offeiriaid, a Sorobabel fab Salathiel a'i frodyr, ailadeiladu allor Duw Israel er mwyn aberthu poethoffrymau arni, fel y mae'n ysgrifenedig yng nghyfraith Moses gŵr Duw. 3Er eu bod yn ofni'r bobloedd oddi amgylch, codasant yr allor yn ei lle, ac aberthu arni boethoffrymau i'r ARGLWYDD fore a hwyr. 4Yr oeddent yn dathlu gŵyl y Pebyll fel yr oedd yn ysgrifenedig, ac yn aberthu'n ddyddiol y nifer priodol o boethoffrymau ar gyfer pob dydd. 5Ar ôl hyn yr oeddent yn aberthu'r poethoffrymau cyson, a'r rhai ar gyfer y newydd-loerau a holl wyliau penodedig yr ARGLWYDD, a'r holl aberthau a roddid yn wirfoddol i'r ARGLWYDD. 6Dechreusant aberthu poethoffrymau i'r ARGLWYDD o ddydd cyntaf y seithfed mis, er nad oedd sylfaen teml yr ARGLWYDD wedi ei gosod.
Dechrau Ailadeiladu'r Deml
7Yna rhoesant arian i'r seiri meini a'r seiri coed, a bwyd a diod ac olew i'r Sidoniaid a'r Tyriaid i ddod â chedrwydd dros y môr o Lebanon i Jopa trwy ganiatâd Cyrus brenin Persia. 8Yn ail fis yr ail flwyddyn wedi iddynt ddychwelyd i dŷ Dduw yn Jerwsalem, dechreuodd Sorobabel fab Salathiel a Jesua fab Josadac ar y gwaith gyda'r gweddill o'u brodyr, a'r offeiriaid a'r Lefiaid, a phawb oedd wedi dychwelyd o'r gaethglud i Jerwsalem; a phenodwyd y Lefiaid oedd dros ugain mlwydd oed i arolygu gwaith tŷ'r ARGLWYDD. 9Jesua a'i feibion a'i frodyr oedd yn gyfrifol am arolygu'r gweithwyr yn nhŷ Dduw, a chyda hwy yr oedd y Jwdead Cadmiel a'i feibion, a meibion Henadad a'u meibion hwythau, a'u brodyr y Lefiaid. 10Wedi i'r adeiladwyr osod sylfaen teml yr ARGLWYDD, safodd yr offeiriaid yn eu gwisgoedd gyda thrwmpedau, a'r Lefiaid, meibion Asaff, gyda symbalau i foliannu'r ARGLWYDD yn ôl gorchymyn Dafydd brenin Israel. 11Yr oeddent yn ateb ei gilydd mewn mawl a diolch i'r ARGLWYDD: “Y mae ef yn dda, a'i gariad at Israel yn parhau byth.” Yna bloeddiodd yr holl bobl yn uchel mewn moliant i'r ARGLWYDD am fod sylfaen tŷ'r ARGLWYDD wedi ei gosod. 12Yr oedd llawer o'r offeiriaid a'r Lefiaid a'r pennau-teuluoedd, a oedd yn ddigon hen i fod wedi gweld y tŷ cyntaf, yn wylo'n hidl pan welsant osod sylfaen y tŷ hwn; ond yr oedd llawer yn bloeddio'n uchel o lawenydd. 13Ac ni fedrai neb wahaniaethu rhwng sŵn y llawenydd a sŵn y bobl yn wylo, am fod y bobl yn gweiddi mor uchel nes bod y sŵn i'w glywed o bell.

Currently Selected:

Esra 3: BCND

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy