YouVersion Logo
Search Icon

Esra 2

2
Rhestr y Rhai a Ddychwelodd o'r Gaethglud
Neh. 7:5–73
1Dyma bobl y dalaith a ddychwelodd o gaethiwed, o'r gaethglud a ddygwyd i Fabilon gan Nebuchadnesar brenin Babilon; daethant yn ôl i Jerwsalem ac i Jwda, pob un i'w dref ei hun. 2Gyda Sorobabel yr oedd Jesua, Nehemeia, Seraia, Reelaia, Mordecai, Bilsan, Mispar, Bigfai, Rehum a Baana. Rhestr pobl Israel: 3teulu Paros, dwy fil un cant saith deg a dau; 4teulu Seffateia, tri chant saith deg a dau; 5teulu Ara, saith gant saith deg a phump; 6teulu Pahath-moab, hynny yw teuluoedd Jesua a Joab, dwy fil wyth gant a deuddeg; 7teulu Elam, mil dau gant pum deg a phedwar; 8teulu Sattu, naw cant pedwar deg a phump; 9teulu Saccai, saith gant chwe deg; 10teulu Bani, chwe chant pedwar deg a dau; 11teulu Bebai, chwe chant dau ddeg a thri; 12teulu Asgad, mil dau gant dau ddeg a dau; 13teulu Adonicam, chwe chant chwe deg a chwech; 14teulu Bigfai, dwy fil pum deg a chwech; 15teulu Adin, pedwar cant pum deg a phedwar; 16teulu Ater, hynny yw Heseceia, naw deg ac wyth; 17teulu Besai, tri chant dau ddeg a thri; 18teulu Jora, cant a deuddeg; 19teulu Hasum, dau gant dau ddeg a thri; 20teulu Gibbar, naw deg a phump; 21teulu Bethlehem, cant dau ddeg a thri. 22Gwŷr Netoffa, pum deg a chwech; 23gwŷr Anathoth, cant dau ddeg ac wyth. 24Teulu Asmafeth, pedwar deg a dau; 25teulu Ciriath-jearim a Ceffira a Beeroth, saith gant pedwar deg a thri; 26teulu Rama a Geba, chwe chant dau ddeg ac un. 27Gwŷr Michmas, cant dau ddeg a dau; 28gwŷr Bethel ac Ai, dau gant dau ddeg a thri. 29Teulu Nebo, pum deg a dau; 30teulu Magbis, cant pum deg a phedwar; 31teulu'r Elam arall, mil dau gant pum deg a phedwar; 32teulu Harim, tri chant dau ddeg; 33teulu Lod a Hadid ac Ono, saith gant dau ddeg a phump; 34teulu Jericho, tri chant pedwar deg a phump; 35teulu Senaa, tair mil chwe chant tri deg.
36Yr offeiriaid: teulu Jedeia, o linach Jesua, naw cant saith deg a thri; 37teulu Immer, mil pum deg a dau; 38teulu Pasur, mil dau gant pedwar deg a saith; 39teulu Harim, mil un deg a saith.
40Y Lefiaid: teulu Jesua a Cadmiel, o deulu Hodafia, saith deg a phedwar.
41Y cantorion: teulu Asaff, cant dau ddeg ac wyth.
42Y porthorion: teuluoedd Salum, Ater, Talmon, Accub, Hatita, a Sobai, cant tri deg a naw i gyd.
43Gweision y deml: teuluoedd Siha, Hasuffa, Tabbaoth, 44Ceros, Siaha, Padon, 45Lebana, Hagaba, Accub, 46Hagab, Salmai, Hanan, 47Gidel, Gahar, Reaia, 48Resin, Necoda, Gassam, 49Ussa, Pasea, Besai, 50Asna, Meunim, Neffusim, 51Bacbuc, Hacuffa, Harhur, 52Basluth, Mehida, Harsa, 53Barcos, Sisera, Tama, 54Neseia, a Hatiffa.
55Disgynyddion gweision Solomon: teuluoedd Sotai, Soffereth, Peruda, 56Jala, Darcon, Gidel, 57Seffateia, Hattil, Pochereth o Sebaim, ac Ami. 58Cyfanswm gweision y deml a disgynyddion gweision Solomon oedd tri chant naw deg a dau.
59Daeth y rhai canlynol i fyny o Tel-mela, Tel-harsa, Cerub, Adan ac Immer, ond ni fedrent brofi mai o Israel yr oedd eu llinach a'u tras: 60teuluoedd Delaia, Tobeia, a Necoda, chwe chant pum deg a dau. 61Ac o blith yr offeiriaid: teuluoedd Hobaia, Cos, a'r Barsilai a briododd un o ferched Barsilai o Gilead a chymryd ei enw#2:61 Felly Groeg. Hebraeg, eu henw.. 62Chwiliodd y rhain am gofnod o'u hachau, ond methu ei gael; felly cawsant eu hatal o'r offeiriadaeth, 63a gwaharddodd y llywodraethwr iddynt fwyta'r pethau mwyaf cysegredig nes y ceid offeiriad i ymgynghori â'r Wrim a'r Twmim.
64Nifer y fintai gyfan oedd pedwar deg a dwy o filoedd tri chant chwe deg, 65heblaw eu gweision a'u morynion, oedd yn saith mil tri chant tri deg a saith. Yr oedd ganddynt hefyd ddau gant o gantorion a chantoresau. 66Yr oedd ganddynt saith gant tri deg a chwech o geffylau, dau gant pedwar deg a phump o fulod, 67pedwar cant tri deg a phump o gamelod, a chwe mil saith gant dau ddeg o asynnod.
68Pan ddaethant i dŷ'r ARGLWYDD yn Jerwsalem, ymrwymodd rhai o'r pennau-teuluoedd o'u gwirfodd i ailgodi tŷ Dduw ar ei hen sylfaen yn ôl eu gallu. 69Rhoesant i drysorfa'r gwaith chwe deg ac un o filoedd o ddracmonau aur a phum mil mina o arian a chant o wisgoedd offeiriadol. 70Cartrefodd yr offeiriaid a'r Lefiaid a rhai o'r bobl yn Jerwsalem#2:70 Felly Groeg. Hebraeg heb yn Jerwsalem., a'r cantorion, y porthorion a gweision y deml yn y cyffiniau#2:70 Felly Groeg. Hebraeg, yn eu trefi., a'r Israeliaid eraill yn eu trefi eu hunain.

Currently Selected:

Esra 2: BCND

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy