YouVersion Logo
Search Icon

1 Pedr 3

3
Gwragedd a Gwŷr
1Yn yr un modd, chwi wragedd priod, byddwch ddarostyngedig i'ch gwŷr; ac yna, os oes rhai sy'n anufudd i'r gair, fe'u henillir hwy trwy ymarweddiad eu gwragedd, heb i chwi ddweud yr un gair, 2wedi iddynt weld eich ymarweddiad pur a duwiolfrydig. 3Boed ichwi'n addurn, nid pethau allanol fel plethu gwallt, ymdaclu â thlysau aur, ymharddu â gwisgoedd, 4ond cymeriad cêl y galon a'i degwch di-dranc, sef ysbryd addfwyn a thawel. Dyna sy'n werthfawr yng ngolwg Duw. 5Oherwydd felly hefyd y byddai'r gwragedd sanctaidd gynt, a oedd yn gobeithio yn Nuw, yn eu haddurno eu hunain; byddent yn ymddarostwng i'w gwŷr, 6fel yr ufuddhaodd Sara i Abraham a'i alw'n arglwydd. A phlant iddi hi ydych chwi, os daliwch ati i wneud daioni, heb ofni dim oll.
7Yn yr un modd, chwi wŷr, byddwch yn ystyriol yn eich bywyd priodasol; rhowch y parch dyladwy i'r wraig, gan mai hi yw'r llestr gwannaf, a chan eich bod yn gydetifeddion y gras sy'n rhoi bywyd. Felly, ni chaiff eich gweddïau mo'u rhwystro.
Dioddef o achos Cyfiawnder
8Yn olaf, bawb ohonoch, byddwch o'r un meddwl yn cydymdeimlo â'ch gilydd yn frawdol, yn dyner eich calon, yn ostyngedig eich ysbryd. 9Peidiwch â thalu drwg am ddrwg na sen am sen. I'r gwrthwyneb, bendithiwch! Oherwydd i hyn y cawsoch eich galw—er mwyn i chwi etifeddu bendith. 10Yng ngeiriau'r Ysgrythur:
“Yr hwn sy'n ewyllysio caru bywyd
a gweld dyddiau da,
rhaid iddo atal ei dafod rhag drwg,
a'i wefusau rhag llefaru celwydd;
11rhaid iddo droi oddi wrth ddrwg a gwneud da,
ceisio heddwch a'i ddilyn;
12canys y mae llygaid yr Arglwydd ar y cyfiawn,
a'i glustiau'n agored i'w deisyfiad,
ond y mae wyneb yr Arglwydd yn erbyn y rhai sy'n gwneud drygioni.”
13Felly, pwy a wna niwed ichwi os byddwch yn selog tros ddaioni? 14Ond hyd yn oed pe digwyddai ichwi ddioddef o achos cyfiawnder, gwyn eich byd! Peidiwch â'u hofni hwy, a pheidiwch â chymryd eich tarfu, 15ond sancteiddiwch Grist yn Arglwydd yn eich calonnau. Byddwch yn barod bob amser i roi ateb i bob un fydd yn ceisio gennych gyfrif am y gobaith sydd ynoch. Ond gwnewch hynny gydag addfwynder a pharchedig ofn, 16gan gadw eich cydwybod yn lân; ac yna, lle'r ydych yn awr yn cael eich sarhau, fe godir cywilydd ar y rhai sy'n dilorni eich ymarweddiad da yng Nghrist. 17Oherwydd gwell yw dioddef, os dyna ewyllys Duw, am wneud da nag am wneud drwg. 18Oherwydd dioddefodd Crist yntau#3:18 Yn ôl darlleniad arall, Oherwydd, er eich mwyn chwi, bu Crist yntau farw. un waith am byth dros bechodau, y cyfiawn dros yr anghyfiawn, i'ch dwyn chwi at Dduw. Er ei roi i farwolaeth o ran y cnawd, fe'i gwnaed yn fyw o ran yr ysbryd, 19ac felly yr aeth a chyhoeddi ei genadwri i'r ysbrydion yng ngharchar. 20Yr oedd y rheini wedi bod yn anufudd gynt, pan oedd Duw yn ei amynedd yn dal i ddisgwyl, yn nyddiau Noa ac adeiladu'r arch. Yn yr arch fe achubwyd ychydig, sef wyth enaid, trwy ddŵr, 21ac y mae'r hyn sy'n cyfateb i hynny, sef bedydd, yn eich achub chwi yn awr, nid fel modd i fwrw ymaith fudreddi'r cnawd, ond fel ernes o gydwybod dda tuag at Dduw, trwy atgyfodiad Iesu Grist. 22Y mae ef, ar ôl mynd i mewn i'r nef, ar ddeheulaw Duw, a'r angylion a'r awdurdodau a'r galluoedd wedi eu darostwng iddo.

Currently Selected:

1 Pedr 3: BCND

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy