YouVersion Logo
Search Icon

1 Pedr 2

2
Y Maen Bywiol a'r Genedl Sanctaidd
1Ymaith gan hynny â phob drygioni a phob twyll a rhagrith a chenfigen, a phob siarad bychanus! 2Fel babanod newydd eu geni, blysiwch am laeth ysbrydol pur, er mwyn ichwi drwyddo gynyddu i iachawdwriaeth, 3os ydych#2:3 Yn ôl darlleniad arall, a chwithau. wedi profi tiriondeb yr Arglwydd. 4Wrth ddod ato ef, y maen bywiol, gwrthodedig gan bobl ond etholedig a chlodfawr gan Dduw, 5yr ydych chwithau hefyd, fel meini bywiol, yn cael eich adeiladu yn dŷ ysbrydol, i fod yn offeiriadaeth sanctaidd, er mwyn offrymu aberthau ysbrydol, cymeradwy gan Dduw trwy Iesu Grist. 6Oherwydd y mae'n sefyll yn yr Ysgrythur:
“Wele fi'n gosod maen yn Seion,
conglfaen etholedig a chlodfawr,
a'r hwn sy'n credu ynddo, ni chywilyddir byth mohono.”
7Y mae ei glod, gan hynny, yn eiddoch chwi, y credinwyr; ond i'r anghredinwyr,
“Y maen a wrthododd yr adeiladwyr,
hwn a ddaeth yn faen y gongl”,
8a hefyd,
“Maen tramgwydd,
a chraig rhwystr.”
Y maent yn tramgwyddo wrth anufuddhau i'r gair; dyma'r dynged a osodwyd iddynt.
9Ond yr ydych chwi yn hil etholedig, yn offeiriadaeth frenhinol, yn genedl sanctaidd, yn bobl o'r eiddo Duw ei hun, i hysbysu gweithredoedd ardderchog yr Un a'ch galwodd chwi allan o dywyllwch i'w ryfeddol oleuni ef:
10“A chwi gynt heb fod yn bobl,
yr ydych yn awr yn bobl Dduw;
a chwi gynt heb dderbyn trugaredd,
yr ydych yn awr yn rhai a dderbyniodd drugaredd.”
Byw fel Gweision Duw
11Gyfeillion annwyl, rwy'n deisyf arnoch, fel alltudion a dieithriaid, i ymgadw rhag y chwantau cnawdol sydd yn rhyfela yn erbyn yr enaid. 12Bydded eich ymarweddiad ymhlith y Cenhedloedd mor amlwg o dda nes iddynt hwy, lle y maent yn awr yn eich sarhau fel drwgweithredwyr, ogoneddu Duw yn nydd ei ymweliad ar gyfrif yr hyn a welant o'ch gweithredoedd da chwi.
13Ymostyngwch, er mwyn yr Arglwydd, i bob sefydliad dynol, p'run ai i'r ymerawdwr fel y prif awdurdod, 14ai i'r llywodraethwyr fel rhai a anfonir ganddo ef er cosb i ddrwgweithredwyr a chlod i weithredwyr daioni. 15Oherwydd hyn yw ewyllys Duw, i chwi trwy wneud daioni roi taw ar anwybodaeth ffyliaid. 16Rhaid ichwi fyw fel pobl rydd, eto peidio ag arfer eich rhyddid i gelu drygioni, ond bod fel caethweision Duw. 17Rhowch barch i bawb, carwch deulu'r ffydd, ofnwch Dduw, parchwch yr ymerawdwr.
Dioddefaint Crist yn Esiampl
18Chwi weision, byddwch ddarostyngedig i'ch meistri gyda phob parchedig ofn, nid yn unig i'r rhai da ac ystyriol ond hefyd i'r rhai gormesol. 19Oblegid hyn sydd gymeradwy, bod rhywun, am fod ei feddylfryd ar Dduw, yn dygymod â'i flinderau er iddo ddioddef ar gam. 20Oherwydd pa glod sydd mewn dygymod â chael eich cernodio am ymddwyn yn ddrwg? Ond os am wneud daioni y byddwch yn dioddef, ac yn dygymod â hynny, dyna'r peth sy'n gymeradwy gan Dduw. 21Canys i hyn y'ch galwyd, oherwydd dioddefodd#2:21 Yn ôl darlleniad arall, bu farw. Crist yntau er eich mwyn chwi, gan adael ichwi esiampl, ichwi ganlyn yn ôl ei draed ef. 22Yng ngeiriau'r Ysgrythur:
“Ni wnaeth ef bechod,
ac ni chafwyd twyll yn ei enau.”
23Pan fyddai'n cael ei ddifenwi, ni fyddai'n difenwi'n ôl; pan fyddai'n dioddef, ni fyddai'n bygwth, ond yn ei gyflwyno'i hun i'r Un sy'n barnu'n gyfiawn. 24Ef ei hun a ddygodd ein pechodau yn ei gorff ar#2:24 Neu, at. y croesbren, er mwyn i ni ddarfod â'n pechodau a byw i gyfiawnder. Trwy ei archoll ef y cawsoch iachâd. 25Oherwydd yr oeddech fel defaid ar ddisberod, ond yn awr troesoch at Fugail a Gwarchodwr eich eneidiau.

Currently Selected:

1 Pedr 2: BCND

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy