YouVersion Logo
Search Icon

2 Cronicl 18

18
Jehosaffat ac Ahab
(1 Brenhinoedd 22:1-9)
1Roedd Jehosaffat yn gyfoethog iawn ac roedd parch mawr ato. Ond dyma fe’n gwneud cytundeb gwleidyddol gydag Ahab, a’i selio drwy gael ei fab i briodi merch Ahab. 2Yna rai blynyddoedd yn ddiweddarach dyma fe’n mynd i ymweld ag Ahab yn Samaria. Dyma Ahab yn lladd llawer iawn o ddefaid a gwartheg i baratoi gwledd fawr i anrhydeddu Jehosaffat a’i swyddogion, a’i berswadio i fynd gydag e i ymosod ar Ramoth-gilead. 3Dyma Ahab, brenin Israel, yn gofyn i Jehosaffat, “Ddoi di gyda mi i ymladd am Ramoth-gilead?” Atebodd Jehosaffat, “Dw i gyda ti. Bydd fy myddin yn dy helpu yn y frwydr.” 4Yna dyma Jehosaffat yn ychwanegu, “Ond gad i ni’n gyntaf holi beth mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud.”
5Felly dyma frenin Israel yn casglu’r proffwydi at ei gilydd – roedd tua pedwar cant ohonyn nhw. Gofynnodd iddyn nhw, “Ddylwn i ymosod ar Ramoth-gilead neu ddim?” A dyma nhw’n ateb, “Dos! Bydd Duw yn rhoi buddugoliaeth i’r brenin!” 6Ond dyma Jehosaffat yn gofyn, “Oes yna ddim un o broffwydi’r ARGLWYDD yma, i ni ofyn iddo fe hefyd?” 7A dyma frenin Israel yn ateb, “Oes, mae yna un dyn gallwn holi’r ARGLWYDD drwyddo. Ond dw i’n ei gasáu e, achos dydy e erioed wedi proffwydo dim byd da i mi, dim ond drwg. Ei enw e ydy Michea fab Imla.” “Paid siarad fel yna,” meddai Jehosaffat. 8Felly dyma frenin Israel yn galw swyddog draw a dweud wrtho, “Brysia! Tyrd â Michea fab Imla yma.”
Proffwydoliaeth Michea
(1 Brenhinoedd 22:10-28)
9Roedd brenin Israel a Jehosaffat, brenin Jwda, yn eu gwisgoedd brenhinol, yn eistedd ar orseddau yn y sgwâr wrth giât i ddinas Samaria. O’u blaenau roedd yr holl broffwydi wrthi’n proffwydo. 10Dyma Sedeceia fab Cenaana yn gwneud cyrn haearn. A dyma fe’n cyhoeddi, “Dyma mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Byddi di’n cornio’r Syriaid gyda’r rhain, ac yn eu difa nhw.’” 11Ac roedd y proffwydi eraill i gyd yn dweud yr un fath. “Dos i ymosod ar Ramoth-gilead. Byddi’n ennill y frwydr! Mae’r ARGLWYDD yn mynd i roi buddugoliaeth i ti.”
12Dyma’r un oedd wedi mynd i nôl Michea yn dweud wrtho, “Gwranda, mae’r proffwydi i gyd yn cytuno fod y brenin yn mynd i lwyddo. Dwed di’r un peth, a proffwyda lwyddiant iddo.” 13Ond dyma Michea’n ei ateb, “Mor sicr â bod yr ARGLWYDD yn fyw, fydda i ond yn dweud beth fydd Duw yn ei ddweud wrtho i.”
14Pan ddaeth e at y brenin dyma’r brenin yn gofyn iddo, “Michea, ddylwn i ymosod ar Ramoth-gilead neu ddim?” A dyma fe’n ateb, “Dos di! Byddi’n llwyddo. Bydd Duw yn rhoi buddugoliaeth i ti!” 15Ond dyma’r brenin yn dweud wrtho, “Faint o weithiau ydw i wedi gwneud i ti addo o flaen yr ARGLWYDD y byddi’n dweud dim byd ond y gwir wrtho i?” 16A dyma Michea’n dweud,
“Gwelais Israel gyfan ar wasgar dros y bryniau,
fel defaid heb fugail.
A dyma’r ARGLWYDD yn dweud,
‘Does ganddyn nhw ddim meistri.
Dylen nhw i gyd fynd adre’n dawel.’”
17A dyma frenin Israel yn dweud wrth Jehosaffat, “Wnes i ddim dweud wrthot ti? Dydy hwn byth yn proffwydo dim byd da i mi, dim ond drwg.”
18A dyma Michea’n dweud, “Felly, gwrando ar neges yr ARGLWYDD. Gwelais yr ARGLWYDD yn eistedd ar ei orsedd, a’i fyddin o angylion yn sefyll bob ochr iddo. 19A dyma’r ARGLWYDD yn gofyn, ‘Pwy sy’n gallu twyllo Ahab, brenin Israel, a gwneud iddo ymosod ar Ramoth-gilead a chael ei ladd yno?’ Ac roedd pawb yn cynnig syniadau gwahanol. 20Ond yna dyma ysbryd yn dod a sefyll o flaen yr ARGLWYDD, a dweud, ‘Gwna i ei dwyllo fe.’ A dyma’r ARGLWYDD yn gofyn iddo, ‘Sut?’ 21‘Gwna i fynd allan fel ysbryd celwyddog a siarad drwy ei broffwydi e,’ meddai. A dyma’r ARGLWYDD yn dweud, ‘Dos i wneud hynny. Byddi’n llwyddo i’w dwyllo.’ 22Felly, wyt ti’n gweld? Mae’r ARGLWYDD wedi gwneud i dy broffwydi di ddweud celwydd. Mae’r ARGLWYDD am wneud drwg i ti.”
23Yna dyma Sedeceia fab Cenaana yn camu ymlaen a rhoi dyrnod i Michea ar ei ên, a gofyn, “Sut wnaeth Ysbryd yr ARGLWYDD fy ngadael i a dechrau siarad â ti?”
24A dyma Michea’n ateb, “Cei weld ar y diwrnod hwnnw pan fyddi di’n chwilio am ystafell o’r golwg yn rhywle i guddio ynddi!”
25Yna dyma frenin Israel yn dweud, “Arestiwch Michea a’i roi yng ngofal Amon, rheolwr y ddinas, a Joas fy mab. 26Dwedwch wrthyn nhw, ‘Mae’r brenin yn dweud, “Cadwch hwn yn y carchar, a rhoi dim byd ond ychydig fara a dŵr iddo nes bydda i wedi dod yn ôl yn saff.”’” 27A dyma Michea’n dweud, “Os ddoi di yn ôl yn saff, dydy’r ARGLWYDD ddim wedi siarad trwof fi.” A dyma fe’n dweud wrth y bobl oedd yno, “Cofiwch chi beth ddwedais i!”
Ahab yn cael ei ladd yn y frwydr
(1 Brenhinoedd 22:29-35)
28Dyma frenin Israel a Jehosaffat, brenin Jwda, yn mynd i ymosod ar Ramoth-gilead. 29A dyma frenin Israel yn dweud wrth Jehosaffat, “Dw i’n mynd i wisgo dillad gwahanol i fynd i ryfel, ond gwisga di dy ddillad brenhinol.” Felly dyma frenin Israel yn newid ei ddillad a dyma nhw’n mynd i’r frwydr.
30Roedd brenin Syria wedi rhoi gorchymyn i’r capteiniaid oedd ganddo ar ei gerbydau, “Peidiwch poeni ymladd gyda neb, yn filwyr cyffredin na swyddogion, dim ond gyda brenin Israel.” 31Pan welodd y capteiniaid Jehosaffat dyma nhw’n dweud, “Mae’n rhaid mai fe ydy brenin Israel!” Felly dyma nhw’n troi i fynd ar ei ôl. Ond wrth i Jehosaffat weiddi, dyma’r ARGLWYDD yn ei helpu. Dyma Duw yn eu harwain nhw i ffwrdd oddi wrtho. 32Roedden nhw’n gweld mai nid brenin Israel oedd e, a dyma nhw’n gadael llonydd iddo. 33Yna dyma rhyw filwr yn digwydd saethu â’i fwa ar hap a tharo brenin Israel rhwng dau ddarn o’i arfwisg. A dyma’r brenin yn dweud wrth yrrwr ei gerbyd, “Tro yn ôl! Dos â fi allan o’r frwydr. Dw i wedi cael fy anafu!” 34Aeth y frwydr yn ei blaen drwy’r dydd. Roedd brenin Israel yn cael ei ddal i fyny yn ei gerbyd yn gwylio’r Syriaid. Yna gyda’r nos, wrth i’r haul fachlud, dyma fe’n marw.

Currently Selected:

2 Cronicl 18: bnet

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy