YouVersion Logo
Search Icon

2 Cronicl 17

17
Jehosaffat yn frenin Jwda
1Daeth ei fab Jehosaffat yn frenin yn ei le, ac aeth ati i gryfhau’r deyrnas iddi allu gwrthsefyll Israel. 2Rhoddodd filwyr yn y trefi amddiffynnol a gosod garsiynau drwy wlad Jwda i gyd, ac yn y trefi roedd Asa ei dad wedi’i hennill oddi ar Effraim.
3Roedd yr ARGLWYDD gyda Jehosaffat am ei fod, ar ddechrau ei deyrnasiad, yn dilyn ffyrdd ei hynafiad Dafydd. Doedd e ddim yn addoli duwiau Baal. 4Roedd yn addoli Duw ei hynafiaid ac yn cadw’i orchmynion, yn wahanol i bobl Israel. 5Felly dyma’r ARGLWYDD yn gwneud ei deyrnas yn gadarn. Roedd pobl Jwda i gyd yn dod ag anrhegion i Jehosaffat, a daeth yn gyfoethog iawn, ac roedd parch mawr ato. 6Roedd yn benderfynol o ddilyn yr ARGLWYDD a chael gwared â’r holl allorau lleol a pholion y dduwies Ashera o Jwda.
7Yn ystod ei drydedd flwyddyn fel brenin dyma Jehosaffat yn anfon pump o’i swyddogion allan i drefi Jwda i ddysgu’r bobl am Gyfraith Duw. Enwau’r pump oedd Ben-chaîl, Obadeia, Sechareia, Nethanel a Michaia. 8Ac roedd naw o Lefiaid yn eu helpu, sef Shemaia, Nethaneia, Sebadeia, Asahel, Shemiramoth, Jonathan, Adoneia, Tobeia a Tob-adoneia. Roedd Elishama a Joram yr offeiriaid gyda nhw hefyd. 9Buon nhw’n teithio o gwmpas trefi Jwda i gyd yn dysgu’r bobl o Lyfr Cyfraith yr ARGLWYDD.
10Roedd yr ARGLWYDD wedi codi ofn ar y gwledydd o gwmpas Jwda, a doedd neb am fynd i ryfel yn erbyn Jehosaffat. 11Dyma rai o’r Philistiaid yn dod ag anrhegion a llwyth o arian i Jehosaffat, i dalu teyrnged iddo fel brenin. Daeth yr Arabiaid ag anifeiliaid iddo: 7,700 o hyrddod a 7,700 o fychod geifr. 12Roedd Jehosaffat yn fwy a mwy pwerus, ac adeiladodd gaerau a chanolfannau storio yn Jwda. 13Roedd ganddo lot fawr wedi’i gadw yn y canolfannau hynny, a byddin o filwyr profiadol yn Jerwsalem. 14Roedd y rhain wedi’u rhannu yn ôl eu llwythau fel hyn:
Capteiniaid ar unedau o fil o Jwda:
Adna – yn gapten ar dri chan mil o filwyr profiadol, dewr.
15Iehochanan – yn gapten ar 280,000.
16Amaseia fab Sichri (oedd wedi gwirfoddoli i wasanaethu yr ARGLWYDD) – roedd 200,000 o filwyr profiadol, dewr gydag e.
17Wedyn o lwyth Benjamin:
Eliada, oedd yn filwr profiadol a dewr. Roedd 200,000 o filwyr gydag e yn cario bwasaeth a tharian.
18Iehosafad – gyda 180,000 o filwyr arfog.
19Roedd y rhain i gyd yn gwasanaethu’r brenin, heb sôn am y rhai oedd wedi’u gosod yn y caerau amddiffynnol ar hyd a lled Jwda.

Currently Selected:

2 Cronicl 17: bnet

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy