YouVersion Logo
Search Icon

Joel 3

3
1Canys wele, yn y dyddiau hynny, ac yn yr amser hwnnw, pan ddychwelwyf gaethiwed Jwda a Jerwsalem, 2Casglaf hefyd yr holl genhedloedd, a dygaf hwynt i waered i ddyffryn Jehosaffat; a dadleuaf â hwynt yno dros fy mhobl, a’m hetifeddiaeth Israel, y rhai a wasgarasant hwy ymysg y cenhedloedd, a rhanasant fy nhir. 3Ac ar fy mhobl y bwriasant goelbrennau, a rhoddasant y bachgen er putain, a gwerthasant fachgennes er gwin, fel yr yfent. 4Tyrus hefyd a Sidon, a holl ardaloedd Palesteina, beth sydd i chwi a wneloch â mi? a delwch i mi y pwyth? ac os telwch i mi, buan iawn y dychwelaf eich tâl ar eich pen eich hunain; 5Am i chwi gymryd fy arian a’m haur, a dwyn i’ch temlau fy nhlysau dymunol. 6Gwerthasoch hefyd feibion Jwda a meibion Jerwsalem i’r Groegiaid, i’w pellhau oddi wrth eu hardaloedd. 7Wele, mi a’u codaf hwynt o’r lle y gwerthasoch hwynt iddo, ac a ddatroaf eich tâl ar eich pen eich hunain. 8A minnau a werthaf eich meibion a’ch merched i law meibion Jwda, a hwythau a’u gwerthant i’r Sabeaid, i genedl o bell; canys yr Arglwydd a lefarodd hyn.
9Cyhoeddwch hyn ymysg y cenhedloedd, gosodwch ryfel, deffrowch y gwŷr cryfion, nesaed y gwŷr o ryfel, deuant i fyny. 10Gyrrwch eich sychau yn gleddyfau, a’ch pladuriau yn waywffyn: dyweded y llesg, Cryf ydwyf. 11Ymgesglwch, a deuwch, y cenhedloedd o amgylch ogylch, ac ymgynullwch: yno disgyn, O Arglwydd, dy gedyrn. 12Deffroed y cenhedloedd, a deuant i fyny i ddyffryn Jehosaffat: oherwydd yno yr eisteddaf i farnu yr holl genhedloedd o amgylch. 13Rhowch i mewn y cryman; canys aeddfedodd y cynhaeaf: deuwch, ewch i waered; oherwydd y gwryf a lanwodd, a’r gwasg-gafnau a aethant trosodd, am amlhau eu drygioni hwynt. 14Torfeydd, torfeydd a fydd yng nglyn terfyniad: canys agos yw dydd yr Arglwydd yng nglyn terfyniad. 15Yr haul a’r lloer a dywyllant, a’r sêr a ataliant eu llewyrch. 16A’r Arglwydd a rua o Seion, ac a rydd ei lef o Jerwsalem; y nefoedd hefyd a’r ddaear a grynant: ond yr Arglwydd fydd gobaith ei bobl, a chadernid meibion Israel. 17Felly y cewch wybod mai myfi yw yr Arglwydd eich Duw, yn trigo yn Seion, fy mynydd sanctaidd: yna y bydd Jerwsalem yn sanctaidd, ac nid â dieithriaid trwyddi mwyach.
18A’r dydd hwnnw y bydd i’r mynyddoedd ddefnynnu melyswin, a’r bryniau a lifeiriant o laeth, a holl ffrydiau Jwda a redant gan ddwfr, a ffynnon a ddaw allan o dŷ yr Arglwydd, ac a ddyfrha ddyffryn Sittim. 19Yr Aifft a fydd anghyfannedd, ac Edom fydd anialwch anghyfanheddol, am y traha yn erbyn meibion Jwda, am iddynt dywallt gwaed gwirion yn eu tir hwynt. 20Eto Jwda a drig byth, a Jerwsalem o genhedlaeth i genhedlaeth. 21Canys glanhaf waed y rhai nis glanheais: canys yr Arglwydd sydd yn trigo yn Seion.

Currently Selected:

Joel 3: BWM

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy