YouVersion Logo
Search Icon

Joel 2

2
1Cenwch yr utgorn yn Seion, a bloeddiwch ar fynydd fy sancteiddrwydd: dychryned holl breswylwyr y wlad; canys daeth dydd yr Arglwydd, canys y mae yn agos. 2Diwrnod tywyll du, diwrnod cymylog a niwlog, fel y wawr wedi ymwasgaru ar y mynyddoedd: pobl fawr a chryfion, ni bu eu bath erioed, ac ni bydd eilwaith ar eu hôl, hyd flynyddoedd cenhedlaeth a chenhedlaeth. 3O’u blaen y difa y tân, ac ar eu hôl y fflam; mae y wlad o’u blaen fel gardd baradwys, ac ar eu hôl yn ddiffeithwch anrheithiedig; a hefyd ni ddianc dim ganddynt. 4Yr olwg arnynt sydd megis golwg o feirch; ac fel marchogion, felly y rhedant. 5Megis sŵn cerbydau ar bennau y mynyddoedd y llamant, fel sŵn tân ysol yn difa y sofl, ac fel pobl gryfion wedi ymosod i ryfel. 6O’u blaen yr ofna y bobl; pob wyneb a gasgl barddu. 7Rhedant fel glewion, dringant y mur fel rhyfelwyr, a cherddant bob un yn ei ffordd ei hun, ac ni wyrant oddi ar eu llwybrau. 8Ni wthiant y naill y llall; cerddant bob un ei lwybr ei hun: ac er eu syrthio ar y cleddyf, nid archollir hwynt. 9Gwibiant ar hyd y ddinas; rhedant ar y mur, dringant i’r tai; ânt i mewn trwy y ffenestri fel lleidr. 10O’u blaen y crŷn y ddaear, y nefoedd a gynhyrfir; yr haul a’r lleuad a dywyllir, a’r sêr a ataliant eu llewyrch. 11A’r Arglwydd a rydd ei lef o flaen ei lu: canys mawr iawn yw ei wersyll ef: canys cryf yw yr hwn sydd yn gwneuthur ei air ef: oherwydd mawr yw dydd yr Arglwydd, ac ofnadwy iawn; a phwy a’i herys?
12Ond yr awr hon, medd yr Arglwydd, Dychwelwch ataf fi â’ch holl galon, ag ympryd hefyd, ac ag wylofain, ac â galar. 13A rhwygwch eich calon, ac nid eich dillad; ac ymchwelwch at yr Arglwydd eich Duw: oherwydd graslon a thrugarog yw efe, hwyrfrydig i ddigofaint, a mawr ei drugaredd, ac edifeiriol am ddrwg. 14Pwy a ŵyr a dry efe, ac edifarhau, a gweddill bendith ar ei ôl, sef bwyd-offrwm a diod-offrwm i’r Arglwydd eich Duw?
15Cenwch utgorn yn Seion, cysegrwch ympryd, gelwch gymanfa: 16Cesglwch y bobl; cysegrwch y gynulleidfa: cynullwch yr henuriaid; cesglwch y plant, a’r rhai yn sugno bronnau: deued y priodfab allan o’i ystafell, a’r briodferch allan o ystafell ei gwely. 17Wyled yr offeiriaid, gweinidogion yr Arglwydd, rhwng y porth a’r allor, a dywedant, Arbed dy bobl, O Arglwydd, ac na ddyro dy etifeddiaeth i warth, i lywodraethu o’r cenhedloedd arnynt: paham y dywedent ymhlith y bobloedd, Pa le y mae eu Duw hwynt?
18Yna yr Arglwydd a eiddigedda am ei dir, ac a arbed ei bobl. 19A’r Arglwydd a etyb, ac a ddywed wrth ei bobl, Wele fi yn anfon i chwi ŷd, a gwin, ac olew; a diwellir chwi ohono: ac ni wnaf chwi mwyach yn waradwydd ymysg y cenhedloedd. 20Eithr bwriaf yn bell oddi wrthych y gogleddlu, a gyrraf ef i dir sych diffaith, a’i wyneb tua môr y dwyrain, a’i ben ôl tua’r môr eithaf: a’i ddrewi a gyfyd, a’i ddrycsawr a â i fyny, am iddo wneuthur mawrhydri.
21Nac ofna di, ddaear; gorfoledda a llawenycha: canys yr Arglwydd a wna fawredd. 22Nac ofnwch, anifeiliaid y maes: canys tarddu y mae porfeydd yr anialwch; canys y pren a ddwg ei ffrwyth, y ffigysbren a’r winwydden a roddant eu cnwd. 23Chwithau, plant Seion, gorfoleddwch, ac ymlawenhewch yn yr Arglwydd eich Duw: canys efe a roddes i chwi y cynnar law yn gymedrol, ac a wna i’r cynnar law a’r diweddar law ddisgyn i chwi yn y mis cyntaf. 24A’r ysguboriau a lenwir o ŷd, a’r gwin newydd a’r olew a â dros y llestri. 25A mi a dalaf i chwi y blynyddoedd a ddifaodd y ceiliog rhedyn, pryf y rhwd, a’r locust, a’r lindys, fy llu mawr i, yr hwn a anfonais yn eich plith. 26Yna y bwytewch, gan fwyta ac ymddigoni; ac y moliennwch enw yr Arglwydd eich Duw, yr hwn a wnaeth â chwi yn rhyfedd: ac ni waradwyddir fy mhobl byth. 27A chewch wybod fy mod i yng nghanol Israel, ac mai myfi yw yr Arglwydd eich Duw, ac nid neb arall: a’m pobl nis gwaradwyddir byth.
28A bydd ar ôl hynny, y tywalltaf fy ysbryd ar bob cnawd; a’ch meibion a’ch merched a broffwydant, eich henuriaid a welant freuddwydion, eich gwŷr ieuainc a welant weledigaethau: 29Ac ar y gweision hefyd ac ar y morynion y tywalltaf fy ysbryd yn y dyddiau hynny. 30A gwnaf ryfeddodau yn y nefoedd; ac yn y ddaear, gwaed, a thân, a cholofnau mwg. 31Yr haul a droir yn dywyllwch, a’r lleuad yn waed, o flaen dyfod mawr ac ofnadwy ddydd yr Arglwydd. 32A bydd, yr achubir pob un a alwo ar enw yr Arglwydd: canys bydd ymwared, fel y dywedodd yr Arglwydd, ym mynydd Seion, ac yn Jerwsalem, ac yn y gweddillion a alwo yr Arglwydd.

Currently Selected:

Joel 2: BWM

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy