YouVersion Logo
Search Icon

1 Macabeaid 3

3
Buddugoliaethau Cyntaf Jwdas
2 Mac. 8:1–7
1Yna cododd ei fab Jwdas, a elwid Macabeus, yn lle ei dad. 2Rhoddodd ei holl frodyr gymorth iddo, ac felly hefyd bawb a fu'n ganlynwyr i'w dad, a daliasant ati â llawenydd i ymladd y frwydr dros Israel.
3Helaethodd ogoniant ei bobl.
Gwisgodd ddwyfronneg fel cawr,
ac ymwregysu â'i arfau rhyfel.
Cynlluniodd frwydrau,
gan amddiffyn ei fyddin â'i gleddyf.
4Yr oedd fel llew yn ei gampau,
fel cenau llew yn rhuo am ysglyfaeth.
5Chwiliodd am y rhai digyfraith a'u herlid,
a difa'r rhai a darfai ar ei bobl.
6Ciliodd y digyfraith rhagddo mewn braw,
a thrallodwyd holl weithredwyr drygioni.
Ffynnodd achos gwaredigaeth dan ei law ef.
7Parodd ddicter i frenhinoedd lawer
ond rhoes lawenydd i Jacob drwy ei weithredoedd.
Bendigedig fydd ei goffadwriaeth am byth.
8Tramwyodd drwy drefi Jwda
gan lwyr ddinistrio'r annuwiol o'r tir.
Trodd ymaith y digofaint oddi wrth Israel.
9Daeth yn enwog hyd at derfynau'r ddaear,
a chasglodd ynghyd y rhai oedd ar ddarfod amdanynt.
10Casglodd Apolonius rai o blith y Cenhedloedd, a byddin gref o Samaria, i ryfela yn erbyn Israel. Pan glywodd Jwdas am hyn, aeth allan i'w gyfarfod. 11Trawodd ef a'i ladd; archollwyd a lladdwyd llawer o filwyr y gelyn, a ffodd y gweddill. 12Cymerwyd eu hysbail hwy, a Jwdas yn cymryd cleddyf Apolonius; â hwnnw yr ymladdodd wedyn holl ddyddiau ei fywyd.
13Pan glywodd Seron, capten byddin Syria, fod Jwdas wedi casglu ato lu mawr, a chwmni o ffyddloniaid ac o rai a arferai fynd i ryfel, 14dywedodd, “Gwnaf enw i mi fy hun, ac enillaf ogoniant yn y deyrnas trwy ryfela yn erbyn Jwdas a'i ganlynwyr, sy'n diystyru gorchymyn y brenin.” 15Aeth i fyny â chwmni cryf o ddynion annuwiol gydag ef yn gymorth, i ddial ar blant Israel. 16Nesaodd at fwlch Beth-horon, lle daeth Jwdas i'w gyfarfod gyda chwmni bychan. 17Pan welodd ei ganlynwyr y fyddin yn dod i'w cyfarfod, dywedasant wrth Jwdas, “Sut y gallwn ni, a ninnau'n gwmni bychan, frwydro yn erbyn y fath dyrfa gref â hon? Ac at hynny, yr ydym yn diffygio, gan na chawsom fwyd heddiw.” 18Atebodd Jwdas, “Y mae'n ddigon hawdd i lawer gael eu cau i mewn gan ychydig, ac nid oes gwahaniaeth yng ngolwg y nef p'run ai trwy lawer neu trwy ychydig y daw gwaredigaeth. 19Nid yw buddugoliaeth mewn rhyfel yn dibynnu ar luosogrwydd byddin; o'r nef yn hytrach y daw nerth. 20Y maent yn ymosod arnom, yn llawn traha ac anghyfraith, i'n dinistrio ni a'n gwragedd a'n plant, ac i'n hysbeilio, 21ond yr ydym ninnau'n brwydro dros ein bywydau a'n cyfreithiau. 22Bydd ef yn eu dryllio o flaen ein llygaid; felly peidiwch chwi â'u hofni.” 23Wedi iddo orffen siarad, gwnaeth ymosodiad sydyn ar y gelyn, a drylliwyd Seron a'i fyddin o'i flaen. 24Ymlidiasant Seron i lawr trwy fwlch Beth-horon hyd at y gwastadedd, a lladd tua wyth gant o'r gelyn; ffodd y gweddill i wlad y Philistiaid. 25Yna dechreuwyd ofni Jwdas a'i frodyr, a syrthiodd braw ar y Cenhedloedd o'u hamgylch. 26Daeth ei fri i glustiau'r brenin, ac yr oedd sôn ymhlith y cenhedloedd am frwydrau Jwdas.
Penodi Lysias yn Llywodraethwr
27Pan glywodd y Brenin Antiochus y newydd yma, aeth yn ddig dros ben, a gorchmynnodd gasglu ynghyd holl luoedd ei deyrnas, yn fyddin gref iawn. 28Agorodd ei drysorfa, a rhoi cyflog blwyddyn i'w filwyr, a gorchymyn iddynt fod yn barod ar gyfer unrhyw anghenraid. 29Ond gwelodd fod yr arian yn ei drysorfa wedi pallu, am fod y trethi a gesglid o'r dalaith yn fach, ar gyfrif yr ymraniad a'r trychineb yr oedd ef wedi eu dwyn ar y wlad trwy ddiddymu'r cyfreithiau a oedd mewn bod er y dyddiau cynharaf. 30Aeth i ofni hefyd na fyddai ganddo ddigon o arian—fel y digwyddodd unwaith neu ddwy o'r blaen—ar gyfer ei dreuliau, ac ar gyfer yr anrhegion yr arferai eu rhoi mor hael, yn helaethach hyd yn oed na'r brenhinoedd a fu o'i flaen. 31Yr oedd mewn penbleth mawr; yna penderfynodd fynd i Persia i gasglu trethi'r taleithiau a chodi swm mawr o arian. 32Gadawodd ar ei ôl Lysias, gŵr enwog o linach frenhinol, i fod yn gyfrifol am fuddiannau'r brenin o Afon Ewffrates hyd at ffiniau'r Aifft, 33ac i ofalu am Antiochus ei fab hyd nes y byddai ef ei hun yn dychwelyd. 34Trosglwyddodd hanner ei fyddinoedd iddo, ynghyd â'r eliffantod, a rhoddodd gyfarwyddyd iddo ynglŷn â'r cwbl yr oedd am iddo'i wneud, yn enwedig ynglŷn â thrigolion Jwdea a Jerwsalem. 35Yr oedd i anfon byddin yn erbyn y rhain, i ddryllio a dinistrio cryfder Israel a gweddill Jerwsalem, a dileu'r cof amdanynt o'r lle. 36Yr oedd hefyd i osod estroniaid yn eu holl diriogaeth, a rhannu eu gwlad i'r rheini drwy goelbrennau. 37Yna cymerodd y brenin yr hanner o'i fyddin a oedd yn weddill, ac ymadawodd o Antiochia, ei brif ddinas, yn y flwyddyn 147#3:37 H.y., 165 C.C.. Croesodd Afon Ewffrates ac aeth trwy daleithiau'r dwyrain.
Buddugoliaethau Pellach Jwdas
2 Mac. 8:8–29, 34–36
38Dewisodd Lysias ddynion cryf o blith Cyfeillion y Brenin, sef Ptolemeus fab Dorymenes, a Nicanor a Gorgias, 39ac anfonodd gyda hwy ddeugain mil o wŷr traed a saith mil o wŷr meirch i fynd i wlad Jwda i'w dinistrio hi yn ôl gorchymyn y brenin. 40Ymadawsant felly gyda'u holl lu, a daethant a gwersyllu ger Emaus, ar y gwastatir. 41A phan glywodd masnachwyr y dalaith y sôn amdanynt, cymerasant swm enfawr o arian ac aur, ynghyd â llyffetheiriau#3:41 Yn ôl darlleniad arall, gweision., a daethant i'r gwersyll i brynu plant Israel yn gaethweision. Ymunodd byddin o Syria ac o wlad y Philistiaid â hwy.
42Pan welodd Jwdas a'i frodyr fod pethau'n mynd o ddrwg i waeth, a bod byddinoedd yn gwersyllu y tu mewn i ffiniau eu gwlad, a hwythau'n gwybod am orchmynion y brenin i ddinistrio'r genedl yn llwyr, 43dywedasant wrth ei gilydd, “Gadewch i ni ailgodi adfeilion ein pobl, ac ymladd dros ein pobl a'n cysegr.” 44Daeth y gynulleidfa ynghyd i baratoi at ryfel ac i weddïo a deisyf am drugaredd a thosturi.
45Yr oedd Jerwsalem yn anghyfannedd fel anialwch,
heb neb o'i phlant yn mynd i mewn nac allan,
a'i chysegr yn cael ei sathru dan draed.
Estroniaid oedd yn ei chaer,
a hithau'n llety i'r Cenhedloedd.
Amddifadwyd Jacob o'i lawenydd,
a distawodd y ffliwt a'r delyn.
46Daethant ynghyd i Mispa, gyferbyn â Jerwsalem, oherwydd yno bu lle gweddi gynt i Israel. 47Y diwrnod hwnnw ymprydiodd y bobl, gan wisgo sachliain a rhoi lludw ar eu pennau a rhwygo'u dillad. 48Agorasant sgrôl y gyfraith, i chwilio am yr hyn yr oedd y Cenhedloedd yn ei gael gan ddelwau eu duwiau. 49Daethant â dillad yr offeiriaid hefyd, a'r blaenffrwythau a'r degymau, a chyflwyno'r Nasireaid a oedd wedi cyflawni eu haddunedau. 50Gwaeddasant yn uchel i'r nefoedd gan ddweud, “Beth a wnawn â'r rhai hyn, ac i ble yr awn â hwy? 51Y mae dy gysegr di wedi ei sathru a'i halogi, a'th offeiriaid mewn galar a darostyngiad. 52A dyma'r Cenhedloedd wedi dod ynghyd yn ein herbyn i'n dinistrio, ac fe wyddost ti beth yw eu cynlluniau yn ein herbyn. 53Sut y gallwn ni eu gwrthsefyll os na fydd i ti ein cynorthwyo?” 54Yna canasant yr utgyrn, a gweiddi â llef uchel.
55Wedi hyn, penododd Jwdas lywodraethwyr ar y bobl, swyddogion dros fil, dros gant, dros hanner cant a thros ddeg. 56A dywedodd wrth y rhai oedd yn adeiladu tai, a'r rhai oedd wedi eu dyweddïo, a'r rhai oedd yn plannu gwinllannoedd, a'r rhai ofnus, am ddychwelyd bob un i'w gartref, yn unol â'r gyfraith. 57Ac ymadawodd y fyddin, a gwersyllu i'r de o Emaus. 58Ac meddai Jwdas, “Ymwregyswch a byddwch yn filwyr gwrol, a byddwch yn barod ben bore yfory i ymladd y Cenhedloedd hyn sydd wedi ymgasglu yn ein herbyn i'n dinistrio ni a'n cysegr. 59Oherwydd y mae'n well inni farw mewn brwydr na gwylio trychineb yn disgyn ar ein cenedl a'i chysegr. 60Ond fel yr ewyllysir yn y nef, felly y bydd.”

Currently Selected:

1 Macabeaid 3: BCNDA

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy