YouVersion Logo
Search Icon

1 Macabeaid 2

2
Teyrngarwch Matathias
1Yn y dyddiau hynny, symudodd Matathias fab Ioan, fab Simeon, offeiriad o deulu Joarib, o Jerwsalem ac ymsefydlu yn Modin. 2Yr oedd ganddo bump o feibion: Ioan a elwid Gadi, 3Simon a elwid Thasi, 4Jwdas a elwid Macabeus, 5Eleasar a elwid Abaran, a Jonathan a elwid Apffws. 6Pan welodd Matathias y pethau cableddus oedd yn digwydd yn Jwda ac yn Jerwsalem, 7dywedodd:
“Gwae fi! Pam y'm ganwyd i weld
dinistr fy mhobl a dinistr y ddinas sanctaidd,
ac i drigo yno pan roddwyd hi yn nwylo gelynion,
a'i chysegr yn nwylo estroniaid?
8Aeth ei theml fel rhywun a ddianrhydeddwyd,
9a dygwyd ymaith ei llestri gogoneddus yn ysbail;
lladdwyd ei babanod yn ei heolydd,
a'i gwŷr ifainc gan gleddyf y gelyn.
10Pa genedl na feddiannodd ei phalasau hi,
ac na wnaeth hi'n ysbail?
11Anrheithiwyd ei holl harddwch hi,
ac o fod yn rhydd, aeth yn gaethferch.
12Ac wele, ein cysegr a'n ceinder
a'n gogoniant wedi eu troi'n ddiffeithwch;
y Cenhedloedd a'u halogodd.
13Pa fudd yw i ni bellach ddal yn fyw?”
14A rhwygodd Matathias a'i feibion eu dillad; gwisgasant sachliain a galaru'n chwerw.
15Yna daeth swyddogion y brenin, a oedd yn gorfodi'r bobl i gefnu ar eu crefydd, i dref Modin i beri iddynt aberthu. 16Aeth llawer o bobl Israel atynt; a daeth Matathias a'i feibion ynghyd hefyd. 17Dywedodd swyddogion y brenin wrth Matathias: “Yr wyt ti'n arweinydd ac yn ddyn o fri a dylanwad yn y dref hon, a'th feibion a'th frodyr yn gefn iti. 18Yn awr, tyrd dithau yn gyntaf, ac ufuddha i orchymyn y brenin, fel y gwnaeth yr holl Genhedloedd, a thrigolion Jwda, a'r rhai a adawyd ar ôl yn Jerwsalem. Yna cei di a'th feibion eich cyfrif yn Gyfeillion y Brenin; cei di a'th feibion eich anrhydeddu ag arian ac aur a llawer o anrhegion.” 19Ond atebodd Matathias â llais uchel: “Er bod yr holl genhedloedd sydd dan lywodraeth y brenin yn gwrando arno, ac yn cefnu bob un ar grefydd eu hynafiaid, ac yn cytuno â'i orchmynion, 20eto yr wyf fi a'm brodyr am ddilyn llwybr cyfamod ein hynafiaid. 21Na ato Duw i ni gefnu ar y gyfraith a'i hordeiniadau. 22Nid ydym ni am ufuddhau i orchmynion y brenin, trwy wyro oddi wrth ein crefydd i'r dde nac i'r chwith.” 23Cyn gynted ag y peidiodd â llefaru'r geiriau hyn, daeth rhyw Iddew ymlaen yng ngolwg pawb, i aberthu ar yr allor yn Modin, yn ôl gorchymyn y brenin. 24Pan welodd Matathias ef, fe'i llanwyd â sêl digllon a chynhyrfwyd ef drwyddo. Wedi ei danio gan ddicter cyfiawn fe redodd at y dyn a'i ladd ar yr allor, 25a'r un pryd lladdodd swyddog y brenin a oedd yn gorfodi'r aberthu, a dymchwelodd yr allor. 26Felly dangosodd ei sêl dros y gyfraith, fel y gwnaeth Phinees pan laddodd Sambri fab Salom. 27Yna gwaeddodd Matathias yn y dref â llais uchel: “Pob un sy'n selog drosy gyfraith ac sydd am gadw'r cyfamod, deued ar fy ôl i.” 28A ffodd ef a'i feibion i'r mynyddoedd, gan adael eu meddiannau yn y dref.
Gwrthryfel Matathias
29Yna aeth llawer oedd yn ceisio cyfiawnder a barn i lawr i'r anialwch i aros yno, gyda'u meibion a'u gwragedd a'u hanifeiliaid, 30oherwydd bod trallodion wedi gwasgu'n galed arnynt. 31Ac adroddwyd wrth swyddogion y brenin a'r lluoedd oedd yn Jerwsalem, dinas Dafydd, bod pobl a dorrodd orchymyn y brenin wedi mynd i lawr i'r llochesau yn yr anialwch. 32Rhuthrodd llawer ohonynt ar eu hôl a'u goddiweddyd, a gwersyllu gyferbyn â hwy, a pharatoi cyrch yn eu herbyn ar y Saboth. 33A dywedasant wrthynt: “Dyna ddigon! Dewch allan ac ufuddhewch i orchymyn y brenin, a chewch fyw.” 34Ond atebasant: “Ni ddown ni allan, ac ni chyflawnwn orchymyn y brenin i halogi'r Saboth.” 35Yna prysurodd y gelyn i ymosod arnynt. 36Ond ni wnaethant hwy ddim mewn ymateb iddynt, na lluchio carreg atynt, na chau'r llochesau rhagddynt. 37Dywedasant: “Gadewch i ni i gyd farw â chydwybod lân; y mae nef a daear yn tystiolaethu drosom mai'n anghyfiawn yr ydych yn ein lladd.” 38A gwnaed cyrch ar yr Israeliaid ar y Saboth, a buont farw, ynghyd â'u gwragedd a'u plant a'u hanifeiliaid, hyd at fil o eneidiau.
39Pan glywodd Matathias a'i gyfeillion am hyn, mawr fu eu galar drostynt. 40A dywedodd pob un wrth ei gilydd: “Os gwnawn ni i gyd fel y gwnaeth ein brodyr, a gwrthod ymladd yn erbyn y Cenhedloedd dros ein bywydau a'n hordeiniadau, yna yn fuan byddant yn ein dileu oddi ar y ddaear.” 41Felly, y diwrnod hwnnw, gwnaethant y penderfyniad hwn: “Os daw unrhyw un i ymosod arnom ar y Saboth, gadewch i ni ryfela yn ei erbyn; nid ydym ni am farw i gyd, fel y bu farw ein brodyr yn y llochesau.”
42A'r pryd hwnnw daeth cwmni o Hasideaid i ymuno â hwy, gwŷr cadarn o Israeliaid, a phob un ohonynt wedi gwirfoddoli i amddiffyn y gyfraith. 43Daeth pawb oedd wedi ffoi rhag yr erledigaethau i ymuno â hwy, a buont yn atgyfnerthiad iddynt. 44Ffurfiasant fyddin, a tharo i lawr bechaduriaid yn eu dicter, a rhai digyfraith yn eu llid; yna ffodd y rhai oedd ar ôl at y Cenhedloedd, er mwyn bod yn ddiogel. 45Aeth Matathias a'i gyfeillion oddi amgylch, gan dynnu'r allorau i lawr, 46a gorfodi enwaediad ar y plant dienwaededig a gawsant o fewn ffiniau Israel. 47Erlidiasant y rhai ffroenuchel, a llwyddodd y gwaith hwnnw yn eu dwylo. 48Felly gwaredasant y gyfraith o law y Cenhedloedd a'u brenhinoedd, ac ni roesant gyfle i'r pechadur gael y trechaf.
Marw Matathias
49Pan nesaodd y dyddiau i Matathias farw, dywedodd wrth ei feibion: “Yn awr aeth balchder a gwaradwydd yn gadarn; amser dinistr a dicter chwyrn yw hwn. 50Felly, fy mhlant, byddwch selog dros y gyfraith a rhowch eich bywydau dros gyfamod ein hynafiaid. 51Cofiwch weithredoedd ein hynafiaid, a gyflawnwyd ganddynt yn eu cenedlaethau, a derbyniwch ogoniant mawr a chlod tragwyddol. 52Oni chafwyd Abraham yn ffyddlon dan ei brawf, ac oni chyfrifwyd hynny yn gyfiawnder iddo? 53Cadwodd Joseff y gorchymyn yn amser ei gyfyngder, a daeth yn arglwydd ar yr Aifft. 54Yn ei sêl ysol derbyniodd Phinees ein cyndad gyfamod offeiriadaeth dragwyddol. 55Wrth gyflawni'r gorchymyn, daeth Josua yn farnwr yn Israel. 56Cafodd Caleb, am iddo ddwyn tystiolaeth yn y gynulleidfa, y tir yn etifeddiaeth. 57Etifeddodd Dafydd, ar gyfrif ei drugaredd, orsedd teyrnas dragwyddol. 58Oherwydd ei fawr sêl dros y gyfraith cymerwyd Elias i fyny i'r nef. 59Oherwydd eu ffydd, achubwyd Ananias, Asarias a Misael o'r tân. 60Gwaredwyd Daniel, ar gyfrif ei unplygrwydd, o safn y llewod. 61Ac felly ystyriwch, genhedlaeth ar ôl cenhedlaeth, nad yw neb sy'n ymddiried ynddo ef yn diffygio. 62Peidiwch ag ofni geiriau dyn pechadurus, oherwydd fe dry ei ogoniant yn dom ac yn bryfed. 63Heddiw fe'i dyrchefir, ond yfory ni bydd sôn amdano, am iddo ddychwelyd i'r llwch, a'i gynlluniau wedi darfod. 64Fy mhlant, ymwrolwch a byddwch gadarn dros y gyfraith, oherwydd trwyddi hi y'ch gogoneddir. 65A dyma Simon eich brawd; gwn ei fod yn ŵr o gyngor. Gwrandewch arno ef bob amser, a bydd ef yn dad i chwi. 66A Jwdas Macabeus yntau, a fu'n ŵr cadarn o'i ieuenctid, bydd ef yn gapten ar eich byddin ac yn arwain y frwydr yn erbyn y bobloedd. 67A chwithau, casglwch o'ch amgylch bawb sy'n cadw'r gyfraith, a mynnwch ddial am gamwri eich pobl. 68Talwch yn ôl i'r Cenhedloedd hyd yr eithaf, ac ufuddhewch i ordinhad y gyfraith.”
69Yna bendithiodd Matathias hwy, a chasglwyd ef at ei hynafiaid. 70Bu farw yn y flwyddyn 146#2:70 H.y., 166 C.C., a chladdwyd ef ym medd ei hynafiaid yn Modin, a galarodd Israel gyfan yn ddirfawr amdano.

Currently Selected:

1 Macabeaid 2: BCNDA

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy