Logo der Bibel App
Suchsymbol

Datguddiad 5

5
A.D. 96. —
1 Y llyfr wedi ei selio â saith sêl; 9 yr hwn yr oedd yr Oen a laddwyd yn unig yn deilwng i’w agoryd. 12 Yr henuriaid o ran hynny yn ei foliannu ef, 9 ac yn cyfaddef mai efe a’u prynasai hwy â’i waed.
1Ac mi a welais yn neheulaw’r hwn oedd yn eistedd ar yr orseddfainc, #Esec 2:10lyfr wedi ei ysgrifennu #5:1 ar y tu cefn.oddi fewn ac oddi allan wedi ei selio â saith sêl. 2Ac mi a welais angel cryf yn cyhoeddi â llef #5:2 fawr.uchel, Pwy sydd deilwng i agoryd y llyfr, ac i ddatod ei seliau ef? 3Ac nid oedd neb #Ad. 13yn y nef, nac yn y ddaear, na than y ddaear, yn gallu agoryd y llyfr, nac edrych arno. 4Ac mi a wylais lawer, o achos na chaed neb yn deilwng i agoryd ac i ddarllen y llyfr, nac i edrych arno. 5Ac un o’r henuriaid a ddywedodd wrthyf, Nac wyla: wele, #Gen 49:9, 10y Llew yr hwn sydd o lwyth Jwda, #Esa 11:1, 10; Pen 22:16Gwreiddyn Dafydd, a orchfygodd i agoryd y llyfr, ac i ddatod ei saith sêl ef. 6Ac mi a edrychais; ac wele, yng nghanol yr orseddfainc a’r pedwar anifail, ac yng nghanol yr henuriaid, yr oedd #Ioan 1:29, 36; 1 Pedr 1:19Oen yn sefyll megis wedi ei ladd, a chanddo saith gorn, a #Sech 3:9; 4:10saith lygad, y rhai ydyw #Pen 4:5saith Ysbryd Duw, wedi eu danfon allan i’r holl ddaear. 7Ac efe a ddaeth, ac a gymerth y llyfr o ddeheulaw’r hwn oedd yn eistedd ar yr orseddfainc. 8A phan gymerth efe’r llyfr, y pedwar anifail a’r pedwar henuriad ar hugain a syrthiasant gerbron yr Oen; a chan bob un ohonynt yr oedd #Pen 14:2telynau, a ffiolau aur yn llawn o arogl‐darth, #Salm 141:2; Pen 8:3, 4y rhai ydyw gweddïau’r saint. 9A #Salm 40:3; Pen 14:3hwy a ganasant ganiad newydd, gan ddywedyd, #Pen 4:11Teilwng wyt ti i gymryd y llyfr, ac i agoryd ei seliau ef: oblegid ti a laddwyd, ac #1 Cor 6:20; 7:23; Eff 1:7; Col 1:14; 1 Pedr 1:18, 19; 1 Ioan 1:7; Pen 14:4a’n prynaist ni i Dduw trwy dy waed, allan o bob llwyth, #5:9 a thafod.ac iaith, a phobl, a chenedl; 10#Exod 19:6; 1 Pedr 2:5, 9; Pen 1:6; 20:6Ac a’n gwnaethost ni i’n Duw ni, yn frenhinoedd, ac yn offeiriaid: ac ni a deyrnaswn ar y ddaear. 11Ac mi a edrychais, ac a glywais lais angylion lawer ynghylch yr orseddfainc, a’r anifeiliaid, a’r henuriaid: a’u rhifedi hwynt oedd #Dan 7:10; Heb 12:22fyrddiynau o fyrddiynau, a miloedd o filoedd; 12Yn dywedyd â llef #5:12 fawr.uchel, #Pen 4:11Teilwng yw’r Oen, yr hwn a laddwyd, i dderbyn gallu, a chyfoeth, a doethineb, a chadernid, ac anrhydedd, a gogoniant, a bendith. 13A #Phil 2:10; Ad. 3phob creadur a’r sydd yn y nef, ac ar y ddaear, a than y ddaear, a’r pethau sydd yn y môr, ac oll a’r sydd ynddynt, a glywais i yn dywedyd, #1 Cron 29:11; 1 Tim 6:16; Pen 1:6I’r hwn sydd yn eistedd ar yr orseddfainc, ac i’r Oen, y byddo’r fendith, a’r anrhydedd, a’r gogoniant, a’r gallu, yn oes oesoedd. 14A’r pedwar anifail a ddywedasant, Amen. A’r pedwar henuriad ar hugain a syrthiasant i lawr, ac a addolasant yr hwn sydd yn byw yn oes oesoedd.

Zur Zeit ausgewählt:

Datguddiad 5: BWM1955C

Markierung

Kopieren

Vergleichen

Teilen

None

Möchtest du deine gespeicherten Markierungen auf allen deinen Geräten sehen? Erstelle ein kostenloses Konto oder melde dich an.