Logo der Bibel App
Suchsymbol

Datguddiad 4

4
A.D. 96. —
2 Ioan yn gweled gorseddfainc Duw yn y nef: 4 y pedwar henuriad ar hugain: 6 y pedwar anifail yn llawn llygaid ymlaen ac yn ôl: 10 yr henuriaid yn bwrw i lawr eu coronau, ac yn addoli yr hwn oedd yn eistedd ar yr orseddfainc.
1Ar ôl y pethau hyn yr edrychais; ac wele ddrws wedi ei agoryd yn y nef: a’r llais #Pen 1:10cyntaf a glywais oedd fel llais utgorn yn ymddiddan â mi, gan ddywedyd, Dring i fyny yma, a mi a ddangosaf i ti’r pethau sydd raid eu #4:1 gwneuthur.bod ar ôl hyn. 2Ac yn y man #Pen 1:10; 21:10yr oeddwn yn yr ysbryd: ac wele, #Esec 1:26; 10:1yr oedd gorseddfainc wedi ei gosod yn y nef, ac un yn eistedd ar yr orseddfainc. 3A’r hwn oedd yn eistedd oedd yn debyg yr olwg arno i faen iasbis a sardin: ac yr oedd enfys o amgylch yr orseddfainc, yn debyg yr olwg arno i smaragdus. 4Ac ynghylch yr orseddfainc yr oedd pedair gorseddfainc ar hugain: ac ar y gorseddfeinciau y gwelais bedwar henuriad ar hugain yn eistedd, #Pen 3:4, 5; 6:11; 7:9, 14wedi eu gwisgo mewn dillad gwynion; ac yr oedd ganddynt ar eu pennau goronau aur. 5Ac yr oedd yn dyfod allan o’r orseddfainc #Pen 16:18fellt, a tharanau, a lleisiau: ac yr oedd saith o lampau tân yn llosgi gerbron yr orseddfainc, y rhai yw #Pen 1:4; 5:6saith Ysbryd Duw. 6Ac o flaen yr orseddfainc yr ydoedd #Pen 15:2môr o wydr, yn debyg i #4:6 risial.grisial: ac yng nghanol yr orseddfainc, ac ynghylch yr orseddfainc, yr oedd pedwar anifail yn llawn o lygaid o’r tu blaen ac o’r tu ôl. 7A’r #Edrych Esec 1:10; 10:14anifail cyntaf oedd debyg i lew, a’r ail anifail yn debyg i lo, a’r trydydd anifail oedd ganddo wyneb fel dyn, a’r pedwerydd anifail oedd debyg i eryr yn ehedeg. 8A’r pedwar anifail oedd ganddynt, bob un ohonynt, #Esa 6:2chwech o adenydd o’u hamgylch; ac yr oeddynt oddi fewn yn llawn llygaid: ac nid #4:8 Gr. oes gorffwysfa iddynt, & c.oeddynt yn gorffwys ddydd a nos, gan ddywedyd, #Esa 6:3Sanct, Sanct, Sanct, Arglwydd Dduw Hollalluog, #Pen 1:4, 11, 17yr hwn oedd, a’r hwn sydd, a’r hwn sydd i ddyfod. 9A phan fyddo’r anifeiliaid yn rhoddi gogoniant, ac anrhydedd, a diolch, i’r hwn oedd yn eistedd ar yr orseddfainc, yr hwn sydd yn byw yn oes oesoedd, 10Y mae’r pedwar henuriad ar hugain yn syrthio gerbron yr hwn oedd yn eistedd ar yr orseddfainc, ac yn addoli’r hwn sydd yn byw yn oes oesoedd, ac yn bwrw eu coronau gerbron yr orseddfainc, gan ddywedyd, 11#Pen 5:12Teilwng wyt, O Arglwydd, i dderbyn gogoniant, ac anrhydedd, a gallu: canys ti a greaist bob peth, ac oherwydd dy ewyllys di y maent, ac y crewyd hwynt.

Zur Zeit ausgewählt:

Datguddiad 4: BWM1955C

Markierung

Kopieren

Vergleichen

Teilen

None

Möchtest du deine gespeicherten Markierungen auf allen deinen Geräten sehen? Erstelle ein kostenloses Konto oder melde dich an.