Logo der Bibel App
Suchsymbol

Datguddiad 2

2
A.D. 96. —
Pa beth a orchymynnir ei ysgrifennu at angylion, hynny yw, gweinidogion, eglwysi 1 Effesus, 8 Smyrna, 12 Pergamus, 18 Thyatira; a pha beth sydd ganmoladwy neu ddiffygiol ynddynt.
1At angel yr eglwys sydd yn Effesus, ysgrifenna; Y pethau hyn y mae’r #Pen 1:13, 16, 20hwn sydd yn dal y saith seren yn ei law ddeau, yr hwn sydd yn rhodio yng nghanol y saith ganhwyllbren aur, yn eu dywedyd; 2#Ad. 9, 13, 19; Pen 3:1, 8, 15Mi a adwaen dy weithredoedd di, a’th lafur, a’th amynedd, ac na elli oddef y rhai drwg: a #1 Ioan 4:1phrofi ohonot y rhai sydd yn dywedyd eu bod yn apostolion, ac nid ydynt; a chael ohonot hwynt yn gelwyddog: 3A thi a oddefaist, ac y mae amynedd gennyt, ac a gymeraist boen er mwyn fy enw i, ac ni ddiffygiaist. 4Eithr y mae gennyf beth yn dy erbyn, am i ti ymadael â’th gariad cyntaf. 5Cofia gan hynny o ba le y syrthiaist, ac edifarha, a gwna’r gweithredoedd cyntaf: ac #Mat 21:41, 43onid e, yr wyf fi yn dyfod atat ti ar frys, ac mi a symudaf dy ganhwyllbren di allan o’i le, onid edifarhei di. 6Ond hyn sydd gennyt ti, dy fod di yn casáu gweithredoedd #Ad. 15y Nicolaiaid, y rhai yr wyf fi hefyd yn eu casáu. 7#Mat 11:15; 13:9, 43; Ad. 11, 17, 29; Pen 3:6, 13, 22; 13:9Yr hwn sydd ganddo glust, gwrandawed pa beth y mae’r Ysbryd yn ei ddywedyd wrth yr eglwysi; I’r hwn sydd yn gorchfygu, y rhoddaf iddo #Pen 22:2, 14fwyta o #Gen 2:9bren y bywyd, yr hwn sydd yng nghanol paradwys Duw.
8Ac at angel yr eglwys sydd yn Smyrna, ysgrifenna; Y pethau hyn y mae’r #Pen 1:8, 17, 18cyntaf a’r diwethaf, yr hwn a fu farw, ac sydd fyw, yn eu dywedyd; 9#Ad. 2, 13Mi a adwaen dy weithredoedd di, a’th gystudd, a’th dlodi, (eithr #Luc 12:21; Iago 2:5cyfoethog wyt,) ac mi a adwaen gabledd #Rhuf 2:28, 29; 9:6y rhai sydd yn dywedyd eu bod yn Iddewon, ac nid ydynt ond synagog Satan. 10Nac ofna ddim o’r pethau yr ydwyt i’w dioddef. Wele, y cythraul a fwrw rai ohonoch chwi i garchar, fel y’ch profer; a chwi a gewch gystudd ddeng niwrnod. Bydd ffyddlon hyd angau, ac mi a roddaf i ti #Iago 1:12; Pen 3:11goron y bywyd. 11#Ad. 7, 17Yr hwn sydd ganddo glust, gwrandawed beth y mae’r Ysbryd yn ei ddywedyd wrth yr eglwysi; Yr hwn sydd yn gorchfygu, ni chaiff ddim niwed gan #Pen 20:14; 21:8yr ail farwolaeth.
12Ac at angel yr eglwys sydd yn Pergamus, ysgrifenna; Y pethau hyn y mae’r #Pen 1:16hwn sydd ganddo’r cleddyf llym daufiniog, yn eu dywedyd; 13#Ad. 9Mi a adwaen dy weithredoedd di, a pha le yr wyt yn trigo; sef lle mae gorseddfainc Satan: ac yr wyt yn dal fy enw i, ac ni wedaist fy ffydd i, ie, yn y dyddiau y bu Antipas yn ferthyr ffyddlon i mi, yr hwn a laddwyd yn eich plith chwi, lle y mae Satan yn trigo. 14Eithr y mae gennyf ychydig bethau yn dy erbyn di, oblegid bod gennyt yno rai yn dal athrawiaeth #Num 24:14; 25:1; 31:16Balaam, yr hwn a ddysgodd i Balac fwrw rhwystr gerbron meibion Israel, #Ad. 20i fwyta pethau wedi eu haberthu i eilunod, ac i odinebu. 15Felly y mae gennyt tithau hefyd rai yn dal athrawiaeth #Ad. 6y Nicolaiaid, yr hyn beth yr wyf fi yn ei gasáu. 16Edifarha; ac os amgen, yr wyf fi yn dyfod atat ar frys, ac #Esa 11:4; 2 Thess 2:8; Pen 19:15, 21a ryfelaf #2:16 â hwynt.yn eu herbyn hwynt â chleddyf fy ngenau. 17#Ad. 7, 29Yr hwn sydd ganddo glust, gwrandawed beth y mae’r Ysbryd yn ei ddywedyd wrth yr eglwysi; I’r hwn sydd yn gorchfygu, y rhoddaf iddo fwyta o’r manna cuddiedig, ac a roddaf iddo garreg wen, ac ar y garreg #Pen 3:12; 19:12enw newydd wedi ei ysgrifennu, yr hwn nid edwyn neb, ond yr hwn sydd yn ei dderbyn.
18Ac at angel yr eglwys sydd yn Thyatira, ysgrifenna; Y pethau hyn y mae Mab Duw yn eu dywedyd, #Pen 1:14, 15yr hwn sydd â’i lygaid fel fflam dân, a’i draed yn debyg i bres coeth; 19#Ad. 2Mi a adwaen dy weithredoedd di, a’th gariad, a’th wasanaeth, a’th ffydd, a’th amynedd di, #2:19 a bod dy weithredoedd diwethaf yn fwy na’r, & c.a’th weithredoedd; a bod y rhai diwethaf yn fwy na’r rhai cyntaf. 20Eithr y mae gennyf ychydig bethau yn dy erbyn, oblegid dy fod yn gadael i’r wraig honno #1 Bren 16:31; 2 Bren 9:7Jesebel, yr hon sydd yn ei galw ei hun yn broffwydes, ddysgu a thwyllo fy ngwasanaethwyr #Ad. 14i odinebu, ac #Exod 34:15; Act 15:20; 1 Cor 10:19, 20i fwyta pethau wedi eu haberthu i eilunod. 21Ac mi a roddais iddi amser i edifarhau #2:21 oddi wrth.am ei godineb; ac nid edifarhaodd hi. 22Wele, yr wyf fi yn ei bwrw hi ar wely, a’r rhai sydd yn godinebu gyda hi, i gystudd mawr, onid edifarhânt #2:22 oddi wrth.am eu gweithredoedd. 23A’i phlant hi a laddaf â marwolaeth: a’r holl eglwysi a gânt wybod mai #1 Sam 16:7; 1 Cron 28:9; 29:17; Salm 7:9; Jer 11:20; 17:10; Act 1:24; Rhuf 8:27myfi yw’r hwn sydd yn chwilio’r arennau a’r calonnau: ac #Rhuf 2:6; 14:12; 2 Cor 5:10; Gal 6:5; Pen 20:12mi a roddaf i bob un ohonoch yn ôl eich gweithredoedd. 24Eithr wrthych chwi yr wyf yn dywedyd, ac wrth y lleill yn Thyatira, y sawl nid oes ganddynt y ddysgeidiaeth hon, a’r rhai nid adnabuant ddyfnderau Satan, fel y dywedant; Ni fwriaf arnoch #2:24 bwys.faich arall. 25Eithr #Pen 3:11yr hyn sydd gennych, deliwch hyd oni ddelwyf. 26A’r hwn sydd yn gorchfygu, ac yn cadw #Ioan 6:29; 1 Ioan 3:23fy ngweithredoedd hyd y diwedd, mi a roddaf #Mat 19:28; Luc 22:29; 1 Cor 6:3; Pen 3:21iddo awdurdod ar y cenhedloedd: 27#Salm 2:8, 9; 49:14; Pen 12:5; 19:15Ac efe a’u bugeilia hwy â gwialen haearn; fel llestri pridd y dryllir hwynt: fel y derbyniais innau gan fy Nhad. 28Ac mi a roddaf iddo’r #2 Pedr 1:19; Pen 22:16seren fore. 29#Ad. 7Yr hwn sydd ganddo glust, gwrandawed beth y mae’r Ysbryd yn ei ddywedyd wrth yr eglwysi.

Zur Zeit ausgewählt:

Datguddiad 2: BWM1955C

Markierung

Kopieren

Vergleichen

Teilen

None

Möchtest du deine gespeicherten Markierungen auf allen deinen Geräten sehen? Erstelle ein kostenloses Konto oder melde dich an.