Datguddiad 1
1
A.D. 96. —
4 Ioan yn ysgrifennu ei Ddatguddiad at saith eglwys Asia, y rhai a arwyddoceir wrth y saith ganhwyllbren aur. 7 Dyfodiad Crist: 14 ei allu gogoneddus, a’i ardderchowgrwydd ef.
1Datguddiad Iesu Grist, yr hwn a roddes Duw iddo ef, i ddangos i’w wasanaethwyr y pethau sydd raid eu dyfod i ben ar fyrder; a #Pen 22:16chan ddanfon trwy ei angel, efe a’i hysbysodd i’w wasanaethwr Ioan: 2Yr hwn a dystiolaethodd air Duw, a #1 Cor 1:6; Pen 6:9 12:17; Ad. 9thystiolaeth Iesu Grist, a’r holl bethau #1 Ioan 1:1a welodd. 3#Pen 22:7Dedwydd yw’r hwn sydd yn darllen, a’r rhai sydd yn gwrando geiriau’r broffwydoliaeth hon, ac yn cadw y pethau sydd yn ysgrifenedig ynddi: canys #Rhuf 13:11; Iago 5:8; 1 Pedr 4:7; Pen 22:10 y mae’r amser yn agos.
4Ioan at y saith eglwys sydd yn Asia: Gras fyddo i chwi, a thangnefedd, oddi wrth #Exod 3:14; Ad. 8yr hwn sydd, #Ioan 1:1a’r hwn a fu, a’r hwn sydd ar ddyfod; ac oddi wrth #Sech 3:9; 4:10; Pen 4:5 5:6y saith Ysbryd sydd gerbron ei orseddfainc ef; 5Ac oddi wrth Iesu Grist, #Ioan 8:14; Pen 3:14 yr hwn yw y Tyst ffyddlon, #1 Cor 15:20; Col 1:18y Cyntaf‐anedig o’r meirw, a #Pen 17:14; 19:16Thywysog brenhinoedd y ddaear. Iddo ef yr hwn a’n carodd ni, #Heb 9:14; 1 Ioan 1:7ac a’n golchodd ni oddi wrth ein pechodau yn ei waed ei hun, 6Ac a’n #1 Pedr 2:5, 9; Pen 5:10; 20:6gwnaeth ni yn frenhinoedd ac yn offeiriaid i Dduw a’i Dad ef; #1 Tim 6:16; Heb 13:21; 1 Pedr 4:11; 5:11iddo ef y byddo’r gogoniant a’r #1:6 llywodraeth.gallu yn oes oesoedd. Amen. 7#Dan 7:13; Mat 24:30; 26:64; Act 1:11Wele, y mae efe yn dyfod gyda’r cymylau; a phob llygad a’i gwêl ef, ie, #Sech 12:10; Ioan 19:37y rhai a’i gwanasant ef: a holl lwythau’r ddaear a alarant o’i blegid ef. Felly, Amen. 8#Esa 41:4; 44:6; 48:12; Pen 21:6 22:13Mi yw Alffa ac Omega, y dechrau a’r diwedd, medd yr Arglwydd, #Ad. 4; Pen 4:8; 11:17; 16:5yr hwn sydd, a’r hwn oedd, a’r hwn sydd i ddyfod, yr Hollalluog. 9Myfi Ioan, yr hwn wyf hefyd eich brawd, #Phil 1:7; 4:14; 2 Tim 1:8a’ch cydymaith mewn cystudd, ac #Rhuf 8:17; 2 Tim 2:12yn nheyrnas ac amynedd Iesu Grist, oeddwn yn yr ynys a elwir Patmos, #Pen 6:9; Ad. 2am air Duw, ac am dystiolaeth Iesu Grist. 10#Pen 4:2; 17:8; 21:10Yr oeddwn i yn yr ysbryd ar #Ioan 20:26; Act 20:7; 1 Cor 16:2ddydd yr Arglwydd; ac a glywais o’r tu ôl i mi lef fawr fel llais utgorn, 11Yn dywedyd, Mi yw Alffa ac Omega, y cyntaf a’r diwethaf: a’r hyn yr wyt yn ei weled, ysgrifenna mewn llyfr, a danfon i’r saith eglwys y rhai sydd yn Asia; i Effesus, ac i Smyrna, ac i Pergamus, ac i Thyatira, ac i Sardis, a Philadelffia, a Laodicea. 12Ac mi a droais i weled y llef a lefarai wrthyf. Ac wedi i mi droi, mi a welais saith ganhwyllbren aur; 13Ac yng nghanol y saith ganhwyllbren, #Esec 1:26; Dan 7:13; 10:16; Pen 14:14 un tebyg i Fab y dyn, #Dan 10:5wedi ymwisgo â gwisg laes hyd ei draed, ac #Pen 15:6wedi ymwregysu ynghylch ei fronnau â gwregys aur. 14Ei ben ef a’i #Dan 7:9wallt oedd wynion fel gwlân, #1:14 gwyn fel eira.cyn wynned â’r eira; #Dan 10:6; Pen 2:18; 19:12a’i lygaid fel fflam dân; 15#Esec 1:7; Dan 10:6A’i draed yn debyg i bres coeth, megis yn llosgi mewn ffwrn; #Pen 14:2a’i lais fel sŵn llawer o ddyfroedd. 16Ac yr oedd ganddo yn ei law ddeau saith seren: ac #Esa 49:2; Heb 4:12; Pen 2:12, 16; 19:15, 21o’i enau yr oedd cleddau llym daufiniog yn dyfod allan: a’i wynepryd fel yr haul yn disgleirio yn ei nerth. 17A #Esec 1:28phan welais ef, mi a syrthiais wrth ei draed ef fel marw. Ac #Dan 8:18; 10:10efe a osododd ei law ddeau arnaf fi, gan ddywedyd wrthyf, Nac ofna; #Esa 41:4; 44:6; Pen 2:8myfi yw’r cyntaf a’r diwethaf: 18#Rhuf 6:9 A’r hwn wyf fyw, ac a fûm farw; ac wele, byw ydwyf yn oes oesoedd, Amen; ac #Salm 68:20; Pen 20:1y mae gennyf agoriadau uffern a marwolaeth. 19Ysgrifenna’r pethau a welaist, a’r pethau sydd, a’r pethau a fydd ar ôl hyn; 20Dirgelwch y saith seren a welaist yn fy llaw ddeau, a’r saith ganhwyllbren aur. Y saith seren, #Mal 2:7angylion y saith eglwys ydynt: #Sech 4:2; Mat 5:15; Phil 2:15a’r saith ganhwyllbren a welaist, y saith eglwys ydynt.
Zur Zeit ausgewählt:
Datguddiad 1: BWM1955C
Markierung
Kopieren
Vergleichen
Teilen
Möchtest du deine gespeicherten Markierungen auf allen deinen Geräten sehen? Erstelle ein kostenloses Konto oder melde dich an.
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society