Effesiaid 5
5
A.D. 64. —
2 Ar ôl cynghorion cyffredinol i garu eu gilydd, 3 ac i ochelyd godineb, 4 a phob aflendid, 7 ac i beidio â chytal â’r annuwiol, 15 ac i rodio yn ddiesgeulus, 18 ac i fod yn llawn o’r Ysbryd; 22 y mae efe yn dyfod at ddyledion penodol: pa fodd y dylai gwragedd ufuddhau i’w gwŷr, 25 a gwŷr garu eu gwragedd, 32 megis y mae Crist yn caru ei eglwys.
1 #
Mat 5:45
Byddwch gan hynny ddilynwyr Duw, fel plant annwyl; 2A #Ioan 13:34; 15:12rhodiwch mewn cariad, #Gal 2:20; Heb 9:14megis y carodd Crist ninnau, ac a’i rhoddodd ei hun drosom ni, yn offrwm ac yn aberth i Dduw o arogl peraidd. 3Eithr #Col 3:5; 1 Thess 4:3 &cgodineb, a phob aflendid, neu gybydd‐dra, nac enwer chwaith yn eich plith, megis y gweddai i saint; 4#Mat 12:34, 35; Pen 4:29Na #5:4 brynti.serthedd, nac ymadrodd ffôl, na choeg ddigrifwch, pethau nid ydynt weddus: eithr yn hytrach rhoddi diolch. 5Canys yr ydych chwi yn gwybod hyn, am #1 Cor 6:9; Gal 5:21bob puteiniwr, neu aflan, neu gybydd, #Col 3:5yr hwn sydd ddelw‐addolwr, nad oes iddynt etifeddiaeth yn nheyrnas Crist a Duw. 6#Mat 24:4; Col 2:4, 8, 18Na thwylled neb chwi â geiriau ofer: canys oblegid y pethau hyn #Rhuf 1:18y mae digofaint Duw yn dyfod #Pen 2:2ar blant yr #5:6 anghrediniaeth.anufudd‐dod. 7Na fyddwch gan hynny gyfranogion â hwynt. 8Canys yr oeddech chwi #5:8 ryw amser.gynt yn dywyllwch, ond yr awron #2 Cor 3:18; 1 Thess 5:5goleuni ydych yn yr Arglwydd: rhodiwch fel #Luc 16:8plant y goleuni; 9(Canys #Gal 5:22ffrwyth yr Ysbryd sydd ym mhob daioni, a chyfiawnder, a gwirionedd;) 10Gan brofi #Rhuf 12:2beth sydd gymeradwy gan yr Arglwydd. 11Ac #1 Cor 5:9; 10:20na fydded i chwi gydgyfeillach â #Rhuf 6:21; 13:12; Gal 6:8gweithredoedd anffrwythlon y tywyllwch, eithr yn hytrach argyhoeddwch hwynt. 12Canys brwnt yw adrodd y pethau a wneir ganddynt hwy yn ddirgel. 13Eithr #Ioan 3:20, 21; Heb 4:13pob peth, wedi #5:13 y datguddier.yr argyhoedder, a eglurir gan y goleuni: canys beth bynnag sydd yn egluro, goleuni yw. 14Oherwydd paham y mae efe yn dywedyd, #Esa 60:1; Rhuf 13:11, 12Deffro di yr hwn wyt yn cysgu, a #Ioan 5:25; Rhuf 6:4, 5; Pen 2:5; Col 3:1chyfod oddi wrth y meirw; a Christ a oleua i ti. 15#Col 4:5#5:15 Edrychwch.Gwelwch gan hynny pa fodd y rhodioch yn ddiesgeulus, nid fel annoethion, ond fel doethion; 16Gan brynu’r amser, #Preg 11:2; Ioan 12:35; Pen 6:13; Gal 6:10oblegid y dyddiau sydd ddrwg. 17Am hynny na fyddwch annoethion, eithr #Rhuf 12:2yn deall beth yw ewyllys yr Arglwydd. 18Ac #Diar 20:1; 23:20; Luc 21:34na feddwer chwi gan win, yn yr hyn y mae gormodedd; eithr llanwer chwi â’r Ysbryd; 19Gan lefaru wrth eich gilydd #Col 3:16; Iago 5:13mewn salmau, a hymnau, ac odlau ysbrydol; gan ganu a phyncio yn eich calon i’r Arglwydd; 20#Salm 34:1; 1 Thess 5:18Gan ddiolch yn wastad i Dduw a’r Tad am bob peth, #Heb 13:15; 1 Pedr 2:5; 4:11yn enw ein Harglwydd Iesu Grist; 21#1 Pedr 5:5Gan ymddarostwng i’ch gilydd yn ofn Duw. 22#1 Cor 14:34; Col 3:18; Titus 2:6; 1 Pedr 3:1Y gwragedd, ymostyngwch i’ch gwŷr priod, #Pen 6:5megis i’r Arglwydd. 23Oblegid #1 Cor 11:3y gŵr yw pen y wraig, megis ag y mae #Pen 1:22; 4:15; Col 1:18Crist yn ben i’r eglwys; ac efe yw Iachawdwr #Pen 1:23y corff. 24Ond fel y mae’r eglwys yn ddarostyngedig i Grist, felly hefyd bydded y gwragedd i’w gwŷr priod #Col 3:20, 22; Titus 2:9ym mhob peth. 25#Col 3:19; 1 Pedr 3:7Y gwŷr, cerwch eich gwragedd, megis ag y carodd Crist yr eglwys, ac #Gal 1:4; Ad. 2a’i rhoddes ei hun drosti; 26Fel y sancteiddiai efe hi, a’i glanhau #Ioan 3:5; Titus 3:5; Heb 10:22; 1 Ioan 5:6â’r olchfa ddwfr #Ioan 15:3; 17:17trwy y gair; 27Fel y gosodai efe hi yn #5:27 eglwys ogoneddus iddo ei hun, heb, & c.ogoneddus iddo ei hun, yn eglwys #Can 4:7; Col 1:22heb arni na brycheuyn na chrychni, na dim o’r cyfryw; ond fel y byddai yn sanctaidd ac yn ddifeius. 28Felly y dylai’r gwŷr garu eu gwragedd, megis eu cyrff eu hunain. Yr hwn a garo ei wraig, sydd yn ei garu ei hun. 29Canys ni chasaodd neb erioed ei gnawd ei hun; eithr ei fagu a’i feithrin y mae, megis ag y mae’r Arglwydd am yr eglwys: 30Oblegid #1 Cor 6:15; 12:27aelodau ydym o’i gorff ef, o’i gnawd ef, ac o’i esgyrn ef. 31#Gen 2:24; Mat 19:5; Marc 10:7; 1 Cor 6:16Am hynny y gad dyn ei dad a’i fam, ac y glŷn wrth ei wraig, a hwy a fyddant ill dau yn un cnawd. 32Y dirgelwch hwn sydd fawr: eithr am Grist ac am yr eglwys yr wyf fi yn dywedyd. 33Ond chwithau hefyd cymain un, felly cared pob un ohonoch ei wraig, fel ef ei hunan; a’r wraig edryched ar iddi berchi ei gŵr.
Zur Zeit ausgewählt:
Effesiaid 5: BWM1955C
Markierung
Kopieren
Vergleichen
Teilen
Möchtest du deine gespeicherten Markierungen auf allen deinen Geräten sehen? Erstelle ein kostenloses Konto oder melde dich an.
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society