Effesiaid 4
4
A.D. 64. —
1 Y mae yn eu hannog hwynt i undeb; 7 ac yn dangos bod Duw yn rhoddi amryw 11 ddoniau i ddynion, er mwyn 13 adeiladaeth ei eglwys, a’i 16 chynnydd yng Nghrist. 17 Y mae yn eu galw hwynt oddi wrth amhurdeb y cenhedloedd, 24 i wisgo y dyn newydd; 25 ac i fwrw ymaith gelwydd, 29 ac ymadrodd llygredig.
1Deisyf gan hynny arnoch yr wyf fi, #Pen 3:1#4:1 carcharor yr.y carcharor yn yr Arglwydd, #Phil 1:27; Col 1:10; 1 Thess 2:12ar rodio ohonoch yn addas i’r alwedigaeth y’ch galwyd iddi, 2#Col 3:12, 13Gyda phob gostyngeiddrwydd ac addfwynder, ynghyd â hirymaros, gan oddef eich gilydd mewn cariad; 3Gan fod yn ddyfal i gadw undeb yr Ysbryd yng nghwlwm tangnefedd. 4#Rhuf 12:5Un corff sydd, ac #1 Cor 12:4un Ysbryd, megis ag y’ch galwyd yn un gobaith eich galwedigaeth; 5#1 Cor 8:6; 12:5Un Arglwydd, un ffydd, un bedydd, 6#Mal 2:10; 1 Cor 12:6Un Duw a Thad oll, yr hwn sydd goruwch oll, a thrwy oll, ac ynoch oll. 7Eithr #Rhuf 12:6; 1 Cor 12:11i bob un ohonom y rhoed gras, yn ôl mesur dawn Crist. 8Oherwydd paham y mae efe yn dywedyd, #Salm 68:18Pan ddyrchafodd i’r uchelder, #Col 2:15efe a gaethiwodd #4:8 liaws o gaethion.gaethiwed, ac a roddes roddion i ddynion. 9(#Ioan 3:13Eithr efe a ddyrchafodd, beth yw ond darfod iddo hefyd ddisgyn yn gyntaf i barthau isaf y ddaear? 10Yr hwn a ddisgynnodd, yw’r hwn hefyd a esgynnodd goruwch yr holl nefoedd, #Act 2:33fel y #4:10 llanwai.cyflawnai bob peth.) 11#1 Cor 12:28Ac efe a roddes rai yn apostolion, a rhai yn broffwydi, a rhai #Act 21:8; 2 Tim 4:5yn efengylwyr, a rhai yn fugeiliaid ac #Rhuf 12:7yn athrawon; 12I berffeithio’r saint, i waith y weinidogaeth, i adeilad #Pen 1:23; Col 1:24corff Crist: 13Hyd onid ymgyfarfyddom oll #4:13 i.yn undeb ffydd, a gwybodaeth Mab Duw, yn ŵr perffaith, at fesur #4:13 maintioli.oedran cyflawnder Crist: 14Fel na byddom mwyach #Esa 28:9; 1 Cor 14:20yn blantos, #Heb 13:9yn bwhwman, ac yn ein cylcharwain â phob awel dysgeidiaeth, trwy hoced dynion, trwy gyfrwystra i gynllwyn #4:14 twyll.i dwyllo: 15Eithr, #Sech 8:16gan fod yn #4:15 eirwir.gywir mewn cariad, #Pen 1:22; 2:21cynyddu ohonom iddo ef ym mhob peth, #Col 1:18yr hwn yw’r pen, sef Crist: 16#Col 2:19O’r hwn y mae’r holl gorff wedi ei gydymgynnull a’i gydgysylltu, trwy bob #4:16 cyswllt.cymal cynhaliaeth, yn ôl y nerthol weithrediad ym mesur pob rhan, yn gwneuthur cynnydd y corff, i’w adeiladu ei hun mewn cariad. 17Hyn gan hynny yr wyf yn ei ddywedyd, ac yn ei dystiolaethu yn yr Arglwydd, #1 Pedr 4:3na rodioch chwi mwyach fel y mae’r Cenhedloedd eraill yn rhodio, #Rhuf 1:21yn oferedd eu meddwl, 18Wedi tywyllu eu deall, #Pen 2:12wedi ymddieithrio oddi wrth fuchedd Dduw, trwy’r anwybodaeth sydd ynddynt, trwy #4:18 galedrwydd.#Rhuf 1:21ddallineb eu calon: 19Y rhai wedi diddarbodi, #Rhuf 1:24, 26a ymroesant i drythyllwch, i wneuthur pob aflendid yn unchwant. 20Eithr chwychwi, nid felly y dysgasoch Grist; 21Os bu i chwi ei glywed ef, ac os dysgwyd chwi ynddo, megis y mae’r gwirionedd yn yr Iesu: 22#Col 2:11; 3:8; 1 Pedr 2:1Dodi ohonoch heibio, o ran #Pen 2:2, 3; 1 Pedr 4:3yr ymarweddiad cyntaf, #Rhuf 6:6yr hen ddyn, yr hwn sydd lygredig yn ôl y chwantau twyllodrus; 23Ac #Rhuf 12:2ymadnewyddu yn ysbryd eich meddwl; 24A #Rhuf 6:4; 2 Cor 5:17gwisgo’r dyn newydd, yr hwn yn ôl Duw a grewyd mewn cyfiawnder #4:24 sancteiddrwydd y gwirionedd.a gwir sancteiddrwydd. 25Oherwydd paham, gan fwrw ymaith gelwydd, #Sech 8:16dywedwch y gwir bob un #4:25 gyda’i.wrth ei gymydog: oblegid #Rhuf 12:5aelodau ydym i’n gilydd. 26#Salm 4:4; 37:8Digiwch, ac na phechwch: na fachluded yr haul ar eich digofaint chwi: 27Ac #Iago 4:7; 1 Pedr 5:9na roddwch le i ddiafol. 28Yr hwn a ladrataodd, na ladrated mwyach: eithr yn hytrach #Act 20:35; 1 Thess 4:11; 2 Thess 3:8, 11, 12cymered boen, gan weithio â’i ddwylo yr hyn sydd dda; fel y byddo ganddo beth i’w #4:28 roddi.gyfrannu i’r hwn y mae angen arno. 29#Pen 5:4Na ddeued un ymadrodd llygredig allan o’ch genau chwi, ond #Col 4:6y cyfryw un ag a fyddo da i adeiladu yn fuddiol, fel y paro ras i’r gwrandawyr. 30Ac #Esa 7:13; 63:10; 1 Thess 5:19na thristewch Lân Ysbryd Duw, #Pen 1:13trwy’r hwn y’ch seliwyd hyd ddydd #Luc 21:28; Pen 1:14prynedigaeth. 31#Col 3:8, 19Tynner ymaith oddi wrthych bob chwerwedd, a llid, a dig, a llefain, a chabledd, gyda phob drygioni: 32#2 Cor 2:10; Col 3:12, 13A byddwch gymwynasgar i’ch gilydd, yn dosturiol, #Mat 6:14; Marc 11:25yn maddau i’ch gilydd, megis y maddeuodd Duw #4:32 yng Nghrist.er mwyn Crist i chwithau.
Zur Zeit ausgewählt:
Effesiaid 4: BWM1955C
Markierung
Kopieren
Vergleichen
Teilen
Möchtest du deine gespeicherten Markierungen auf allen deinen Geräten sehen? Erstelle ein kostenloses Konto oder melde dich an.
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society